Y Cymry fu'n rasio ceir F1

Tom Pryce yn rasioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tom Pryce yn rasio

  • Cyhoeddwyd

Dros y penwythnos daeth cylchdaith fyd-eang ddiweddaraf Fformiwla Un i ben.

Max Verstappen gafodd ei goroni'n bencampwr y byd unwaith eto eleni.

Ond er bod wyth Sais a dau Albanwr wedi ennill Pencampwriaeth Fformiwla Un y Byd dros y blynyddoedd, prin iawn yw'r Cymry sydd wedi cystadlu ar y gylchdaith fawr ei bri, ers iddi gael ei sefydlu'n swyddogol gan y Fédération Internationale de l'Automobile (FIA) ym 1950.

Meilyr Emrys sy'n edrych nôl ar yrwyr o Gymru sydd wedi cymryd rhan yn y bencampwriaeth fawreddog.

Cecil Pryce Harrison

Ffynhonnell y llun, The Sketch
Disgrifiad o’r llun,

Cecil Pryce Harrison yn 1911

Bonheddwr a aned ym mhentref Ffordun, ger y Trallwng, oedd y Cymro cyntaf i gymryd rhan mewn ras Grand Prix.

Roedd Cecil Pryce Harrison ymysg y gyrwyr wnaeth ddechrau ail Grand Prix flynyddol Ffrainc – a gafodd ei chynnal ar ffyrdd cyhoeddus – ger Dieppe, ar 2 Gorffennaf 1907.

Yn anffodus, serch hynny, ni lwyddodd ef a'i fodur Weigel i gyrraedd y llinell derfyn y diwrnod hwnnw ac – yn dilyn damwain yn ystod y bumed lap – yr un oedd y stori pan ddychwelodd y gŵr o'r canolbarth i gystadlu yn ras fawr L'Automobile Club de France y flwyddyn ganlynol.

Yn fab i deulu cefnog oedd yn byw yn Neuadd Caerhowel, ger Trefaldwyn, priododd Harrison yr Arglwyddes Lettice Cholmondeley, sef merch Pedwerydd Ardalydd Cholmondeley ym 1911 a bu'r cwpl yn byw yn Cheshunt, ychydig i'r gogledd o Lundain, hyd nes i'w perthynas ddod i ben mewn ysgariad.

Yn ne ddwyrain Lloegr y buodd Cecil farw hefyd, ar 30 Gorffennaf 1938. Ond mae wedi ei gladdu ym mynwent priordy Greyabbey, yn Swydd Down, yng Ngogledd Iwerddon, sef pentref genedigol ei fam.

Tom Pryce

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tom Pryce yw un o'r Cymry mwyaf llwyddianus ar y trac rasio

Y Cymro diwethaf – ar un mwyaf llwyddiannus, o bell ffordd – i rasio mewn car Fformiwla Un oedd Tom Pryce.

Yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf – yn Grand Prix Gwlad Belg, ym mis Mai 1974 – cymerodd ef ran mewn dros ddeugain o rasys oedd yn cyfrif tuag at Bencampwriaeth y Byd gan orffen yn drydydd ar ddau achlysur: mewn amodau eithriadol o wlyb yn Spielberg, Awstria, ym mis Awst 1975; ac yn rownd agoriadol pencampwriaeth y flwyddyn ganlynol, pan enillodd Nikki Lauda ar drac Interlagos, ym Mrasil.

Yn sgil hynny, ef yw'r unig yrrwr o 'Wlad y Gân' sydd erioed wedi cyrraedd y podiwm ar brif gylchdaith fyd-eang yr FIA.

Damwain angheuol

Ar yr un trywydd, mae Pryce hefyd yn unigryw oherwydd mai ef oedd ar flaen y grid ar gyfer Grand Prix Prydain, yn Silverstone, ym 1975: nid oes unrhyw Gymro arall wedi cael dechrau ras Fformiwla Un o'r safle arweiniol hwnnw.

Ychydig fisoedd ynghynt – a'r tu hwnt i Bencampwriaeth y Byd – modur Shadow-Ford y gŵr o Sir Ddinbych oedd y cyntaf i groesi'r llinell derfyn ar ddiwedd Ras y Pencampwyr 1975, yn Brands Hatch: dyna'r unig dro y mae gyrrwr o Gymru erioed wedi ennill ras ar gyfer y dosbarth uchaf o geir un sedd.

Yn drasig, serch hynny – fel nifer o yrwyr eraill y cyfnod – cwtogwyd gyrfa a bywyd y seren o Ruthun, gan ddamwain angheuol wrth rasio.

Llai na thair blynedd wedi ei ras Fformiwla Un gyntaf, lladdwyd Tom Pryce mewn damwain yn ystod Grand Prix De Affrica, ar drac Kyalami, ar 5 Mawrth 1977.

Dadorchuddiwyd cofeb iddo yn ei dref enedigol ar 11 Mehefin 2009, sef y diwrnod y byddai Tom wedi dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.

Jackie Lewis

Ffynhonnell y llun, wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lewis ei eni i deulu Cymreig oedd yn byw yn Stroud, yn Sir Gaerloyw

Yr unig yrrwr Cymreig arall sydd erioed wedi ennill pwyntiau ar gylchdaith Fformiwla Un y Byd yw Jackie Lewis.

Derbyniodd ef dri phwynt am orffen yn bedwerydd yn Grand Prix yr Eidal ym mis Medi 1961: canlyniad clodwiw iawn, o ystyried ei fod wedi dechrau'r ras yn yr unfed safle ar bymtheg.

