Cadarnhau enw Cymraeg swyddogol ar bentref yn y gogledd

New Brighton Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Pentre Cythrel yw enw swyddogol Cymraeg newydd New Brighton ger Yr Wyddgrug

  • Cyhoeddwyd

Mae cyngor wedi cadarnhau enw Cymraeg swyddogol i bentref yng ngogledd-ddwyrain Cymru.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi penderfynu mai Pentre Cythrel fydd yr enw Cymraeg swyddogol ar New Brighton ger Yr Wyddgrug.

Daw hyn yn dilyn ymgyrch gan drigolion lleol i'r enw gael ei dderbyn yn swyddogol ochr yn ochr â’r enw Saesneg.

Fe wnaeth cynghorwyr yr ardal bleidleisio i'r pentref gael ei gydnabod fel Pentre Cythrel, ac mae gwaith wedi cychwyn er mwyn sicrhau fod yr enw Cymraeg yn cael ei gynrychioli.

Am genedlaethau mae pentref New Brighton wedi ei alw’n Gymraeg yn ‘Pentre Cythraul’ sy’n cyfieithu’n fras fel 'The Devil’s Village' yn Saesneg.

Ond fe gytunodd cynghorwyr lleol ar y sillafiad gwahanol - Pentre Cythrel - wedi iddo gael ei argymell gan banel o arbenigwyr.

Yn dilyn lansio ymgyrch 'nôl yn 2019 gan bobl leol, mae'r enw newydd wedi ei dderbyn ar restr safonol enwau llefydd Comisiynydd y Gymraeg.

Yn dilyn ymgynghoriad gyda phobl leol, cafwyd llond llaw o wrthwynebiadau i 'Cythraul' oherwydd ystyr y gair.

Does dim cofnod ysgrifenedig o’r enw ‘Pentre Cythraul’ mewn dogfennau hanesyddol.

Ond mae’r enw i’w weld ar y neuadd gymunedol yno ac ar gyfrif gwefan gymdeithasol y pentref.

Dywedodd y cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden: “Fel aelod lleol Pentre Cythrel, dwi’n falch iawn bod gennym ni enw Cymraeg a gydnabyddir o’r diwedd.

"Mae preswylwyr lleol wedi bod yn defnyddio’r enw Cymraeg ers llawer o flynyddoedd, ac felly mae hwn wedi bod yn gam a groesawyd ganddynt."

Pynciau cysylltiedig