Lluniau: Dydd Llun Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Mae diwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 wedi cyrraedd ac mae plant a phobl ifanc ar draws Cymru wedi heidio i'r maes ym Meifod.
Bu camera Cymru Fyw o amgylch y maes yn dal hwyl a bwrlwm dydd Llun!
Mae Cadwyn yn un o hoelion wyth stondinau'r Eisteddfod ac mae'r cwmni yn dathlu 50 mlynedd eleni.
Dywedodd Ffred Ffransis fod y genhedlaeth newydd yn gwneud y gwaith o gario cynnyrch y stondin i'r maes erbyn hyn a'i fod ef a'i wraig Meinir "yn cael mwynhau".
Cyn mynd ati i ganu hen ffefrynnau fe ddywedodd Dafydd Iwan: "Mae'n destun rhyfeddod mawr i mi, ac i Edward, eich bod chi'n dal i wrando."
Fe berfformiodd y ddau rhai o glasuron Cwm Rhyd-y-Rhosyn ar stondin y Mudiad Meithrin.
Mae pabell PABO, neu lwyfan 'Sa Neb Fel Ti, yn rhan o ardal Nant Garedig y Maes.
Fore dydd Llun roedd Mari Grug yn holi merched Eden am beth yw PABO, ond yn y prynhawn merched Eden oedd yn holi Mari am ei phodlediad newydd, 1 mewn 2, sydd wedi'i ysbrydoli gan ei thaith hi â chanser.
Y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg
Elis James o Goleg Ceredigion (Campws Aberteifi) yw CogUrdd 2024.
Mae'n derbyn gwobr gan y cogydd Bryn Williams, sef diwrnod o brofiad gwaith yn ei fwyty ym Mae Colwyn, Porth Eirias yn ogystal â phryd i bedwar yn y bwyty.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai
- Cyhoeddwyd27 Mai