Cyfres o danau gwair yn y de a'r canolbarth - y diweddaraf yn Rhaeadr

Y tân yn llosgi yn Rhaeadr brynhawn Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion tân yn ymateb i dân mawr yn Rhaeadr.
Mae'r tân yn parhau i losgi ac yn effeithio ar oddeutu 50 o hectar o dir a choed.
Cafodd ffordd yr A470 ei chau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod oherwydd perygl y tân, ond mae bellach wedi ailagor.
Fideo o'r awyr: Y tân ar Fynydd Gelliwastad nos Fawrth
Yn y cyfamser roedd 'na dân ardal yn llosgi dros nos yn Abertawe. Mae'r tân bellach wedi ei ddiffodd.
Roedd 20 hectar o eithin ar dân ar Fynydd Gelliwastad ger Clydach.
Cafodd y Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru dros 160 o alwadau am y digwyddiad.

Er bod y tân wedi llosgi yn agos at eiddo pobl leol, dywedodd y gwasanaeth tân nad oedd risg i unrhyw un
Roedd y tân mor fawr roedd modd ei weld o'r M4 a rhannau o Abertawe a bu rhai trigolion yn poeni ei fod yn llosgi yn agos at Ysbyty Treforys.
Cafodd criwiau o Dreforys, Castell-nedd, Rhydaman a Phontardawe eu hanfon i'w ddiffodd.
Er bod y tân yn agos at eiddo rhai pobl leol, dywedodd y gwasanaeth nad oedd risg i unrhyw un.
Mewn mannau eraill cafodd criwiau noson brysur gyda thân gwair mawr ar fynydd Glynrhedynog a Maerdy ac eraill yng Nghaerffili, Cwm Ogwr, a Gelli Pentre.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod y noson yn "ddi-stop".

Y tân ar Fynydd Gelliwastad nos Fawrth