Tri llun: Lluniau pwysicaf Yvonne Evans
![Yvonne Evans](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/c77e/live/e4a75620-2bb9-11ee-b1d7-8fdc93c2782e.jpg)
Yvonne Evans
- Cyhoeddwyd
Mae Yvonne Evans yn wyneb cyfarwydd i wylwyr rhagolygon y tywydd a’r rhaglen Prynhawn Da ar S4C. Mae'r cyflwynydd yn rhannu ei hoff luniau gyda Cymru Fyw yr wythnos yma.
![Daniel mab Yvonne](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/0168/live/f49d7cd0-2bb9-11ee-b1d7-8fdc93c2782e.jpg)
Daniel, mab Yvonne
Dyma fy mab bach Daniel. Cafodd ei eni dechrau'r flwyddyn hon.
Tynnwyd y llun yma ohono yn gwenu'n llon ar y diwrnod roedd yn chwe mis oed. Mae'n rhyfeddod pur ei wylio yn darganfod y byd o'i gwmpas. Mae pob dydd yn antur iddo!
Mae'n deimlad arbennig a thwymgalon ei weld yn ymateb a mwynhau wrth wenu a chwerthin yn siriol yng nghwmni teulu, ffrindiau ac mewn gweithgareddau i fabanod. Er hynny mae e'n ddigon difrifol yr olwg pan mae e eisiau mwy o laeth!
![Yvonne a'i phartner Ianto](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/a933/live/0e941040-2bba-11ee-b1d7-8fdc93c2782e.jpg)
Yvonne a'i phartner Ianto
Dw i a fy mhartner Ianto wrth ein boddau yn mynd i gyfandir Ewrop. Dyma ni ein dau ar wyliau yn Salzburg, Awstria, i ddathlu fy mhenblwydd yn ddeugain oed.
Doeddwn i heb fod yno ers yn blentyn ac yn torri bol eisiau dychwelyd a chael mynd ar daith The Sound of Music. Rwyf wedi gwylio'r ffilm gannoedd o weithiau!
Roedden ni'n aros yng ngwesty Schloss Leopoldskron (yng nghefndir y llun) a hwn yw'r adeilad sydd yn gartref i Gapten von Trapp a'i deulu yn y ffilm. Cefais fodd i fyw yn bwyta brecwast bob bore yn edrych dros y llyn a oedd wedi rhewi'n gorn a draw at y mynyddoedd godidog oherwydd dyma'r golygfeydd sydd yn amlwg iawn yn y ffilm.
![Yvonne yn Victoria Falls](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1504/cpsprodpb/5b91/live/32ced030-2bba-11ee-b1d7-8fdc93c2782e.jpg)
Yvonne yn Victoria Falls
Rwyf wedi bod yn ffodus iawn cael teithio i bum cyfandir y byd. Mae'n union chwarter canrif ers i mi deithio i Kenya, Tanzania, Zanzibar, Malawi, Zimbabwe, Zambia a De Affrica. Hysbysebwyd y daith fel 'Bush Camping' a roedd hynny'n apelio'n fawr i mi.
Roeddwn yn teithio heb ffôn symudol (nid oedden nhw'n bethau cyffredin y pryd hynny) ac yn teithio gydag arian parod a sieciau teithwyr a byw mewn gobaith i fedru ffeindio ciosc ffôn er mwyn cysylltu ag adref bob hyn a hyn!
Dyma fi yn ymweld â Rhaeadr Victoria. Roedd hi'n dipyn o brofiad gwersylla a chlywed y dŵr yn tasgu yn y cefndir.
Mae'r lluniau o'r daith i gyd mewn albwm a phob un yn fy atgoffa o fy egni a brwdfrydedd a'r teimlad da sydd yn dod o gamu allan o'r hyn sydd yn gyfarwydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2022