Ydych chi'n cofio'r Sinclair C5 gafodd ei gynhyrchu yng Nghymru?

Y Parch Bill Morgan, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Merthyr ar y pryd, mewn Sinclair C5 o flaen arwydd MerthyrFfynhonnell y llun, Mirrorpix via Getty
Disgrifiad o’r llun,

Y Parch Bill Morgan, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Merthyr ar y pryd, mewn Sinclair C5 yn Ebrill 1986. Roedd y cerbyd ar fin cael ei drosglwyddo i amgueddfa'r dref dim ond wyth mis ers i'r cynhyrchu ddod i ben ym Merthyr a 18 mis ers lansio'r modur

  • Cyhoeddwyd

Mae ceir a beiciau trydan yn gyffredin iawn ar ein ffyrdd erbyn hyn, ond 40 mlynedd yn ôl fe lansiwyd cerbyd enwog ac arloesol wedi ei bweru gan drydan oedd yn cael ei wneud yng Nghymru.

Roedd y Sinclair C5 yn y penawdau o'r cychwyn cyntaf - yn destun sbort gan nifer ond sydd erbyn hyn wedi ennyn parch.

Y dyfeisiwr Syr Clive Sinclair, wnaeth ei ffortiwn gyda chyfrifiaduron a chyfrifianellau, oedd tu cefn i'r cerbyd un person.

Roedd wedi treulio blynyddoedd yn ymchwilio i ddatblygu modur wedi ei bweru gan fatri ac wedi creu nifer o fersiynau cychwynnol.

Disgrifiad,

O'r archif... gwyliwch y gohebydd Gwyn Llywelyn yn ymweld â'r ffatri ym Merthyr a chael tro ar y Sinclair C5 ar gyfer eitem newyddion S4C yn 1985

Ar 10 Ionawr 1985 fe lansiwyd y Sinclair C5 - oedd yn edrych yn debyg i gymysgedd o gar a beic tair olwyn a gyda batri a phedalau i'r gyrrwr.

Roedd y cyfan wedi ei gadw'n gyfrinach a'r cerbydau wedi eu cynhyrchu yn ffatri peiriannau golchi dillad Hoover ym Merthyr Tydfil fel yr esboniodd y gohebydd moduron Mark James ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru:

"Tua 100 o bobl oedd yn gweithio yn y ffatri ac oedd y dechnoleg yn debyg i beth oedden nhw'n defnyddio ym mheiriannau golchi ond roedd y modur ei hunan 'chydig bach yn wahanol.

"Roedd cwmnïau o tu fas i Gymru - roedd Lotus yn gysylltiedig gyda holl gynllunio'r car yn y lle cyntaf - ond ym Merthyr oedd y C5 yn cael ei greu. Roedd yn dod mas mewn bocsys cardfwrdd ac yn cael eu gyrru mas i Curry's neu Dixon's neu ble bynnag."

Ffynhonnell y llun, Mike Maloney/Daily Mirror/Mirrorpix/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Y Sinclair C5 yn cael ei yrru o gwmpas Llundain. Bellach mae mwy o groeso i gerbydau trydan yn y ddinas oherwydd llygredd a thraffig

Yn anffodus i'r ffatri - a Sir Clive - doedd y lansiad na'r car ddim yn llwyddiant. Roedd nifer yn feirniadol o bŵer y C5, oedd gyda chyflymder o hyd at 15 milltir yr awr, ac yn amheus os oedd yn addas i dywydd gwlyb ac oer Prydain.

Ac mae'n debyg bod dewis Alexandra Palace, yn Llundain, i lansio'r cerbyd yn ystod oerfel mis Ionawr yn benderfyniad annoeth.

Meddai Mark: "Os chi'n 'nabod yr ardal mae Alexandra Palace yn eistedd ar ben rhiw felly roedd y wasg i gyd yna i yrru'r peth yma ac oedd rhaid iddyn nhw fynd lan y rhiw ar ryw adeg neu'i gilydd ac wrth gwrs roedd lot o'r storïau'n dod mas i ddeud bod e ddim yn gallu neud e.

"Roedd rhaid pedalu fel moped ac oedd y wasg yn eitha' caled tuag at y C5. Dechreuodd yr holl beth ym mis Ionawr ac erbyn mis Awst roedd popeth wedi dod i ben.

"O rywbeth fel 14,000 o'r C5s oedd wedi cael eu gwneud dim ond 4,500 oedd wedi cael eu gwerthu."

Disgrifiad,

Gwyliwch y stori newyddion yma o 1985 am drafferthion Dafydd Cadog gyda'i Sinclair C5 wedi i'r cwmni fynd i'r wal

Ymysg y rhai gyda C5 yn y dyddiau cynnar, pan oedden nhw'n costio £399, oedd y cerddor Elton John, y consuriwr Paul Daniels, yr awdur Arthur C Clarke a'r tywysogion ifanc William a Harry, oedd yn eu gyrru yng ngerddi Palas Kensington.

Dros y degawdau mae'r C5 wedi tyfu mewn poblogrwydd a chasglwyr wedi eu prynu am hyd at £6,000.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na nifer erbyn hyn yn frwdfrydig iawn dros y C5, gan gynnwys criw fu yn Alexandra Palace yn ddiweddar i ddathlu pen-blwydd 40 oed y cerbyd gafodd ei lansio yn y lleoliad ar 10 Ionawr 1985

Bu farw Sir Clive Sinclair yn 2021 ac roedd yn llwyddiannus gyda nifer o'i ddyfeisiadau yn ôl Mark James: "Dyn llawn syniadau - fe oedd y person tu ôl i'r Sinclair Spectrum y cyfrifiadur bach, y ZX-81. Roedd e wedi neud y cyfrifiannell boced cynta, watches digidol, teledu poced - felly syniadau trwy'r amser.

"Eccentric inventor neu rywbeth felna fysech chi'n galw fe'r dyddiau yma ond oedd e'n gweithio ar bethau flynyddoedd cyn i'r diwydiant ehangach ddal fyny."

Disgrifiad o’r llun,

Sir Clive Sinclair, fu farw yn 2021

Ychwanegodd mai dyna o bosib oedd tu cefn i fethiant y C5 ac efallai y byddai'n llwyddiannus petai wedi disgwyl ambell i ddegawd.

Meddai: "Roedd Clive Sinclair flynyddoedd o flaen y farchnad neu'r diwydiant. Nawr wrth gwrs, gyda'r holl draciau seiclo fel y Taff Trail er enghraifft a lot o'r hen leins rheilffordd sy' wedi cael eu troi'n llefydd 'y chi'n gallu reidio beics.

"Falle, y dyddie 'ma galle'r C5 fod wedi bod yn llwyddiannus. A hefyd y ni'n gweld ceir eraill, y Renault Twizzy, y Citroen Ami a'r lleill - nid ceir ond quadricycles trydanol sy'n hollol wahanol i'r diwydiant ehangach.

"Falle pe basa Sinclair wedi lansio'r C5 y dyddie 'ma' - falle fysa wedi bod yn llwyddiannus, pwy a ŵyr?"

Pynciau cysylltiedig