Enwau mawr ar wobrau newydd Eisteddfod yr Urdd

Gwobrau newydd Eisteddfod yr UrddFfynhonnell y llun, Urdd/CBCDC
  • Cyhoeddwyd

Mae rhai o enwau mwyaf y byd perfformio yng Nghymru wedi rhoi eu henwau ar wobrau newydd ar gyfer yr Eisteddfod yr Urdd.

O eleni ymlaen, mae'r Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cynnig sesiynau mentora i chwe enillydd, sydd rhwng 19-25 oed.

Bydd y gwobrau newydd hefyd yn cynnwys cefnogaeth ariannol tuag at hyfforddiant pellach.

Mae'r eisteddfod eleni - Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr - yn cael ei chynnal ym Mharc Margam, Port Talbot rhwng 26-31 Mai.

Enwau'r gwobrau newydd:

  • Gwobr Syr Bryn Terfel (lleisiol)

  • Gwobr Amy Dowden (dawns)

  • Gwobr Callum Scott Howells (sioe gerdd)

  • Gwobr Matthew Rhys (theatr)

  • Gwobr Rakhi Singh (offerynnol)

  • Gwobr Sarah Hemsley-Cole (cefn llwyfan)

Dywedodd y canwr Syr Bryn Terfel ei fod yn falch iawn o gefnogi'r wobr a bod "ysbrydoli perfformwyr Cymreig y dyfodol yn hanfodol".

Mae'r gwobrau yn "gyfle euraidd", yn ôl yr actor Matthew Rhys, a ddywedodd ei fod yn "edrych ymlaen yn fawr i wylio perfformiadau actorion ifanc Cymru".

"Dawnsio yw fy mywyd ers tyfu fyny yng Nghymru a chystadlu o oedran ifanc," meddai Amy Dowden, a ddaeth i amlygrwydd ar y gyfres Strictly Come Dancing.

"Rwy'n hynod gyffrous o gael bod yn rhan o'r wobr newydd hon ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr."

Llio MaddocksFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Llio Maddocks bod y gwobrau am gynnig "llwybr mewn i yrfa perfformio" i bobl ifanc

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd cyfarwyddwr celfyddydau'r Urdd, Llio Maddocks fod y gwobrau yn cynnig "llwybr mewn i yrfa perfformio".

Yn ogystal â gwobr ariannol bydd gan yr enillwyr gyfle i gael sesiynau mentora hefyd, meddai.

"Be' oedden nhw [pobl ifanc] wir eisiau oedd cael sesiynau mentora, cael cyfleoedd i ddatblygu.

"'Da ni'n wirioneddol falch o'r bartneriaeth yma gyda'r Coleg Cerdd a Drama sydd yn mynd i fod yn cynnig pecyn o sesiynau mentora a datblygu er mwyn mireinio eu crefft."

Ychwanegodd hefyd y bydd cyfle gan yr enillwyr i gysylltu gyda'r rheini sy'n rhoi eu henwau ar y gwobrau i gael "tips a chyngor ar sut i fynd i mewn i'r diwydiant."

"Ma'r unigolion sydd wedi enwi'r gwobrau mor gefnogol ac isie ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf," meddai.

"Mae'r coleg wrth gwrs yn gallu cynnig datblygiad proffesiynol, sesiynau tiwtora ac wedyn mae'r mentoriaid yn mynd i roi mewnwelediad i'r proffesiwn."

Cefnogaeth yn 'bwysicach nag erioed'

Mae'r actor Callum Scott Howells, a enillodd Bafta Cymru am ei rôl yn It's a Sin, yn un o raddedigion y coleg cerdd.

"Rydw i wedi bod mor ffodus o gael pobl yn fy helpu a chynnig arweiniad ar ddechrau fy ngyrfa ac yn gwybod pa wahaniaeth mae cael y gefnogaeth gywir yn gallu ei wneud," meddai.

Ychwanegodd fod gweld y ddau sefydliad yn cydweithio yn "gyffrous iawn ac alla i ddim aros i ddathlu sêr y dyfodol!".

Dywedodd Rakhi Singh - feiolinydd, cyfarwyddwr cerddoriaeth a chyfansoddwr - ei bod hi'n "bwysicach nag erioed i'n cerddorion ifanc yng Nghymru dderbyn cefnogaeth".

Y rhai sy'n gweithio cefn llwyfan yw "asgwrn cefn y diwydiant creadigol", meddai Sarah Hemsley-Cole, gan ychwanegu ei bod yn "hollbwysig bod ein sefydliadau cenedlaethol yn datblygu cenhedlaeth nesaf o arweinwyr y diwydiant".