Penodi'r ddynes gyntaf ers canrif yn llywydd Canolfan Cymry Llundain

Nan WilliamsFfynhonnell y llun, Canolfan Cymry Llundain
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nan Williams fod y ganolfan yn parhau yn "gartref i bobl Cymreig Llundain"

  • Cyhoeddwyd

Mae Nan Williams wedi ei phenodi yn Llywydd newydd Canolfan Cymry Llundain - yr ail ddynes erioed i ddal y swydd.

"Y Foneddiges Margaret Lloyd George oedd y gynta' ac mae hynny bron i ganrif yn ôl, felly dwi'n meddwl ei bod hi'n amser i ddynes arall i 'neud y swydd!" meddai.

Yn wreiddiol o Sir Fôn ac wedi ei haddysgu yn Llanidloes, mae hi wedi byw tu allan i Gymru ers ei dyddiau coleg, ond yn parhau yn falch iawn o'i Chymreictod.

Dywedodd ei fod yn "anrhydedd" i fod yn llywydd y ganolfan, sydd wedi ei lleoli yng nghalon Llundain.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n amser i ddynes arall i 'neud y swydd"

Nan Williams yn siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru

Cafodd y ganolfan ei hagor yn 1937 gan y Foneddiges Lloyd George, ac mae'n parhau yn "gartref i bobl Cymreig Llundain", meddai Ms Williams.

Dywedodd bod pobl yn heidio yno i wylio gemau rygbi a phêl-droed, ymarferion côr, digwyddiadau fel nosweithiau comedi, i'r bar, ac am wersi Cymraeg; rhywbeth mae hi'n falch iawn ohono.

"Mae 'na lawer o bobl yn Llundain yn siarad Cymraeg ac eisiau gwneud hynny bob wythnos, mae 'na rai eisiau dysgu o ddim, ac mae hynny'n ardderchog i mi yn Llundain, achos mae'r iaith yn bersonol iawn i mi."

Canolfan Cymry LlundainFfynhonnell y llun, Canolfan Cymry Llundain
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymry Llundain wedi heidio i'r ganolfan ar 157-163 Grays Inn Road ers iddi agor yn 1937

Ond dydi cynnal y ganolfan ddim heb ei heriau, eglurai, yn enwedig gan fod angen gwaith diweddaru'r adeilad er mwyn ei gwneud yn fwy hygyrch; dyna fydd un o'i thasgau cyntaf fel llywydd.

"Mae'n rhaid i ni lansio ymgyrch i godi arian ar gyfer y ganolfan. Mae'r adeilad bron iawn yn 90 oed; mae'n berl art deco ac mae'n listed.

"Ond does ganddon ni ddim lifft i bobl ddod i mewn ac i fwynhau popeth sydd ymlaen yn y ganolfan, felly mae hi'n bwysig iawn fod yr accessibility yna.

"Mae'n rhaid i ni gael arian fel elusen i gadw iddo fo fynd."

Lluniau o'r archif: Y ganolfan ar hyd y degawdau

Criw yn y ganolfan yn ystod yr Ail Ryfel BydFfynhonnell y llun, Canolfan Cymry Llundain
Disgrifiad o’r llun,

Noson o hwyl yn y ganolfan yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Marie Davies, Arglwydd Ogmore, U Kyin, Carol MorganFfynhonnell y llun, Canolfan Cymry Llundain
Disgrifiad o’r llun,

Llywydd Cymdeithas Cymry Llundain, yr Arglwydd Ogmore yn cwrdd â U Kyin, llysgennad Burma i'r Deyrnas Unedig ar Ddydd Gŵyl Dewi 1956. Ar y chwith mae Marie Davies o Lannon ac ar y dde Carol Morgan o Dregan

Petula Clarke a Chôr Ieuenctid Cymry Llundain yn 1969Ffynhonnell y llun, Canolfan Cymry Llundain
Disgrifiad o’r llun,

Petula Clarke a Chôr Ieuenctid Cymry Llundain yn 1969

Aled JonesFfynhonnell y llun, Canolfan Cymry Llundain
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiad gan yr Aled Jones ifanc

Côr Meibion Gwalia
Disgrifiad o’r llun,

Côr Meibion Gwalia - a gafodd ei sefydlu yn 1967 - yw un o'r pedwar côr sydd yn ymarfer yn y ganolfan

Ffans yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ffans yn dathlu wrth wylio gêm Cymru v Lloegr yn Euro 2016

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig