Atal dweud: 'Ddylai neb orfod talu am help i siarad'
- Cyhoeddwyd
Mae’n annheg bod pobl yn gorfod talu am gymorth atal dweud, yn ôl arbenigwr yn y maes.
Yn ôl amcangyfrifon, mae rhyw 8% o blant a thua hanner miliwn o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn byw ag atal dweud.
Mae un therapydd iaith a lleferydd arbenigol yn rhybuddio bod nifer o bobl yn gorfod talu am gymorth oherwydd rhestrau aros hir yn y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "triniaeth ar gyfer atal dweud yn aml yn llwyddiannus gyda phlant ifanc iawn, felly mae cael ymyrraeth gynnar yn bwysig".
"Mae croeso i rieni a gofalwyr gysylltu â’u meddyg teulu os ydyn nhw’n pryderu."
'Dim clem gan fy ffrindie'
Daeth i’r amlwg fod gan Lloyd Cottrell o Gasnewydd atal dweud pan oedd yn bump neu chwech oed.
Penderfynodd ei rieni dalu am gymorth preifat pan oedd yn ei arddegau cynnar.
Pan oedd e’n iau mae'n dweud bod "dim clem" gyda'i ffrinidiau "sut i ymdopi 'da phobl sy 'da atal dweud na sut i drin nhw".
A hithau'n Ddiwrnod Atal Dweud Rhyngwladol, mae'r cerddor 26 oed yn awyddus i addysgu eraill a cheisio gwella'r cymorth sydd ar gael i bobl sydd ag atal dweud.
Mae’n credu’n gryf y "dyle neb orfod talu am help i just siarad".
“Er bod llawer o gymorth ar gael, mae’r rhan fwyaf yn gostus iawn,” meddai.
“Mae’n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn sybsideiddio llawer mwy o gymorth er mwyn helpu pobl i reoli eu hatal dweud.”
Yn ôl Sian Thomas, therapydd iaith a lleferydd arbenigol, mae angen sicrhau rhagor o fuddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd i helpu’r rheiny sydd ag atal dweud.
“Mae gallu siarad, cymryd rhan yn eu haddysg a chymdeithasu mor bwysig ac yn rhan hanfoddol o ddatblygiad plentyn,” meddai.
“Mae’n annheg bod rhai pobl yn gorfod talu am rywbeth sy' mor hanfodol”.
Ychwanegodd: "Mae angen i ni addysgu pobl a helpu pobl i weld bod gwahaniaethau yn iawn ac mai ffordd wahanol o siarad ydy atal dweud ac nid nam lleferydd.
“Dwi’n credu bod angen newid y ffordd mae pobl yn meddwl am atal dweud ac mi fydd hynny’n gwneud i lawer deimlo fel eu bod nhw’n cal eu derbyn yn well o fewn cymdeithas.”
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd24 Medi 2021
Ym mis Tachwedd 2019 bu'n rhaid i 13 person yng Nghymru aros mwy nag 14 wythnos am gymorth ond mae’r niferoedd wedi cynyddu ers hynny.
Ym mis Ebrill 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun i gyflymu profion ar gyfer ymyriadau therapi gyda’r nod o leihau rhestrau aros i rhwng wyth ac 14 wythnos erbyn gwanwyn 2024.
Ond yn yr ystadegau diweddaraf ym mis Gorffennaf, bu'n rhaid i 277 aros mwy nag 14 wythnos am therapi lleferydd ac iaith.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae arbenigwyr iechyd yn gweithio gyda unigolion a/neu eu teuluoedd er mwyn penderfynu pa driniaeth neu gefnogaeth maen nhw ei angen.
"Mae'r cynllun Siarad Gyda Fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn ceisio cryfhau'r gefnogaeth sydd ar gael i blant i ddatblygu eu lleferydd, eu hiaith a sgiliau cyfathrebu."
Ychwanegodd llefarydd bod "triniaeth ar gyfer atal dweud yn aml yn llwyddiannus gyda phlant ifanc iawn, felly ma cael ymyrraeth gynnar yn bwysig".
"Mae croeso i rieni a gofalwyr gysylltu â’u meddyg teulu os ydyn nhw’n poeni."