Lluniau: Dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd

Mi ddaeth y glaw i Faldwyn ddydd Mawrth, ond lwyddodd hynny ddim i roi stop ar yr hwyl a'r cystadlu!

Pedwar o blant bach mewn siacedi hi-vis yn bwyta hufen ia o botiau
Disgrifiad o’r llun,

Tywydd hufen iâ? Plant meithrinfa Tiny Tots, Meifod yn mwynhau hufen iâ mewn hwd!

Tri phlentyn gydag un mewn pram
Disgrifiad o’r llun,

Eisteddfod yr Urdd gyntaf Mirain! Mae hi wedi dod gyda Sion ac Aria i weld eu chwaer, Elsa, yn cystadlu efo Ysgol Llannerchymedd yn y Grŵp Llefaru Bl.6 ac iau. Y canlyniad? 3ydd!

Steffan Tudor yn annerch cynulleidfa ar y llwyfan lle mae 'na lawer o drugareddau sy'n ymwmneud â'r gofod
Disgrifiad o’r llun,

Sesiwn gan Steffan Tudor o'r National Space Academy yn y Gwyddonle

Tri pherson ar lwyfan yn cynnal arbrawf gwyddoniaeth sef tanio "roced"
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Iwan o Bontarddulais yn helpwr da i danio roced. Edrychwch ar y botel ar ochr dde y llun!

Sioe Dreigiau Cadi. Un pyped draig tu ôl i fwrdd a saith o blant yn edrych arno.
Disgrifiad o’r llun,

Draw ym mhabell S4C roedd plant yn mochel rhag y glaw i wylio sioe Dreigiau Cadi

Clocswyr ar lwyfan yr Arddorfa
Disgrifiad o’r llun,

Prosiect Plethu yn yr Arddorfa. Bydd y grŵp yn teithio i ŵyl Lorient gyda'r Urdd yn yr haf

Alys Hedd Jones gyda medal Prif Ddramodydd yr UrddFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Alys Hedd Jones o Gaerdydd yw Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024. Mae Alys yn 17 mlwydd oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Caerdydd.

Ian "H" Watkins a Caryl Parry Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ian "H" Watkins a Caryl Parry Jones: cafodd perfformiad o'u cân gynhwysol nhw ac Ysgol Iolo Morgannwg, Bydd Yn Ti Dy Hun ei pherfformio ar Lwyfan y Cyfrwy ddydd Mawrth

Ysgol Bro Morgannwg, H a Caryl Parry Jones ar lwyfan y cyfrwy
Disgrifiad o’r llun,

H a Caryl yn cyflwyno perfformiad o Bydd Yn Ti Dy Hun ar Lwyfan y Cyfrwy

Plentyn bach mewn siwt goch a welis gwyrdd yn codi llaw syu'n un o fwd
Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r mwd ddim wedi sbwylio hwyl Catrin o Chwilog!

Teulu o dri ar faes yr EIsteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Dechrau'n ifanc: Eisteddfod gyntaf Mali Fflur o Hendy Gwyn, gyda Matthew a Megan

Dau byped draig gyda Ffion Emyr yn y canol
Disgrifiad o’r llun,

Dreigiau Cadi yn cadw cwmni i Ffion Emyr sy'n crwydro'r Maes ac yn darlledu ar BBC Radio Cymru drwy'r wythnos