'Angen amddiffyn hawl pob awdur i ysgrifennu y tu hwnt i'w brofiad'
- Cyhoeddwyd
Mae angen amddiffyn hawl pob awdur i ysgrifennu y tu hwnt i'w brofiad ond ar yr un pryd sicrhau amrywiaeth o awduron, yn ôl un o benaethiaid y Cyngor Llyfrau.
Yn sgil atal y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2024, mae sawl trafodaeth wedi bod ar sut y dylai awduron gynrychioli amrywiaeth cymdeithas.
Mae rhai wedi cwestiynu a ddylai awduron ysgrifennu am brofiadau nad ydyn nhw wedi eu cael eu hunain.
"Mae cyhoeddwyr Cymraeg wedi bod yn ehangu y gynrychiolaeth sydd yn ein llenyddiaeth ers tro - a hynny mewn ffordd hynod o sensitif," medd Pennaeth Datblygu Cyhoeddi y Cyngor Llyfrau, Arwel Jones gan gyfeirio at y gyfres Pump a llyfr diweddar Casia Wiliam ar Betty Campbell.
Dywed ei fod wedi'i siomi wedi iddo weld neges gan Ms Wiliam ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud y byddai'n gwrthod ysgrifennu'r llyfr heddiw yn sgil trafodaethau'r misoedd diwethaf.
"Dwi'n gwerthfawrogi be mae Casia yn ei ddweud, dwi'n meddwl bod o'n drueni a dwi'n meddwl y byddwn ni'n amddiffyn hawl pob awdur i ysgrifennu y tu hwnt i'w profiad," meddai Arwel Jones gan ychwanegu ei bod hi wastad yn nod ac yn uchelgais i gael amrywiaeth o awduron yn ogystal ag amrywiaeth cynnwys.
"Chewch chi ddim mo'r cynnwys gorau oni bai bod amrywiaeth o awduron yn ogystal ond hefyd mae'n rhaid amddiffyn yr hawl yna i chi ysgrifennu y tu hwnt i'ch profiad eich hun a gwneud hynny yn ofalus, yn drylwyr, yn sensitif.
"Dyna pam mae golygyddion 'dan ni'n eu cefnogi yn y Cyngor Llyfrau wedi cael hyfforddiant gan bobl fel Gareth Evans Jones ar sut i feddwl ynglŷn a hynny ymhob cyd-destun ac ein bod ni pan 'dan ni'n gallu yn eu cefnogi i gael darllenwyr sensitifrwydd.
"Mae'n waith tîm o bobl – cael yr awdur i sgwennu'n iawn, cael y golygydd i fod yn ymwybodol a phobl y tu hwnt i wirio'r peth."
Mae Gareth Evans Jones, sydd wedi bod yn darparu hyfforddiant i gyhoeddwyr yn cytuno bod ysgrifennu y tu hwnt i brofiad yn iawn ond bod angen ymchwil drylwyr gan awduron a golygyddion hefyd.
"Mae'n rhaid cydnabod y ffasiwn gyfrifoldeb sy 'na ar unrhyw un sy'n sgwennu wrth gwrs ond yn sicr os yw rhywun yn mynd ati i ysgrifennu o bersbectif bydolwg gwahanol neu gefndir gwahanol mae 'na gyfrifoldeb i sicrhau nad yw'r portread neu'r hyn sy'n digwydd yn ystrydebol ac yn syrthio i hen clichés.
"Rhaid ymgysylltu a gwneud ymchwil drylwyr – nid yn unig yr awduron ond y golygyddion hefyd – mae 'na le i olygyddion fynd ar gyrsiau amrywiol ar sut i osgoi meddiant diwylliannol.
"Rhaid meddwl am lyfrau sy'n darlunio cymeriadau gydag anableddau a meysydd eraill hefyd wrth gwrs.
"Os nad yw'r awdur gydag anabledd – mae 'na gyfrifoldeb ar y golygydd felly i wneud ymchwil i weld os yw'r ymdriniaeth yn deg, sensitif a chywir neu ydi o yn arwynebol a phroblematig ond rhaid peidio ofni sgwennu o bersbectif diwylliannau neu gymunedau eraill."
