Prosiect cerdd sy’n 'trawsnewid bywydau plant' yn 10 oed
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun cerddorol Codi'r To yn dathlu 10 mlynedd ers ei sefydlu eleni, ac yn cynnal dwy gyngerdd arbennig i nodi'r achlysur.
Mae dros 500 o bobl ifanc rhwng pump ac 11 oed wedi bod yn dysgu gwneud cerddoriaeth yn rhad ac am ddim drwy gynllun Codi'r To.
Eleni, mae'r prosiect adfywio cymunedol yn gweithio gyda disgyblion Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon ac Ysgol Glancegin ym Mangor i gynnal dwy gyngerdd yn lleol.
Bydd rhai disgyblion hefyd yn cael y cyfle i fynychu gwersyll cerddoriaeth Side by Side yn Gothenburg, Sweden.
Mae Bari Gwilliam yn gweithio fel tiwtor i Codi'r To ac yn teimlo bod y prosiect yn werthfawr iawn.
"Mae disgyblion yn datblygu sgiliau bywyd fel datrys problemau, creadigrwydd, gwneud penderfyniadau, hunanddisgyblaeth, sgiliau arwain a dyfalbarhad," meddai.
"Mae Codi'r To wedi'i gynllunio i gefnogi'r ysgolion i godi lefelau cyrhaeddiad addysgol.
"Gwella gallu i ganolbwyntio, gwrando, dilyn cyfarwyddiadau, datblygu iaith, rhifedd, presenoldeb a chanlyniadau addysgol."
Ychwanegodd bod rhai o'r plant sydd wedi dysgu chwarae offeryn ers 2014 gyda'r prosiect wedi dal ati i chwarae.
Mae Ajay yn rhan o grŵp Codi'r To yn Ysgol Maesincla, ac yn dweud fod y prosiect wedi trawsnewid ei fywyd.
Dywedodd: "Pan nes i ddechrau chwarae'r cornet oedd o'n anodd... ond mae Codi'r To wedi helpu i fi ddysgu.
"Oedd gen i freuddwyd i fod yn footballer, ond efo Codi'r To, 'dw i isio bod yn musician rŵan."
Mae rhai o blant Ysgol Glancegin hefyd yn dweud pa mor wych ydy bod yn rhan o'r prosiect.
Dywedodd Yakub: "Da ni'n trio caneuon newydd a 'dw i'n mwynhau efo fy ffrindiau!"
Yn ôl Grace, mae hi'n edrych ymlaen at chwarae yn y gyngerdd gyda'r band yn fuan, a dyw hi ddim yn nerfus gan ei bod wedi perfformio mewn sawl cyngerdd o'r blaen.
Dywedodd Rhiannon ei bod yn annog unrhyw un sydd heb chwarae offeryn o'r blaen i fynd amdani.
"Gofynnwch i'ch teulu i helpu chi ddysgu, ac efo rhywun fel athro neu rywun yno i'ch helpu chi mae'n lot gwell, ac mae'n syniad dechrau gydag offeryn plastig gan ei fod yn haws."
Mae'r pedwar yma ymysg yr wyth disgybl sydd hefyd wedi cael eu dewis i fynd i wersyll cerddoriaeth Side by Side, rhan o raglen gerddorol El Sistema, sy’n cyfarfod yn Gothenburg, Sweden.
Bydd y criw yn teithio yno fis Mehefin.
Mae Tesni Hughes yn un o diwtoriaid Codi'r To ac yn dweud pa mor fuddiol ydy'r sesiynau cerdd.
"'Dw i'n meddwl ei fod o'n bwysig iawn. Nid yn unig 'da chi'n dysgu sgiliau newydd fel sgiliau cerddorol ond mae'n ffordd o ymlacio," meddai.
"Da ni wedi cael cwpl o blant yn dweud eu bod yn dod i glwb Codi'r To ar ôl ysgol i ymlacio, i fwynhau ac i fod gyda'u ffrindiau ond hefyd i neud cerddoriaeth."
Mae Tesni hefyd yn dweud pa mor fuddiol ydy cerddoriaeth iddi hi yn bersonol.
"Mae cerddoriaeth wedi fy helpu i drwy fy mywyd yn feddyliol a dwi'n gweld hynny wrth i'r plant ddechrau dod yn fwy cyfforddus yn eu hunain, ond hefyd gyda'r ochr gerddorol o bethau hefyd, felly mae'n rili pwysig."