'Dim angen panicio' ond awdur yn cydnabod her i ddenu mwy i ddarllen
- Cyhoeddwyd
"Dwi yn ymwybodol bod 'na lai o blant yn darllen achos ma' 'na lai yn prynu!"
Dydy un o awduron amlycaf Cymru yn synnu dim bod llai o blant, mae'n ymddangos, yn hoffi darllen.
Yn ôl Bethan Gwanas, mae teclynnau digidol a mwy o weithgareddau hamdden bellach yn golygu nad oes gan blant yr amser i droi at eu llyfrau.
"Dwi'm yn meddwl bod angen i ni banicio, ond fel awdur, dwi isio gwneud bywoliaeth, yn dydw!" meddai.
"Mae pres yn brin, ond 'sa'n neis tasa rhywun yn buddsoddi mewn criw o bobl greadigol i ddod at ei gilydd i feddwl am syniadau sut i gael pobl ifanc a phlant yn mwynhau darllen eto."
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2023
Yn 2024 roedd canran y plant a'r bobl ifanc rhwng wyth a 18 oed oedd yn dweud eu bod yn mwynhau darllen ar ei lefel isaf ers i'r Ymddiriedolaeth Ddarllen Genedlaethol ddechrau'r gwaith ymchwil yn 2005.
Mae'r ffigyrau'n seiliedig ar ymatebion gan 76,131 o blant a phobl ifanc drwy Gymru a Lloegr.
Gydag un o bob tri (34.6%) yn unig yn dweud eu bod yn mwynhau darllen yn eu hamser hamdden, roedd ychydig yn rhagor (40.5%) yn dweud eu bod yn mwynhau darllen yn yr ysgol.
Yn Ysgol Bro Siôn Cwilt ger Synod Inn, Ceredigion, cymysg oedd y brwdfrydedd dros ddarllen.
"Dwi'n darllen pan mae Mam a Dad yn gofyn i fi ddarllen," oedd ymateb Osian, sy'n wyth mlwydd oed.
"Falle dwywaith yr wythnos, dependo os fi 'da digon o amser," meddai Daniel, sydd yn brysur gydag ymarferion pêl-droed a rygbi.
Roedd Lydia yn cyfaddef bod yn well ganddi farchogaeth a ffermio gyda'i rhieni, er ei bod yn llawn sylweddoli pwysigrwydd darllen.
"Ti'n dysgu geiriau newydd a ti'n gallu dysgu shwt mae ysgrifennu geiriau anodd," meddai.
Plant 'yn fwy creadigol' wrth ddarllen
Yn ôl y gwaith ymchwil, un ymhob pump (20.5%) yn unig ddywedodd eu bod yn darllen rhywbeth yn ddyddiol yn eu hamser eu hunain - y lefel isaf ers i'r Ymddiriedolaeth Ddarllen Genedlaethol ddechrau ar eu gwaith 20 mlynedd yn ôl.
Yn Bennaeth ar Ysgol Bro Siôn Cwilt, mae Caryl Evans yn rhoi blaenoriaeth i sgiliau darllen o fewn y dosbarth ac yn sylweddoli pwysigrwydd y grefft.
"Wrth ddatblygu sgiliau darllen, mae sillafu yn gwella ond mae hefyd o ran sgiliau ysgrifenedig," meddai.
"Mae'r plant yn fwy creadigol. Mae'r eirfa hefyd yn bwysig - maen nhw'n dysgu geiriau newydd a mae hwnna'n help mewn amryw o feysydd yn yr ysgol."
Ond oes yna ddigon o adnoddau ar gyfer darllenwyr Cymraeg eu hiaith?
"Dwi'n meddwl bod y cyfresau Saesneg yn denu mwy o blant i ddarllen, ond dwi yn meddwl bod adnoddau Cymraeg yn datblygu," meddai Caryl Evans.
"Ond na, fi'n credu ein bod ni ar ei hôl hi ychydig bach o ran y Gymraeg."
'Ariannu cynlluniau darllen'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn sylweddoli'r angen i wella sgiliau darllen.
"Mae'r Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg wedi cyflwyno cefnogaeth ychwanegol amrywiol ar gyfer ysgolion, gan gynnwys mwy o gyllid er mwyn cefnogi cynlluniau llwyddiannus sydd eisoes yn bodoli," meddai llefarydd.
"Rydym hefyd yn ariannu cynlluniau darllen er mwyn cefnogi a hybu teuluoedd i fwynhau darllen gyda'i gilydd.
"Mae hyn yn cynnwys 'Her Darllen yr Haf' mewn llyfrgeolledd ar draws Cymru, a Bookstart sy'n rhoi llyfrau, adnoddau a gweithgareddau i deuluoedd."
Tra bod nifer y llyfrau sy'n cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg wedi cynyddu dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Bethan Gwanas yn teimlo mai gwella'r dechneg o hyrwyddo sydd angen fel bod pobl ifanc yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael.
"Rŵan ma' gynnoch chi bob math o lyfrau i apelio at bawb, ond dydy pobl ddim yn clywed amdanyn nhw.
"Os 'dach chi'n sownd yn eich cyfryngau cymdeithasol, eich TikToks, 'dan ni angen sylw i lyfrau Cymraeg ar y TikTok. A does 'na'm digon o hynny yn digwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2024