Wedi ei eni i deulu Cymreig oedd yn byw yn Stroud, yn Sir Gaerloyw ar 1 Tachwedd 1936, cystadlodd Lewis mewn rasys Pencampwriaeth y Byd am ddau dymor ar ddechrau'r 1960au, fel gyrrwr annibynnol (h.y. unigolyn oedd ddim yn cael ei noddi'n uniongyrchol gan wneuthurwr ceir).

Gan yrru Cooper T53 – oedd wedi ei brynu'n uniongyrchol o ffatri'r cwmni yn Surbiton, ar gyrion Llundain – cymerodd y Cymro ran mewn cyfanswm o 10 Grand Prix i gyd ac adlewyrchir mawredd ei gamp ar drac Monza, gan y ffaith mai'r unig 'breifatîr' arall wnaeth lwyddo i ennill unrhyw bwyntiau yn ystod tymor 1961, oedd yr enwog Sterling Moss.

Dadrithio gan wleidyddiaeth mewnol

Collodd reolaeth ar ei gar yn ystod Grand Prix Ffrainc – wedi i'w freciau fethu, mae'n debyg – a daeth ei ras i ben pan darodd i mewn i gefn BRM y Sais, Graham Hill.

Erbyn i Hill gael ei goroni'n Bencampwr y Byd am y tro cyntaf rai misoedd yn ddiweddarach, roedd y Cymro eisoes wedi cymryd rhan yn ei ras Fformiwla Un olaf.

Crisialwyd ei dymor helbulus pan dorrodd ei gar i lawr wedi dwy ran o dair o Grand Prix yr Almaen, ar ddechrau mis Awst, a phenderfynodd Jackie Lewis mai digon oedd digon.

Ag yntau hefyd wedi cael ei ddigalonni a'i ddadrithio gan 'wleidyddiaeth' fewnol Fformiwla Un – oedd yn ei gwneud hi'n eithriadol o anodd i yrwyr annibynnol fwynhau unrhyw lwyddiant gwirioneddol yn y gamp – penderfynodd gau pen y mwdwl ar ei yrfa addawol fel gyrrwr rasio, yn ddim ond 26 oed.

Symudodd i fyw i ardal Llanymddyfri, ble y treuliodd y ddau ddegawd nesaf yn ffermio defaid a bridio ceffylau Arabaidd, ym mhell o sŵn a chyffro'r moduron cyflym.

Ond profodd tynfa'r peiriannau petrol pwerus yn drech nag ef yn y pen draw a gadawodd dawelwch cefn gwlad Sir Gaerfyrddin ar ddechrau'r 1980au, gan ddychwelyd i Sir Gaerloyw, i gynorthwyo ei dad yn H&L Motors.

Alan Rees

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rees ei fagu ger Casnewydd

Yn ystod y 1960au y dechreuodd Alan Rees ymwneud â Fformiwla Un hefyd.

Er mai gyrrwr Fformiwla Dau oedd ef yn bennaf, cymerodd y gŵr o bentref Langstone, ger Casnewydd, ran mewn tair ras Pencampwriaeth y Byd ar gyfer y ceir cyflymach yn ystod tymhorau 1966 a 1967, gan orffen yn seithfed yn yr olaf ohonynt, sef Grand Prix yr Almaen ar 6 Awst 1967.

Roedd honno'n ymdrech lew, yn enwedig o ystyried mai car Brabham-Ford F2 – gydag injan lawer llai pwerus na moduron y rhan fwyaf o'i wrthwynebwyr – oedd Rees wedi ei lywio o amgylch y Nürburgring.

Wedi iddo roi'r gorau i yrru'n gystadleuol ei hun, cydweithiodd y gŵr o'r de ddwyrain gyda Max Mosley ac eraill, i sefydlu March Engineering. Ond tra'r oedd y tîm rasio newydd hwnnw'n prysur ennill ei blwyf fel un o wneuthurwyr mwyaf blaenllaw'r gylchdaith Fformiwla Un ar ddechrau'r 1970au, gadawodd Rees i ymuno â Shadow.

Ar ôl bod yn bennaeth ar Tom Pryce yn ystod ei gyfnod yno, cydsefydlodd y Cymro dîm rasio arall ym 1977 ac ef oedd rheolwr cyntaf Arrows Grand Prix International.

Aeth ymlaen i ofalu am nifer o yrwyr adnabyddus – megis Riccardo Patrese, Jacques Villeneuve Sr. a Gerhard Berger – yn ystod ei ddegawd a hanner yn y swydd honno, cyn iddo roi'r gorau iddi ym 1991.

Bu farw Alan Rees yn gynharach eleni, yn 86 oed. Roedd ei fab, Paul, hefyd yn yrrwr rasio: cystadlodd ef ar gylchdaith Fformiwla Dau y Byd yn 2010, cyn canolbwyntio'n bennaf ar rasys Porsche Supercup am rai blynyddoedd wedi hynny.

Ella Lloyd

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ella Lloyd o Bontypridd yn cystadlu ar gylchdaith menywod Academi Fformiwla Un flwyddyn nesaf

Nid oes gyrrwr Cymreig wedi cymryd rhan mewn ras Fformiwla Un ers dros hanner canrif bellach.

Ond gallai hynny newid yn y dyfodol (cymharol) agos ac mae'n bosibl mai merch fydd y seren foduro nesaf o Gymru.

Bydd Ella Lloyd o Bontypridd yn cystadlu ar gylchdaith menywod Academi Fformiwla Un flwyddyn nesaf, fel aelod o Raglen Datblygu Gyrwyr McLaren.

Pynciau cysylltiedig