Trychineb glofa Gresffordd yn ysbrydoli opera newydd
1 o 4
- Cyhoeddwyd
Bron i ganrif ers un o drychinebau glofaol gwaethaf Cymru, mae opera wedi ei chyfansoddi yn adrodd yr hanes.
Fe gafodd 266 o ddynion a bechgyn eu lladd mewn ffrwydrad dan ddaear yng nglofa Gresffordd ger Wrecsam yn 1934.
Bwriad yr opera ‘Gresffordd - I'r Goleuni Nawr’ ydy cyflwyno’r hanes i genedlaethau newydd a chadw’r cof am y drychineb yn fyw.
Mae awdur y geiriau, Grahame Davies, yn teimlo na chafodd y digwyddiad y sylw mae’n ei haeddu, er ei fod yn “drychineb ofnadwy ar raddfa fawr”.
- Cyhoeddwyd22 Medi 2022
- Cyhoeddwyd22 Medi 2019
“Er ei bod hi’n drychineb mor ddiweddar, dim ond 90 mlynedd yn ôl, dydy hi ddim yn rhywbeth sy’n rhan o’r ymwybyddiaeth gyhoeddus, ddim yng Nghymru ac yn sicr ddim ym Mhrydain”, medd Mr Davies, sy’n or-ŵyr i asiant glowyr a fu’n delio gyda’r dynion a’u teuluoedd wedi'r drychineb.
Mae’n dweud bod “anwybodaeth” am Gresffordd, ac yn awgrymu fod hynny o bosib yn ymwneud a lleoliad y drychineb.
“Mae 'na bobl sydd erioed wedi clywed am y drychineb hon ac mae hyn efallai oherwydd ei fod mewn maes glo yng ngoledd Cymru a ddim wedi gwreiddio cymaint yn y cof cyffredin ag y buasai digwyddiad mor fawr wedi gwneud fel arall.”
“Felly rhan o’r bwriad oedd i drio atgoffa pobl o ba mor wael oedd hyn, o’r camwedd mae'n ei gynrychioli a faint oedd yr effaith ar y gymuned ac i sicrhau bod hyn yn aros yn rhan o’r cof cyffredin,” meddai Mr Davies.
Ymdrech amhosib
Roedd mwy na 500 o ddynion yn gweithio dan ddaear pan dorrodd ffrwydrad trwy'r pwll yn oriau mân y bore ar 22 Medi, 1934.
Y gred ydy bod nifer y gweithwyr ar y safle yn fwy na'r arfer gan fod nifer wedi dyblu eu shifftiau er mwyn mynd i wylio gêm bêl-droed yn Wrecsam yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Dim ond chwech o'r glowyr a lwyddodd i ddringo allan o'r mwg a'r llwch, a'r tanau cynddeiriog oedd yn dal i losgi eu cydweithwyr.
Fe gafodd tri o weithwyr achub eu lladd dan ddaear ac o fewn deuddydd penderfynwyd bod y tanau a’r perygl o ragor o ffrwydradau yn ei gwneud hi’n amhosib parhau.
Mae cyrff 253 o’r dynion a’r bechgyn wedi eu claddu yno hyd heddiw.
Mae sôn bod dynion wedi colli hanner eu cyflogau am nad oedden nhw wedi cwblhau eu shifft a bod cyflogau glowyr eraill yn eu pocedi dan ddaear, gan adael teuluoedd mewn tlodi.
Yn gynhyrchiad gan NEW Sinfonia, bydd yr opera yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghadeirlan Llanelwy ar achlysur 90 mlwyddiant y drychineb fis Medi fel rhan o Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.
Mae wedi ei chyfansoddi gan Jonathan Guy a bydd yn cael ei harwain gan ei frawd Robert, y ddau'n hanu o ardal Wrecsam a chysylltiad teuluol hefyd â'r diwydiant glo.
Dywedodd Cadeirydd yr Ŵyl, y Gwir Barchedig Nigel Williams, fod cofio’r hanes yn “ddyletswydd”.
“Mae’r drychineb wedi dylanwadu ar deuluoedd, ar yr ardal, ac mae’n bwysig i ni gofio bod ‘na ardal lofaol wedi bod o amgylch Wrecsam a bod llefydd fel Gresffordd wedi cael eu dylanwadu mor ofnadwy fel hyn.”
“Dwi’n meddwl bod gennym ni ddyletswydd i gofio am y rhai gollodd eu bywydau, y teuluoedd gafodd eu heffeithio ac i roi teyrnged iddyn nhw.”