Nigel Owens: 'Paratoi fy ymddeoliad er lles fy iechyd meddwl'

Nigel Owens yn dyfarnuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Owens oedd y dyfarnwr cyntaf erioed i ddyfarnu 100 o gemau prawf

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Nigel Owens baratoi ar gyfer ei ymddeoliad o flaen llaw ar ôl gweld “shwt gymaint” o chwaraewyr a dyfarnwyr yn dioddef gyda’u hiechyd meddwl ar ôl camu'n ôl.

Nigel Owens oedd dyfarnwr rygbi mwyaf profiadol y byd pan adawodd ei waith yn 2020.

Wrth siarad â rhaglen Bore Sul ar Radio Cymru, dywed iddo fuddsoddi mewn fferm cyn ymddeol fel bod ganddo rhywbeth i lenwi’i amser – ac ychwanegodd mai ffermio oedd ei “freuddwyd gyntaf” yn wyth oed.

"O’n i wedi clywed ac wedi gweld shwt gymaint o chwaraewyr rygbi, shwt gymaint o ddyfarnwyr rygbi yn gorffen - a ddim yn moyn gorffen, ond yn gorfod gorffen.

“Wedyn yn codi yn y bore ac yn gofyn ‘Beth fi’n mynd i wneud?’"

'Rhaid i fi gael rhywbeth i'w 'neud'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Y ffordd orau i dreulio dy fywyd yw gwneud be' ti’n mwynhau,' medd Mr Owens

Mae Mr Owens wedi siarad yn flaenorol am ei brofiad ag iselder pan yn ifanc, cyn iddo “dderbyn [ei] hun” fel dyn hoyw.

“O’n i’n gwybod beth i ddisgwyl a beth i wneud o ran gohirio mynd i’r sefyllfa yna eto,” medd y cyn-ddyfarnwr o Sir Gâr.

"Er roedd 'na reswm am hwnnw, yn derbyn pwy o’n i, ac wrth gwrs wedi derbyn hynny fe aeth y broblem iechyd meddwl yna bant.

“Ond o ni’n gwybod beth oedd y profiad fel.”

Esboniodd fod dyfarnu nid yn unig yn cynnig tâl da, ond yn gyfle i chi wneud gyrfa o'ch diddordeb.

“Mewn ffordd, yn eitha’ tebyg i chwaraewyr rygbi, i ddyfarnwr [mae] dy hobi yn dod yn dy swydd.

“A gallwn i ddim meddwl am ddim ffordd gwell i dreulio dy fywyd na gwneud be' ti’n mwynhau.

“Felly ro’n i’n gwybod bod rhaid i fi gael rhywbeth i'w 'neud pan oedd y bywyd prysur yn dod i ben - a ffarmio oedd hwnna.”

Edrych ymlaen at ymddeol

Breuddwyd gyntaf Mr Owens yn wyth oed oedd bod yn ffermwr, esboniodd.

“Fues i’n gweitho ar fferm ar yr hen YTS scheme ar ôl gadael ysgol... gweithio ar fferm Y Wern yn Drefach,” meddai.

“A fues i’n helpu mas lan yn fferm Tirgarn yn Mynyddcerrig pan o’n i’n blentyn - lan yn fferm fy Anti a'n Wncwl yn Pentwyn gyda Gloria a Graham amser gwyliau'r haf.”

Ffermio oedd ei fywyd, medd Mr Owens, er nad oedd e’n fab ffarm.

"Yr unig ffordd oeddwn i am gael fferm i fynd mewn i os oeddwn i’n priodi mewn i fferm a phriodi merch fferm - a doedd hynny ddim yn mynd i ddigwydd.

"Felly 'nes i safio lan dros y blynydde, a wedyn pan oedd y dyfarnu yn dod i ben ro’n i wedi prynu tyddyn bach, small holding bach byti 90 erw i gyd nawr, a wedyn prynu cwpwl o wartheg Hereford.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images

O ganlyniad, roedd Mr Owens yn edrych ymlaen at ei ymddeoliad.

"Ro’n i’n gwybod yn Cwpan y Byd yn 2019 bo’ fi ddim yn mynd i wneud pedair blynedd arall a mynd i Ffrainc am wyth wythnos yn 2023.

“Felly o’n i wedi paratoi a do’n i methu aros i ddod ‘nôl o Japan ar ôl Cwpan y Byd 2019 i ddechrau rhan nesa’ fy mywyd.

“Felly fe ddigwyddodd pethau yn ddigon naturiol, ac i fi roedd e’n bwysig bod hynna 'na.

“Achos 'se’n i’n codi lan yn y bore ac yn puzzlo, ‘be’ fi’n mynd i neud?’, dyna be’ ti’n gweld a lot o bobl yn diodde’ gydag iechyd meddwl.”

Pynciau cysylltiedig