Cymru 'mewn sefyllfa fregus' yn sgil diffyg plannu coed

Coed
Disgrifiad o’r llun,

640 hectar o goetir newydd gafodd ei greu yng Nghymru y llynedd -12% o darged blynyddol y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd

Mae diffyg plannu coed yng Nghymru yn "ddigalon" ac mae'n effeithio ar ddyfodol economaidd ac amgylcheddol y wlad, yn ôl un arbenigwr coedwigaeth.

Mae ffigyrau yn dangos fod 640 hectar o goetir newydd wedi cael ei greu yng Nghymru y llynedd - gostyngiad sylweddol o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a dim ond 12% o darged blynyddol Llywodraeth Cymru o 5,000 hectar.

Yn ôl Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd (Confor), mae Cymru yn "mynd am yn ôl", ac mae cyflymu'r broses o blannu coedwigoedd newydd yn "gwbl hanfodol" os am gyrraedd targedau amgylcheddol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid er mwyn llunio strategaeth goed ddiwydiannol i gefnogi a datblygu'r diwydiant.

Mae ystadegau Forest Research fis diwethaf yn dangos fod 640 hectar o goetir newydd wedi ei greu yng Nghymru yn 2023-24, lawr o bron i 1,200 hectar yn y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Elaine Harrison, rheolwr Confor yng Nghymru: "Mae rhain wir yn ffigyrau digalon, yn enwedig o ystyried y darlun ar hyd gweddill y Deyrnas Unedig.

"Mae'r Alban a Lloegr wedi plannu llawer mwy o goed o'i gymharu â'r flwyddyn gynt, ac mae'r cyfanswm ar hyd y DU yn sylweddol uwch hefyd.

"Ond mae Cymru yn mynd am yn ôl - ac mae hyn am gael effaith ar ein heconomi gwledig, lle gallwn ni fod yn creu swyddi a thyfiant yn ogystal â helpu'r amgylchedd, gan ein bod ni angen plannu llawer mwy o goed i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn "ddigalon", medd Elaine Harrison

Esboniodd Ms Harrison, yn wahanol i'r Alban a Lloegr, does gan Gymru ddim system i ganfod ac asesu ardaloedd fyddai o bosib yn gallu cael eu hadfer a'u defnyddio i blannu coed.

Yng Nghymru, meddai, mae hi'n "haws i blannu coed ar dir amaethyddol, sydd ddim yn rhywbeth 'dan ni am ei weld yn digwydd", ac mae Ms Harrison yn galw am "adolygiad radical" o'r ffordd y mae'r llywodraeth yn ymdrin â'r mater.

Ychwanegodd fod cadwraethwyr, ffermwyr a chwmnïau coedwigaeth i gyd "yn cystadlu am dir ar hyd Cymru, ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw dod o hyd i ffordd i weithio gyda'n gilydd".

'Sefyllfa fregus iawn'

Tra bod Yr Alban a Lloegr yn plannu mwy o goed na Chymru, dywedodd Ms Harrison fod y DU yn rhy ddibynnol ar fewnforion.

"Ry'n ni mewn sefyllfa fregus iawn yng Nghymru, ac o amgylch y DU, wrth ddibynnu ar y farchnad ryngwladol," meddai.

Er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, a 180,000 hectar erbyn 2050, mae angen plannu 5,000 hectar newydd bob blwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Hoffai Iwan Lloyd-Williams weld mwy o gartrefi yn cael eu hadeiladu yn defnyddio coed o Gymru

Yn ôl Iwan Lloyd-Williams, sy'n ymgynghorydd coedwigaeth annibynnol, mae hyd yn oed coed sy'n cael eu hystyried fel rhai sy'n tyfu'n sydyn angen rhwng 30-40 mlynedd i aeddfedu, felly mae angen gweithredu ar frys.

"Os 'dan ni ddim yn gwneud rhywbeth rŵan, mae hi am fod yn rhy hwyr," meddai.

Dywedodd ei bod hi'n "galonogol" fod gan y Llywodraeth dargedau uchelgeisiol o ran plannu coed a chyrraedd sero net, ond fod y diwydiant yn wynebu gormod o "fiwrocratiaeth a phrosesau hir wyntog" cyn gallu rhoi rhaw yn y ddaear.

Yn ôl ffigyrau diweddara'r llywodraeth - ar gyfer 2017-18 - mae'r diwydiannau coedwigaeth a phapur yn cyfrannu tua £665m i economi Cymru, ac mae hyd at 11,000 o bobl yn gweithio yn y maes.

Ychwanegodd Mr Lloyd-Williams fod y galw am goed ar gyfer adeiladu yn debygol o gynyddu, gyda mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddeunyddiau cynaliadwy.

"Ry'n ni angen cartrefi. Gyda'r boblogaeth yn tyfu, o le mae'r coed hynny am ddod yn y dyfodol? Dyla' ni allu adeiladu tai Cymreig gyda choed o Gymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru eisiau plannu 180,000 hectar o goetir newydd erbyn 2050

Ym mis Mai cafodd cynllun i weddnewid system cymorthdaliadau ffermwyr ei ohirio tan 2026 yn dilyn protestiadau eang.

Fel rhan o gynigion gwreiddiol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, roedd gofyn i ffermwyr blannu coed ar 10% o'u tir, a chlustnodi 10% o'u tir fel cynefin i fyd natur, ond roedd nifer o ffermwyr yn anhapus gyda'r cynnig hwnnw.

'Ddim yn ymarferol' ar bob fferm

Yn ôl Iwan Parry, rheolwr rhanbarthol efo Tilhill - cwmni coedwigaeth mwya'r DU - roedd ceisio gorfodi ffermwyr i blannu coed ar 10% o'u tir cynhyrchiol yn gamgymeriad.

"Dwi ddim yn siŵr os mai dyna'r ffordd orau i fynd o'i chwmpas hi," meddai.

Mae'n dadlau fod angen i gwmnïau coedwigaeth a ffermwyr weithio gyda'i gilydd a dod i gytundeb, gan ychwanegu "fod yna gyfleoedd ar ffermydd, heb os, ond nid ar bob fferm".

"Mae'n gweithio i rai ffermwyr i blannu coed, ond efallai nad ydi hynny'n ymarferol i rai eraill.

"Mae angen i ni edrych yn ôl ar hyn a cheisio dod o hyd i ffordd ymlaen. Mae angen i ni gynhyrchu bwyd, ond mae angen i ni hefyd gynhyrchu pren er mwyn gallu adeiladu cartrefi a phopeth arall."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sawl protest ei chynnal mewn ymateb i gynlluniau amgylcheddol Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n falch o weld Confor yn tynnu sylw at bwysigrwydd tyfu mwy o goed yng Nghymru a'i bwysigrwydd wrth adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru.

"Ry'n ni'n gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys Confor, er mwyn llunio strategaeth goed ddiwydiannol i gefnogi a datblygu'r diwydiant mewn modd effeithiol.

"Roedd y cynigion oedd yn rhan o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynnwys plannu coed ar dir amaethyddol, gydag unrhyw goed newydd yn cael eu cyflwyno mewn modd sy'n golygu y byddai busnes y fferm yn elwa.

"Does dim penderfyniadau terfynol wedi eu gwneud ynglŷn â chynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ond ry'n ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid, ac yn cynnal trafodaethau bord gron er mwyn adolygu'r agweddau hyn."