Dynes o Gaerdydd yn ddieuog o stelcian teulu Madeleine McCann

Karen SpraggFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Karen Spragg, 60, wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes 60 oed o Gaerdydd wedi ei chael yn ddieuog o stelcian ac aflonyddu ar deulu Madeleine McCann.

Diflannodd Madeleine yn dair oed yn ystod gwyliau gyda'i theulu ym Mhortiwgal yn 2007, ac mae'r achos yn parhau heb ei ddatrys.

Roedd Karen Spragg, o ardal Caerau yng Nghaerdydd, wastad wedi gwadu'r cyhuddiad o stelcian gan achosi braw neu drallod difrifol, a chyhuddiad arall o aflonyddu.

Fe benderfynodd hi i beidio â chyflwyno tystiolaeth fel rhan o'i hamddiffyniad yn ystod yr achos.

Roedd Ms Spragg yn ei dagrau wrth iddi adael y gwrandawiad yn Llys y Goron Caerlŷr fore Gwener.

Mae dynes arall, Julia Wandel o Wlad Pwyl, hefyd wedi ei chael yn ddieuog o stelcian y teulu, ond cafwyd hi'n euog o gyhuddiad o aflonyddu.

Clywodd y llys ei bod yn debygol o gael ei hanfon yn ôl i Wlad Pwyl ar derfyn yr achos.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig