Cyflwyno celloedd cosb am gam-drin dyfarnwyr pêl-droed

Dyfarnwr yng NghymruFfynhonnell y llun, CBDC
  • Cyhoeddwyd

Bydd celloedd cosb yn cael eu defnyddio mewn gemau pêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru o dymor 2024-25 ymlaen, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cadarnhau.

Nod y gymdeithas yw gwella ymddygiad chwaraewyr a'r ffordd y mae dyfarnwyr yn cael eu trin ar y cae.

Bydd chwaraewyr sy'n anghytuno ac yn dadlau gyda phenderfyniad y dyfarnwr yn derbyn cerdyn melyn ac yn gorfod gadael y cae am o leiaf 10 munud.

Dywedodd prif weithredwr CBDC, Noel Mooney, fod parchu a chefnogi swyddogion "yn allweddol i dyfu ein gêm".

Daw'r newid yn dilyn cyfnod prawf llwyddiannus, gyda'r system yn cael ei defnyddio mewn bron i 1,300 o gemau mewn chwe chystadleuaeth llawr gwlad ledled Cymru'r tymor hwn.

Dangosodd y treialon fod rhybuddion gan ddyfarnwyr i chwaraewyr am anghytuno wedi gostwng 34% o'i gymharu â'r tymor blaenorol.

Bu gostyngiad o 32% hefyd yn nifer y cardiau coch gafodd eu dangos i chwaraewyr am ddefnyddio iaith sarhaus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Cheryl Foster, mae'n rhaid sicrhau bod chwaraewyr yn parchu dyfarnwyr

Ym mis Awst 2023, datgelodd arolwg gan CBDC fod un o bob pedwar swyddog yng Nghymru wedi cael eu cam-drin yn gorfforol wrth ddyfarnu.

O’r 282 o bobl wnaeth ymateb i arolwg CBDC, dywedodd 88% eu bod wedi cael eu cam-drin yn eiriol.

Dywedodd Cheryl Foster, y Gymraes sydd wedi dyfarnu rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr: "Mae'n rhaid ei reoli, mae'n rhaid delio ag achosion o gam-drin swyddogion lawer gwell."

"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n delio â'r mater, a bod pobl yn parchu'r dyfarnwr ar y cae."

'Cam arwyddocaol'

Ychwanegodd Mr Mooney: “Mae danfon chwaraewyr o’r cae dros dro yn gam arwyddocaol ar ein taith i sicrhau bod pêl-droed yn gamp gynhwysol, hygyrch a llwyddiannus yng Nghymru.

"Mae hynny'n golygu creu amgylchedd diogel a phleserus i bawb sy'n cymryd rhan mewn pêl-droed, gan gynnwys swyddogion gêm."

Ni fydd danfon chwaraewyr o’r cae dros dro yn berthnasol i unrhyw gystadlaethau cenedlaethol.