Gresffordd yn 'ran anferth o fy mywyd'

Gillian Davies gyda'r llyfr cofio am GresfforddFfynhonnell y llun, Gillian Davies
Disgrifiad o’r llun,

Gillian Davies gyda'r llyfr cofio am Gresffordd

  • Cyhoeddwyd

“Mae’r opera am Gresffordd yn beth mor emosiynol i fi – dyma fy etifeddiaeth a dyma fy DNA.”

Ar 22 Medi 2024 mae hi’n 90 mlynedd ers un o drychinebau glofaol gwaethaf Cymru.

Cafodd 266 o ddynion a bechgyn eu lladd mewn ffrwydrad dan ddaear yng nglofa Gresffordd ger Wrecsam ar 22 Medi 1934.

90 mlynedd yn ddiweddarach mae opera Gresffordd, I'r Goleuni 'Nawr, wedi ei chyfansoddi gan Jonathan Guy a Grahame Davies yn adrodd yr hanes.

Ac un o’r rhai sy’n perfformio yn yr opera yw Gillian Davies, sy’n ferch i un o lowyr Gresffordd oedd i fod yn gweithio shifft dan ddaear yno ar noson y drychineb.

Roedd ei thad Ivor Owen Bellis yn 18 oed ar ddiwrnod y drychineb a’n ystyried ei hun yn ‘y dyn mwyaf lwcus i fod yn fyw’ fel canlyniad i beth ddigwyddodd yno y noson hynny.

Ffynhonnell y llun, Gillian Davies
Disgrifiad o’r llun,

Ivor Owen Bellis

Esbonia Gillian, sy’n 70 oed ac yn dod o Wrecsam: “Aeth i lawr i’r pwll y noson cyn y drychineb ac mi oedd yn mwyngloddio pan gafodd ergyd i’w law.

“Felly aeth adref i’w wely ar ddiwedd y shifft nos ond pan gododd o’i wely tua 4 o’r gloch y prynhawn wedyn roedd ei law wedi chwyddo.

“Felly dyma ei fam, sef fy nain i, yn dweud ‘dim gwaith heno – cer yn ôl i’r gwely.’

“Roedd o eisiau mynd i’r gwaith ac wedi cychwyn gwisgo yn barod i fynd.

“Ond fe wrandawodd o arni. I feddwl bod hi wedi achub ei fywyd. Byddwn i ddim yma os na fyddai hi wedi'i achub o. Mae’n ffawd. Doedd ei fam o ddim yn medru credu’r peth.

“Cafodd fy nhad gymaint o sioc pan glywodd o’r bore ar ôl y drychineb fod ei ffrind gorau i lawr yn y pwll y noson hynny ac hefyd ei gydweithwyr. Roedd nifer o ddynion i lawr yno. Roedden nhw wedi dyblu fyny ar y shifft mae’n debyg achos fod nifer o’r glowyr eisiau gweld gêm bêl-droed Wrecsam y noson hynny.

“Ac am ddau y bore ffrwydrodd y pwll gyda’r holl ddynion yma lawr yno. Ac roedd rhai ohonynt wedi casglu eu tâl cyn mynd i lawr felly roedd eu cyflogau nhw gyda nhw hefyd.

"Y diwrnod wedi'r drychineb roedd pobl yr ardal wedi mynd i'r pwll glo i weld pwy oedd yn dod allan yn fyw. Roedden nhw i gyd lawr yno, hyd yn oed y plant felly roedd yn dorcalonus."

Ffynhonnell y llun, GRESFORD DISASTER NWMAT
Disgrifiad o’r llun,

Yn yr oriau wedi'r drychineb, ymgasglodd torf fawr o berthnasau a glowyr wrth geg y pwll i aros am newyddion

Roedd mwy na 500 o ddynion yn gweithio dan ddaear pan ddigwyddodd y ffrwydrad yn oriau mân y bore.

Dim ond chwech o'r glowyr lwyddodd i ddringo allan. Fe gafodd tri o weithwyr achub eu lladd dan ddaear hefyd.

Mae cyrff 253 o’r dynion a’r bechgyn wedi eu claddu yno hyd heddiw.

Meddai Gillian: “Roedd fy nhad yn torri ei galon a rhaid fod o wedi aros gyda fo am flynyddoedd. Rhaid fod o ar ei feddwl o hyd.

"Roedd o’n 18 pan ddigwyddodd y drychineb ac wedi mynd yn syth i weithio yng Ngresffordd ar ôl gorffen ysgol."

Ar ôl y drychineb aeth y glöwr ifanc yn ôl i weithio yn y pwll glo. Yn 29 oed priododd mam Gillian, sef Gwen, a chael dwy o ferched, Lynne a Gillian.

Ffynhonnell y llun, Gillian Davies
Disgrifiad o’r llun,

Ivor Owen Bellis gyda'i wraig Gwen

Meddai Gillian: “Yn sicr roedd Gresffordd ar ei feddwl dipyn – roedden ni'n arfer pasio drwy Gresffordd yn aml. Symudon ni i’r arfordir yng ngogledd Cymru yn 1971 ond pan gafwyd cofeb i Gresffordd aeth Dad i lawr yn y car i’w weld.

“Ac roedd o'n arfer pasio’r gofeb yn aml – bu farw yn 1993 yn 77 oed.”

Mae Gillian yn cofio ei thad yn siarad am y drychineb ac am y glofeydd lle bu’n gweithio ar ôl y ddamwain.

Felly mae’n brofiad emosiynol iddi hi i fod yn cymryd rhan yn yr opera fel rhan o’r digwyddiadau Cofio Gresffordd yn Wrecsam: “Mae’r opera am Gresffordd yn beth mawr i fi – cyn gynted a glywais i fod nhw’n gwneud yr opera o’n i’n gwybod bod rhaid i fi wneud o achos mae’n ran anferth o fy mywyd.

“Mae’r ymarferion wedi bod yn emosiynol iawn – mae clywed y cantorion a gweld yr actorion wedi taro fi. Ac roedd pobl eraill yn y côr yn crïo hefyd.

Ffynhonnell y llun, Gillian Davies
Disgrifiad o’r llun,

Gillian gyda Jonathan a Robert Guy ger y murlun i gofio Gresffordd

“Mae Jon a Rob (y brodyr o Wrecsam, Jonathan a Robert Guy, sydd wedi trefnu digwyddiadau Cofio Gresffordd) yn gerddorion gwych ac wedi gwneud gwaith anhygoel yn sicrhau fod y perfformiad yma’n dangos ysbryd y gymuned yn Gresffordd.”

Ffynhonnell y llun, Gresffordd – I'r Goleuni 'Nawr
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r perfformwyr yn opera Gresffordd – I'r Goleuni 'Nawr

Bydd Gillian yn aelod o gôr NEW Lleisiau fydd yn perfformio’r opera Gresffordd – I'r Goleuni 'Nawr gyda cherddorfa y NEW Sinfonia yn Eglwys San Silyn, Wrecsam ar 21 a 22 o Fedi.

Pynciau cysylltiedig