Trychineb Gresffordd: Teulu dyn fu farw yn cadw'r hanes yn fyw

Trychineb GresfforddFfynhonnell y llun, Gresford Disaster NWMAT
Disgrifiad o’r llun,

Aeth gwirfoddolwyr dewr i lawr i'r pwll oedd ar dân mewn ymgais ofer i achub eu cyd-lowyr wedi trychineb Gresffordd

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu glöwr a gafodd ei ladd yn nhrychineb Gresffordd 90 mlynedd yn ôl yn dweud eu bod yn teimlo'n agosach ato ar ôl helpu i adfer adeilad oedd yn rhan o'r ymgyrch achub.

Roedd Gorsaf Achub y Glowyr yn Wrecsam yn weithredol o 1913 tan 1986, a dyma lle cafodd y dynion fu'n rhan o'r gwaith achub yn y pwll eu hyfforddi.

Ond ers 2019, mae'r adeilad wedi'i ailddatblygu fel canolfan gymunedol a hwb addysg ac fel man i goffáu'r 266 o ddynion fu farw yn y drychineb.

Cafodd Richard Tarran a'i fab Robert eu hysbrydoli gan eu cyndaid, John Tarran, i gymryd rhan mewn cynllun gwirfoddolwyr trwy eu cyflogwyr, Hydro Aluminium.

Roedd y cwmni'n rhan o'r gwaith parhaus o adfer Gorsaf Achub y Glowyr yn Wrecsam.

Richard a Robert Tarran
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Richard a Robert Tarran eu hysbrydoli gan eu cyndaid, John, i wirfoddoli i adfer Gorsaf Achub y Glowyr

Dywedodd Richard, o bentref Bradle yng ngogledd Wrecsam, iddo ddysgu llawer am ei hen-daid John, oedd yn dod o Fwcle yn Sir y Fflint, gan ei daid ei hun, Gilbert.

Roedd Gilbert yn 21 oed pan gafodd ei dad ei ladd yn y ffrwydrad a'r tân yng Ngresffordd.

Byddai Gilbert yn dweud wrth Richard am y bywyd caled a gafodd wrth weithio i lawr y pwll, dan amodau yr oedd o'n credu oedd yn beryglus.

Y teulu TarranFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

John Tarran (ail o'r dde) gyda'i wraig a'i naw o blant, gan gynnwys tad Richard, Gilbert (canol)

Dywedodd Richard: "Byddai'n dweud wrtha' i ei fod [John] yn dod adref ac yn eistedd yn y bath tun o flaen y tân yn tynnu'r llwch glo, a byddai'n dweud wrtho 'mi fydd 'na drychineb mawr'.

"Roedd o'n gwybod beth oedd i ddod."

Staff Hydro Aluminium yn gwirfoddoliFfynhonnell y llun, Hydro Aluminium
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff o gwmni Hydro Aluminium wedi bod yn gwirfoddoli ym Mhrosiect Glowyr Wrecsam

Gyda'r ddau yn gweithio i'r un cwmni, roedd hanes y teulu yn golygu bod Richard a'i fab Robert wedi manteisio ar y cyfle i fod yn rhan o'r gwaith i adfer y ganolfan achub.

Dywedodd Robert, 21, ei fod wedi gwneud iddo deimlo cysylltiad cryf gyda'i hen, hen daid, a'i fod wedi gwneud i'r straeon a glywodd amdano ddod yn fyw.

"Dwi'n hoffi bod yma a gweld yr holl luniau o'r adeg y digwyddodd y cyfan," meddai.

"Ac mae'n braf helpu a rhoi rhywbeth yn ôl i'r dyfodol hefyd."

Kenneth Tarran
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kenneth Tarran ymweld â'r orsaf achub am y tro cyntaf yn ddiweddar, a gweld enw ei daid ar y wal goffa

Fe wnaeth tad Richard ac ŵyr John, Kenneth Tarran, ymweld â'r orsaf achub am y tro cyntaf yn ddiweddar, a gweld enw ei daid ar y wal yn coffáu trychineb Gresffordd.

Dywedodd fod gweld ei enw ymhlith glowyr eraill yn "emosiynol".

Ychwanegodd ei fod yn "hynod falch" fod ei fab a'i ŵyr yn rhan o'r gwaith adfer, gan gadw'r cysylltiad drwy'r cenedlaethau.

"Pan 'da chi'n meddwl pwy sydd wedi bod trwy'r drysau hyn a sydd wedi cael eu hyfforddi, ac wedi bod yn rhan o'r trychineb - mae'n anhygoel meddwl eu bod nhw yma bryd hynny," meddai Kenneth.

Michael Hett
Disgrifiad o’r llun,

"Cafodd Wrecsam ei hadeiladu ar lo a dur," meddai Michael Hett

Ers chwe blynedd, mae Prosiect Glowyr Wrecsam - sy'n gofalu am yr orsaf achub - wedi adfywio hanner yr adeilad, gan greu caffi, amgueddfa, gofod celfyddydol a digwyddiadau, yn ogystal â'r wal goffa.

Dywedodd Michael Hett, un o ymddiriedolwyr yr ymgyrch sy'n helpu gyda'r rhaglen addysgu, mai rhan o'r gwaith "hanfodol" ydy dod â'r hanes yn fyw.

Tynnodd sylw at un nodwedd o'r ganolfan, sef y "siambr boeth a llaith", sy'n rhoi syniad i blant ac ymwelwyr eraill o'r amodau yr oedd y gweithwyr achub a'r glowyr yn eu hwynebu.

Ychwanegodd: "Cafodd Wrecsam ei hadeiladu ar lo a dur.

"'Da ni eisiau rhoi syniad i blant o dreftadaeth y diwydiant mwyngloddio.

"Mae ganddyn nhw gymaint o frwdfrydedd - maen nhw bob amser eisiau gwybod mwy."

Pynciau cysylltiedig