Meigryn: Croesawu cymorth drwy gyffur newydd
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Abertawe sy'n dioddef yn gyson o feigryn wedi croesawu cyffur newydd allai fod ar gael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru cyn hir.
Mae Angharad Dafis, sydd wedi bod yn cael meigryn cyson ers bron i 30 mlynedd, yn disgrifio'r cyflwr fel "saeth drwy'ch pen", gan ddweud bod yn rhaid cael cymorth drwy gyffuriau yn syth cyn iddo gael mwy o effaith wrth i'r diwrnod fynd yn ei flaen.
Mae Atogepant eisoes ar gael yn Yr Alban ac mae NICE, y corff sy'n edrych ar gyffuriau newydd, wedi ei gymeradwyo ar gyfer ei ddefnyddio yng Nghymru a Lloegr.
Byddai'n cael ei gynnig i'r rhai sy'n cael o leiaf pedwar o ddyddiau meigryn mewn mis, ac os yw triniaethau eraill wedi methu.
'Angen mwy o ymchwil'
Yn ôl Angharad Dafis, yr hyn sy'n anodd gyda meigryn yw nad oes posib rhagweld pryd y bydd yn taro, ac mae'n dweud bod cyffuriau i'w drin yn hanfodol.
Mae'n galw hefyd am ragor o ymchwil i'r cyflwr.
"Mae pobl sy'n dioddef migraine - dim eisiau cyffuriau maen nhw fel y cyfryw - mae cyffuriau yn hanfodol, ond rhywbeth sy'n mynd i waelod y peth os yw hynny'n bosib o gwbl, oherwydd ei fod yn gyflwr mor drofaus ac mor ddirgel yn ei ffurf."
Mae meigryn yn gyflwr sy'n effeithio ar fywydau 10 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig i wahanol raddau.
Mae'r boen yn effeithio ar allu i weithio a chymdeithasu, yn ogystal â chael effaith ar iechyd meddwl.
Atogepant yw'r cyffur cyntaf ar ffurf tabled ddyddiol i fod ar gael ar y gwasanaeth iechyd.
Cwestiynu'r meini prawf
Mae Angharad Dafis yn croesawu unrhyw gyffur newydd sydd wedi ei dreialu'n benodol, ond yn dweud bod y "meini prawf" ar gyfer derbyn cyffur yn gallu bod yn rhwystr.
"Os mai dim ond un migraine yr wythnos dwi'n gael, dwi'n ystyried bod honna'n wythnos dda, felly fe fydden i'n dod i mewn i'r meini prawf wedyn [ar gyfer y cyffur newydd]."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cyflyrau cur pen fel meigryn yn cael effaith ddifrifol ar y rhai sy'n dioddef, a bod pob meddyginiaeth sydd wedi cael eu cymeradwyo gan NICE neu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gael yng Nghymru pan fo hynny'n glinigol briodol.
"Rydyn ni yn croesawu unrhyw driniaethau newydd sy'n cefnogi pobl sy'n cael eu heffeithio gan feigryn ac yn darparu amrywiaeth o opsiynau i gefnogi penderfyniadau clinigol a chynlluniau triniaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd5 Mai 2018
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2019