Caerlŷr yn penodi'r Cymro Steve Cooper yn rheolwr
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Caerlŷr wedi penodi cyn-reolwr Abertawe, Steve Cooper yn rheolwr.
Mae'r Cymro wedi bod heb glwb ers iddo adael Nottingham Forest ym mis Rhagfyr y llynedd.
Fe enillodd Caerlŷr ddyrchafiad y tymor diwethaf ar ôl gorffen ar frig y Bencampwriaeth, ond cafodd Enzo Maresca, y rheolwr wnaeth arwain y Foxes i Uwch Gynghrair Lloegr, ei benodi yn rheolwr Chelsea ddechrau'r mis.
Gydag ansicrwydd yn parhau ynglŷn â dyfodol Rob Page fel rheolwr Cymru, roedd Cooper yn un oedd wedi ei gysylltu â'r swydd honno.
Ond mae Cooper, sydd hefyd wedi rheoli tîm dan-17 Lloegr, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda Chaerlŷr.
Dywedodd mewn datganiad fore Iau: "Dwi wir yn edrych ymlaen, ac yn falch iawn o gael y cyfle i reoli Caerlŷr.
"Mae'n glwb ardderchog gyda hanes arbennig a chefnogwyr angerddol. Dwi'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda charfan mor dalentog, ac am yr her o gyflawni ein hamcanion yn yr Uwch Gynghrair."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
- Cyhoeddwyd10 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Mehefin