Elusen Darren Millar wedi talu i yrru Rhys ab Owen ar daith dramor
- Cyhoeddwyd
Aeth Aelod o Senedd Cymru - oedd wedi bod yn destun ymchwiliad i'w ymddygiad - ar daith i America a oedd wedi'i thalu'n rhannol gan elusen dan arweinyddiaeth arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Roedd Rhys ab Owen wedi ei wahardd o grŵp Plaid Cymru yn y Senedd pan gafodd ei wahodd gan Sefydliad Evan Roberts i fynd i'r National Prayer Breakfast yn Washington DC ym mis Chwefror.
Darren Millar - arweinydd newydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd - yw llywydd y sefydliad.
Wythnosau ar ôl i Mr ab Owen fynychu'r digwyddiad cafodd adroddiad ei gyhoeddi yn dweud bod y gwleidydd wedi cyffwrdd dwy fenyw yn amhriodol tra ar noson allan.
Cafodd ei wahardd o'r Senedd am ddeufis.
'Cyfle pwysig i hyrwyddo Cymru'
Dywedodd y sefydliad ei fod wedi helpu i "noddi costau nifer o wleidyddion Cymreig" i gymryd rhan yn y brecwast yn y gorffennol.
Dywedodd bod y brecwast yn rhoi "cyfle pwysig i hyrwyddo Cymru a'n treftadaeth Gristnogol gyfoethog".
Dyw Mr Millar ddim wedi ymateb i gais am ymateb.
Fe wnaeth yr Aelod Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn Russell George, sef trysorydd y sefydliad, gyfeirio BBC Cymru at ddatganiad yr elusen.
Fe gymerodd Millar yr awenau ar y grŵp Ceidwadol ym Mae Caerdydd ar ôl i Andrew RT Davies ymddiswyddo'n gynharach fis yma.
Ef oedd prif chwip y grŵp ar adeg taith Mr ab Owen.
Wedi ei sefydlu yn 2013, mae Sefydliad Evan Roberts yn dweud ei fod yn hyrwyddo treftadaeth Gristnogol Gymreig i bobl o Gymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Mae'r elusen yn cael ei rhedeg gan dri ymddiriedolwr, gan gynnwys Mr Millar a Mr George.
Mae'n gwario'r rhan fwyaf o'i arian ar ddigwyddiadau.
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd13 Mawrth
Mae cyfrifon yr elusen ar gyfer 2023/24 yn dangos bod y sefydliad wedi gwario £1,068 er mwyn i Mr ab Owen fynychu'r United States National Prayer Breakfast yn Chwefror 2024 yn Washington DC.
Mae'r cyfrifon yn dweud bod yr elusen wedi noddi "costau" Mr ab Owen.
"Fe wnaeth hyn roi cyfle i wleidydd o Gymru gymryd rhan yn y digwyddiad a rhannu... treftadaeth Gristnogol Cymru gydag eraill," meddai'r cyfrifon.
Mae'r digwyddiad, a gafodd ei gynnal ar 1 Chwefror eleni, yn ddigwyddiad crefyddol blynyddol sydd wedi denu miloedd o bobl dros y blynyddoedd.
Mae cofrestr buddiannau Mr ab Owen yn dweud y bu yn yr Unol Daleithiau rhwng 24 Ionawr a 4 Chwefror.
Cafodd ei wahardd o grŵp Plaid Cymru yn y Senedd fis Tachwedd 2022.
Doedd manylion y gwyn yn ei erbyn ddim yn gyhoeddus ar y pryd ond roedd BBC Cymru wedi adrodd bod y gwaharddiad oherwydd honiad difrifol, a'i fod yn destun ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd Douglas Bain.
Daeth ymchwiliad Mr Bain i'r casgliad ei fod wedi cyffwrdd dwy fenyw yn amhriodol a rhegi arnynt tra'n feddw ar noson allan.
Cafodd yr ymchwiliad ei gwblhau ym Mai 2023 ond doedd y casgliadau ddim yn gyhoeddus tan Mawrth 2024, pan gawson nhw eu cyhoeddi gan bwyllgor safonau'r Senedd.
Yn dilyn yr adroddiad cafodd Mr ab Owen ei wahardd o'r Senedd am ddeufis, a'i ddiarddel yn ddiweddarach gan Blaid Cymru.
Mae'n parhau'n aelod annibynnol o'r Senedd dros Ganol De Cymru.
Pan aeth Mr ab Owen i Washington roedd y pwyllgor wedi bod yn trafod casgliadau Mr Bain ers misoedd, yn ceisio dod i benderfyniad ar ba gosb i'w hargymell.
Aeth llawer o amser y pwyllgor ar ddelio gyda materion a gafodd eu codi gan Mr ab Owen a'i fargyfreithiwr.
'ASau o bob plaid wedi cael gwahoddiad'
Gofynnodd BBC Cymru i Mr Millar a Mr George pam fod y sefydliad wedi cefnogi Mr ab Owen i fynd i'r Unol Daleithiau tra ei fod wedi ei wahardd o'i grŵp, ond ni chafwyd ateb i'r cwestiwn.
Mewn datganiad dywedodd y sefydliad: "Mae Sefydliad Evan Roberts wedi helpu i noddi costau nifer o wleidyddion Cymreig i'w galluogi nhw i gymryd rhan yn y US National Prayer Breakfast yn y gorffennol, mae Mr ab Owen yn un ohonyn nhw.
"Mae ASau o bob plaid wleidyddol yn y Senedd wedi cael gwahoddiadau mewn blynyddoedd diweddar.
"Mae miloedd o bobl yn mynychu'r digwyddiadau, gan gynnwys aelodau etholedig ac arweinwyr o wledydd eraill, ac maent yn rhoi cyfle pwysig i hyrwyddo Cymru ac ein treftadaeth Gristnogol gyfoethog."
Dywedodd Mr ab Owen: "Cefais fy ngwahodd gan y Sefydliad Evan Roberts i fynychu'r United States National Prayer Breakfast yn Chwefror 2024 yn Washington DC.
"Mae eu cyfraniad tuag at gost y daith wedi bod ar fy nghofrestr buddiannau ers Ionawr 2024."