Ffrwyth gweithdy ar gyfer pobl anabl a byddar yw y gyfrol Tu Hwnt sydd newydd ei chyhoeddi - casgliad dwyieithog o waith awduron byddar ac anabl.
Yn ôl Megan Angharad Hunter, un o'r golygyddion "mae'n wych rhoi platfform i leisiau newydd".
"Y peth mwyaf arbennig yw bo ni wedi cyhoeddi gwaith cymaint o bobl am y tro cyntaf.
"Mae'n dangos cymaint o alw sy 'na am gyfrolau fel hyn sy'n rhoi platfform i leisiau anabl – mae'n dangos bod 'na alw taer ar gyfer hynny ac roedd hi'n fraint rhoi lle i bobl sydd jyst heb gael yr hyder i gyfrannu o'r blaen," ychwanegodd.
Mae'n dda cael y drafodaeth, meddai Megan Hunter, sy'n gweithio i Wasg Riley ac a oedd hefyd yn awdur Cat yn y gyfres Pump.
"Dwi'n ysgrifennu nofel ar hyn o bryd am ddau gymeriad anabl sy'n byw gyda'r heriau sydd ddim gen i," meddai.
"Dwi'n trafod efo pobl wrth ysgrifennu am y profiadau yna ac maen nhw'n darllen y gwaith dwi wedi ysgrifennu ac yn gwneud yn siŵr bod o'n OK – felly dwi'n meddwl os ydach chi mewn trafodaethau yn ystod yr ysgrifennu bod o'n iawn.
"Fel awdur, yr holl bleser sy'n dod o sgwennu mewn ffordd ydy defnyddio'r dychymyg – ac wrth ysgrifennu am bobl sy'n wahanol i ni dwi'n teimlo bo fi wedi dysgu am y byd ac am bobl ac yn berson fwy empathetig.
"Does yna ddim cywir nac anghywir ac mae'n broses ddwys a phwysig iawn. Mae'n grêt cael trafodaeth."
'Symud i'r cyfeiriad cywir'
Y cyhoeddwyr sy'n penderfynu a oes angen darllenwyr sensitifrwydd ac mae'r Cyngor Llyfrau wedi trefnu hyfforddiant i weisg.
Ond yn ôl Gareth Evans Jones efallai y dylai'r cyngor hefyd dalu i ddatblygu cnwd o ddarllenwyr addas.
"Efallai fedrith y Cyngor Llyfrau fuddsoddi mewn datblygu unigolion sydd ag awydd dilyn cyrsiau hyfforddiant i ddod yn ddarllenwyr sensitifrwydd," meddai.
"Efallai nad oes yna lawer ar gael ar hyn o bryd yn y Gymraeg ond o fuddsoddi – a buddsoddi'n ofalus ac yn strategol gywir mi fuasai modd datblygu cnwd go dda o ddarllenwyr sensitifrwydd," meddai.
Yr hyn sy'n bwysig, medd Arwel Jones, o'r Cyngor Llyfrau yw cofio nad oes neb yn tramgwyddo'n fwriadol.
"Mae gynnon ni bob ffydd nad oes dim un o gyhoeddwyr Cymru yn mynd i gyhoeddi unrhyw beth sy'n anghyfreithlon neu'n ysgubol o ragfarnllyd.
"Mae'n faes efo llawer iawn o gysgodion a lliwiau yn perthyn iddo ac mae darllenwyr sensitifrwydd yn un o'r arfau yna ond pe buasech yn gofyn i 10 o bobl o'r un cefndir am eu profiad nhw o fywyd byddech chi'n cael deg barn wahanol.
"Mae camgymeriadau yn mynd i ddigwydd ac mae'n rhaid i ni hefyd fod yn raslon gan feddwl fod pawb yn symud i'r cyfeiriad cywir i gynyddu'r gynrychiolaeth sydd yna yn ein llenyddiaeth ni gan gadw'r nod yna bob amser bod y cynnwys yn mynd i fod yn wahanol gydag amrywiaeth awduron."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd21 Medi 2024