Arweinwyr amaeth yn gwrthod cynllun coed llywodraeth

cae fferm
Disgrifiad o’r llun,

Targedau plannu coed ar dir ffermwyr yw un o brif bryderon yr undeb amaeth am y cynllun

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na amheuaeth dros ddyfodol cynlluniau i weddnewid cymorthdaliadau amaeth Cymru, wedi i arweinwyr undeb gyhoeddi na fyddan nhw'n cymryd rhan yn y cynllun.

Dywedodd NFU Cymru fod y cynlluniau yn rhy gymhleth a "ddim yn gwneud synnwyr busnes".

Daw'r newyddion ar drothwy Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

Dywedodd Gweinidog Amaeth Llywodraeth Cymru fod safbwynt arweinwyr NFU Cymru yn un "siomedig iawn".

'Cwymp yng ngwerth tir'

Mae'r gwaith o ddiwygio taliadau amaethyddol wedi bod yn un o bolisïau amlycaf Llywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae hefyd yn rhan allweddol o'u hymateb i heriau newid hinsawdd a cholledion natur.

Mae disgwyl i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddechrau yn 2025, gan ddisodli'r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi cyfrannu dros £300m y flwyddyn i ffermydd Cymreig.

Sail y model newydd yw arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus, gan wobrwyo ffermydd am waith sy'n amsugno allyriadau carbon, darparu cynefinoedd natur, a gwella ansawdd dŵr ymysg pethau eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Abi Reader o NFU Cymru wedi dweud na fydd hi'n cymryd rhan yn y cynllun ar ei fferm ei hun

Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid i ffermydd gytuno i gyfres o ofynion cyffredinol - gan gynnwys sicrhau bod 10% o'u tir wedi'i blannu â choed, a 10% yn rhagor yn cael ei reoli fel cynefin i fywyd gwyllt.

Er bod ffermwyr wedi ymrwymo i warchod yr amgylchedd, meddai dirprwy lywydd NFU Cymru Abi Reader, byddai'r targed plannu coed yn rhwystro nifer rhan cael mynediad i'r cynllun taliadau.

"Ry'n ni'n poeni na fydd faint sy'n cael ei dalu yn adlewyrchu'r cwymp yng ngwerth y tir fydd yn gysylltiedig â phlannu coed - sydd i bob pwrpas yn newid parhaol yn nefnydd y tir," dywedodd wrth BBC Cymru.

"Fyddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl i unrhyw sector arall ymwneud â gweithgaredd sy'n mynd i ostwng gwerth eu hasedau - sef tir amaethyddol cynhyrchiol yn ein sefyllfa ni - gan hyd at 80% o'i werth?"

'Gwrthod plannu ar dir da'

Ar y cyd â llywydd yr undeb, Aled Jones, mae wedi cyhoeddi na fydd hi'n cymryd rhan yn y cynllun ar ei fferm hithau fel ag y mae ar hyn o bryd.

"Ry'n ni wedi siarad yn helaeth gyda'n haelodau," meddai.

"Mae hyd yn oed ffermydd sy'n dibynnu yn enfawr ar gymorthdaliadau yn dweud nad ydyn nhw'n medru gwneud y syms ar hyn - ac mae hynny yn bryderus iawn.

"Os nad yw ffermwyr o amgylch Cymru yn medru cael mynediad i'r cynllun yna mae wedi methu."

NFU Cymru yw undeb amaeth fwyaf Cymru, yn cynrychioli miloedd o fusnesau ar draws y wlad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae NFU Cymru yn dweud nad ydyn nhw eisiau gweld coed yn cael eu tyfu ar "dir cynhyrchiol ar gyfer tyfu bwyd"

Dywedodd y llywydd Aled Jones fod ffermwyr yn barod i gynnwys mwy o goed yn eu systemau amaethu, ond "wnawn ni ddim plannu ar dir cynhyrchiol ar gyfer tyfu bwyd".

Ar drothwy'r Sioe Fawr, mae'r gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths wedi galw ar ffermwyr i ymweld â stondin y llywodraeth i ddeall mwy ynglŷn â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

“Drwy weithio gyda’n gilydd mae gennym gyfle unigryw na chawn ei debyg eto yn ein hoes i ddylunio’r cynllun cywir i ffermwyr ac i Gymru," meddai.

"Rwyf am gadw ffermwyr ar y tir, yn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gan ymdrin â’r argyfyngau hinsawdd a natur ar yr un pryd."

Targedau plannu coed

Mae trydydd ymgynghoriad ar y cynlluniau i fod i gael ei lansio cyn diwedd y flwyddyn, gyda'r cynllun yn ei ffurf terfynol i'w gyhoeddi yn 2024.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, sy'n cynghori'r llywodraeth ar y mater, wedi rhybuddio'n ddiweddar bod lefelau plannu coed yng Nghymru yn "llawer rhy isel".

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i blannu 86 miliwn yn fwy o goed erbyn 2030.

Mae cyrff coedwigaeth hefyd wedi galw am gynnydd yng nghynhyrchiant pren domestig er mwyn lleihau allyriadau o'r sector adeiladu, gan ddadlau y byddai hyn yn dod â swyddi i gefn gwlad.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lesley Griffiths ei bod hi'n siomedig gyda sylwadau'r swyddogion undeb

Dywedodd y Gweinidog Amaeth Leslie Griffiths fod sylwadau Abi Reader ac Aled Jones yn "siomedig iawn".

Gyda dau gynllun eisoes wedi ei ddatblygu ac ymgynghoriad ar un arall, meddai, roedd bwriad y llywydd a'r is-lywydd i'w herio dros y targed plannu coed "ychydig yn gynnar".

"Dwi wedi cwrdd â nifer o ffermwyr sydd ddim yn credu bod 10% yn mynd yn ddigon pell, felly mae barn gymysg, ond dwi'n meddwl bod hyn yn siomedig cyn ymgynghoriad terfynol," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn pryderu y bydd mwy o ffermwyr yn dilyn esiampl y penaethiaid undeb, a chyhoeddi bwriad tebyg.

Galw am gonsesiynau

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar amaeth fod safbwyntiau undebau amaeth wedi eu "hanwybyddu".

“Mae'n rhaid i'r [Cynllun Ffermio Cynaliadwy] fod yn ddigon deniadol i ffermwyr gytuno iddo," dywedodd Samuel Kurtz A.S.

"Os nad ydyw, a bod y targed o 10% yn troi ffermwyr i ffwrdd o gofrestru, yna ni fydd nodau ehangach [y cynllun] yn cael eu cyflawni.

“Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru nawr roi ystyriaeth ddifrifol i gonsesiynau mawr neu hyd yn oed gael gwared ar y targed canrannol hwn yn gyfan gwbl.”