Darren Millar yw arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd

Darren Millar
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Millar wedi bod yn Aelod o'r Senedd ers 2007

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd wedi ethol Darren Millar fel eu harweinydd newydd, ar ôl i'w gyd-Aelodau ei gefnogi ar gyfer y swydd.

Mae Mr Millar, sy'n 48 oed, wedi addo uno plaid a holltodd dros arweinyddiaeth Andrew RT Davies.

Fe wnaeth ymgeiswyr posib eraill gefnogi'r prif chwip ac Aelod o'r Senedd dros Orllewin Clwyd dros fore Mercher a bore Iau.

Ymddiswyddodd Mr Davies ddydd Mawrth ar ôl misoedd o bwysau dros gyfeiriad ei blaid, a'i weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol.

'Dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif'

Dywedodd Mr Millar ei fod am "adeiladu ar etifeddiaeth" Andrew RT Davies a "dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif".

Dywedodd ei fod yn ddiolchgar am "gefnogaeth anhygoel fy nghyd-Aelodau yn y Senedd, a'r negeseuon caredig a gefais gan aelodau'r Blaid Geidwadol ac aelodau'r cyhoedd ledled y wlad".

"Bydd Andrew RT Davies yn anodd i'w ddilyn ond rwy'n benderfynol o adeiladu ar ei etifeddiaeth wrth i ni fynd â'r frwydr i'n gwrthwynebwyr gwleidyddol yn y cyfnod cyn etholiadau'r Senedd yn 2026."

Mae arolygon barn diweddar wedi awgrymu bod y blaid yn y pedwerydd safle, y tu ôl i Blaid Cymru, Llafur a Reform.

Ychwanegodd, "ar ôl 25 mlynedd o fethiant Llafur, mae Cymru'n galw am obaith a newid; rwy'n edrych ymlaen at nodi ein cynlluniau i gyflawni hynny yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod."

Cyhoeddwyd hefyd mai cyn-Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies yw'r pennaeth staff newydd ar gyfer y Ceidwadwyr yn y Senedd, ac na fydd ef yn ymgeisydd yn etholiad 2026.

David TC DaviesFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Cyn-Ysgrifennydd Cymru David TC Davies yw pennaeth newydd y staff ar gyfer y Ceidwadwyr yn y Senedd

'Siomedig iawn'

Mr Millar yw'r trydydd arweinydd i gymryd rheolaeth dros blaid Gymreig yn y Senedd heb bleidlais gan aelodau mewn dwy flynedd – ochr yn ochr ag Eluned Morgan dros Lafur a Rhun ap Iorwerth dros Blaid Cymru.

Mae'r ffaith na chafwyd pleidlais gan aelodaeth y blaid Geidwadol wedi bod yn siom i rai.

Dywedodd Huw Davies, aelod yng Nghasnewydd, ei fod yn "siomedig iawn" nad oedd aelodau Ceidwadol yn gallu ethol arweinydd newydd y grŵp.

"Mae yna nifer o faterion sydd angen eu codi, a bydd yn gadael yr arweinydd newydd heb fandad," meddai.

Fe wnaeth yr enwebiadau gau am 17:00 ddydd Iau.

Ymatebodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Gwyneb newydd, ond yr un hen Blaid Geidwadol yng Nghymru."

"Mae pleidleiswyr eisoes wedi gwrthod Darren Millar a'i gydweithwyr yn yr Etholiad Cyffredinol.

"Yn hytrach na cheisio deall pam, maen nhw'n papuro dros y craciau. Ni fydd pobl Cymru yn cael eu hargyhoeddi."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Mae'n cymryd y swydd ar adeg o anhrefn yn ei blaid, a chyda'r Torïaid wedi methu â chynnig unrhyw atebion credadwy i'r heriau sy'n wynebu Cymru.

"Tra eu bod yn parhau i frwydro ymysg ei gilydd a Llafur yn parhau i siomi ein cymunedau, mae Plaid Cymru yn sefyll fel yr opsiwn ffres i arwain Cymru, fel y dangoswyd yn yr arolwg barn diweddar - unedig ac yn canolbwyntio ar drwsio'r GIG, adeiladu ein heconomi a chyflawni dyfodol teg, uchelgeisiol i Gymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Ym mis Gorffennaf, cyflwynodd pleidleiswyr Cymru eu dyfarniad dinistriol ar y Ceidwadwyr, gan ddangos y drws i bob Aelod Seneddol Torïaidd yng Nghymru.

"Nid yw aildrefnu'r cadeiriau yn eu grŵp yn y Senedd yn mynd i wneud i unrhyw un anghofio eu record o anghymhwysedd, llygredd a methiant."

Y Ceidwadwyr yw'r wrthblaid fwyaf i lywodraeth Llafur Cymru.

Ond roedd arolwg barn ddydd Llun yn awgrymu bod eu cefnogaeth cyn etholiad y Senedd yn 2026 wedi gostwng, gan adael y blaid yn y pedwerydd safle tu ôl i Lafur, Plaid Cymru a Reform.

Collodd y Torïaid eu holl seddi yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol eleni.

Pwy yw Darren Millar?

Darren Millar

Darren Millar oedd prif chwip y Ceidwadwyr yn y Senedd - yn gyfrifol am ddisgyblaeth y blaid - a'u llefarydd ar y cyfansoddiad a gogledd Cymru.

Cafodd ei ailbenodi i rôl mainc flaen y Ceidwadwyr yn 2021 wedi iddo roi'r gorau i'r swydd yn dilyn ffrae dros yfed alcohol.

Roedd yn feirniad croch o Lywodraeth Cymru pan oedd yn llefarydd iechyd y blaid, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd o dan ei lach yn aml.

Bu'n gadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dylanwadol y Senedd.

Mae'n ymddiriedolwr elusen Gristnogol, Sefydliad Evan Roberts, sydd wedi denu beirniadaeth am ei chysylltiad â gweinidog o'r enw Yang Tuck Yoong, a gafodd ei feirniadu am safbwyntiau homoffobig. Mae Mr Millar wedi dweud nad yw'n cefnogi'r safbwyntiau hynny.

Mae'n disgrifio ei hun fel "Cristion ymroddedig, yn ddarllenydd brwd ac yn seryddwr amatur".