Cymru i dreialu 'cerdyn glas' am gam-drin dyfarnwyr
- Cyhoeddwyd
Bydd chwech o gynghreiriau pêl-droed Cymru'n treialu defnydd o gell gosb y tymor nesaf, mewn ymgais i leihau nifer yr achosion o gam-drin ac anghytuno gyda dyfarnwyr.
Pan fydd cerdyn glas yn cael ei ddangos bydd rhaid i chwaraewyr adael y cae am 10 munud - trefn debyg i gardiau melyn sy'n cael eu defnyddio mewn rygbi.
Daeth cadarnhad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) y byddan nhw'n treialu'r gell gosb yn dilyn cyfarfod gyda chynrychiolwyr o'r chwe cynghrair.
Fe fuon nhw hefyd yn trafod gyda Chymdeithas Bêl-droed Lloegr, sydd wedi cyflwyno system debyg ers sawl tymor ar lawr gwlad.
Mae Clwb Cymric yn chwarae yng Nghynghrair Undebol De Cymru, un o'r chwe chynghrair fydd yn chwarae dan y rheolau newydd.
Dywedodd y clwb fod y rheolau newydd mewn lle i "amddiffyn y dyfarnwyr... ac yn annog dyfarnwyr newydd mewn i'r gêm".
Mae'r clwb yn gobeithio bydd y rheol yn gyson o wythnos i wythnos.
"Yn ein profiad ni, mae'r trothwy o dissent ar gyfer cardiau melyn a coch wedi amrywio'n ddramatig o wythnos i wythnos, gyda gwahanol ddyfarnwyr yn dod i gasgliadau gwahanol iawn," meddai llefarydd ar ran y clwb.
"Felly mae'n hanfodol bod pob dyfarnwr yn gweithredu'r rheol newydd 'ma yn gyson.
"Bydd hyn yn sicrhau bod chwaraewyr pob tîm yn gwybod yn union be i ddisgwyl o wythnos i wythnos."
'Gweithio'n dda yn rygbi'
Mae Ynyr Clwyd yn un o chwaraewyr Clwb Cymric, ac mae'n meddwl ei bod hi'n "rheol ddiddorol iawn i gyflwyno".
"Ond mae dyfarnwyr yn cael gyrru pobl ffwrdd am dissent rŵan," meddai.
"Mae i'w weld yn gweithio reit dda efo rygbi, felly bydd hi'n ddiddorol gweld os geith o ddylanwad o gwbl ym mhêl-droed.
"Dwi'n siŵr nes i glywed bo' nhw 'di treialu fo yn Lloegr ychydig flynyddoedd yn ôl, ond dwi ddim yn siŵr pa mor llwyddiannus oedd o, felly mi fydd o'n ddiddorol gweld sut eith o lawr yn fan 'ma."
Ers cael ei gyflwyno yn Lloegr mae cadeirydd Gêm y Gymuned CBDC, Mark Adams yn dweud bod "38% yn llai o gardiau am anghytuno gyda dyfarnwyr", a bwriad cyflwyno'r un rheol yng Nghymru yw "cynyddu niferoedd dyfarnwyr i helpu pêl-droed llawr gwlad".
'Peth da i'r gêm'
Mae Kieran Jones yn chwarae ei bêl-droed i Glwb Machynlleth yng Nghynghrair Bêl-droed Canolbarth Cymru.
"Mae cam-drin dyfarnwyr, yn anffodus, yn rhywbeth rheolaidd yn y gêm," meddai.
"Ac ar ddiwedd y dydd dylai dyfarnwyr gael eu parchu, yn debyg iawn i un ar gae rygbi. Felly ydw, rwy'n credu bod ei angen [y cerdyn glas].
"Felly os gaiff o ei ddefnyddio yn y ffordd gywir gan y dyfarnwr, rwy'n credu byddai'n beth da i'r gêm."
'Hyfforddiant cell gosb'
Yn ôl datganiad CBDC, bydd y "chwaraewyr a'r dyfarnwyr sydd ynghlwm â'r treial yn derbyn hyfforddiant" cyn dechrau'r tymor ar sut fydd y cerdyn glas yn gweithio.
Bydd CBDC yn monitro'r digwyddiadau o gam-drin ac anghytuno gyda dyfarnwyr ar hyd y tymor, i benderfynu os ydyn nhw am ehangu'r polisi ar draws pêl-droed llawr gwlad.
Dywedodd Noel Mooney, prif weithredwr CBDC: "Ein bwriad yw gwneud pêl-droed y gamp fwyaf cynwysedig, hygyrch a llwyddiannus ym mhob rhan o Gymru.
"Mae treialu'r 'gell gosb' am ein helpu i gyrraedd ein bwriad o hybu chwarae teg mewn pêl-droed llawr gwlad, sydd am gynyddu cyfranogiad a chryfhau'r gêm yn ei gyfanrwydd."
Ychwanegodd Lee Evans, Rheolwr Cenedlaethol Swyddogion y Gêm CBDC: "Bydd gwaharddiad 10 munud o'r gêm yn grymuso dyfarnwyr ac yn eu galluogi i weithredu'n gryfach i atal anghytuno a cham-drin mewn gemau.
"Unwaith bydd chwaraewyr yn sylweddoli y byddan nhw oddi ar y cae am 10 munud, byddan nhw'n anghytuno gyda'r dyfarnwr yn llai aml."
Newid meddylfryd chwaraewyr?
"Dwi'n trio bihafio bob tro dwi ar y cae, ond mae'n siŵr y gwneith o 'neud i fi feddwl hyd yn oed fwy cyn deud rhywbeth [at ddyfarnwr] rŵan," meddai Ynyr Clwyd.
"Mi fydd o'n ddiddorol gweld sut neith o weithio a sut mae'r dyfarnwyr unigol yn ei ddefnyddio. Ar ddiwedd y dydd, penderfyniad y dyfarnwr unigol fydd o."
Ychwanegodd Kieran Jones: "Mae cael 11 dyn ar y cae yn mynd i fod yn fwy buddiol i'r garfan na gadael i'r dyfarnwr wybod fy nheimladau.
"Felly bydd well i fi ymddwyn fy hun ar y cae!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023
- Cyhoeddwyd29 Mai 2023