Lluniau Dydd Llun: Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
- Cyhoeddwyd
Mae'n ddydd Llun yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyma flas o'r maes ym Moduan ar ddiwrnod y coroni.

Roedd Lewis yn dysgu Japanaeg ar ben un o feini cylch yr Orsedd

Cewch groeso cynnes wrth gasglu eich tocynnau

Urddo aelodau newydd i Gylch yr Orsedd ben bore dan awyr las

Dewi'n y Niwl sef Dewi Pws yn canu Cân Goffa i gofio rhai o'r orsedd a fu farw yn ystod y flwyddyn

Astudio'r map cyn crwydro'r Maes

A Oes Peint?! Elen yn dathlu ar ôl cael ei hurddo ar sail gradd. Ei henw barddol yw Rhoces Brynawel

Welsh of the West End sef Glain Rhys, Mared Williams, Siwan Henderson a Steffan Rhys Williams yn cael prawf sain ar Lwyfan y Maes

Gill a Wyn o Bentyrch sydd "lan am yr wythnos". Sgwn i a fydden nhw'n mwynhau hufen iâ bob dydd?

Roedd y cyflwynydd Jason Mohammad yn cael diwrnod i'r brenin

Cymryd hoe yn yr ardd

Prynhawn hwyliog o flaen Llwyfan y Maes

Pwy sy'n gwneud i'r stiwardiaid chwerthin?

Anni Llŷn, Cyflwynydd y corn hirlas cyn Seremoni'r Coroni

Y dawnswyr blodau ar fin mynd i mewn i'r pafiliwn

Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd

Robin McBryde, Ceidwad y Cledd, yn ymlwybro tua'r Pafiliwn ar gyfer y coroni
Pynciau cysylltiedig
Mwy o'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023