Galw am fwy o gefnogaeth i deuluoedd plant â chyflyrau gwaed
![Jasper a'i deulu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1248/cpsprodpb/b2a9/live/624ec270-e55e-11ef-be12-ab8ce9596612.jpg)
Mae Jasper a'i deulu wedi gorfod symud i Newcastle am chwe mis yn ystod ei driniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae mam bachgen saith oed sydd â chyflwr gwaed sy'n peryglu ei fywyd yn dweud, er bod y triniaethau yn debyg i blant sydd â chanser, nad ydyn nhw'n derbyn yr un gefnogaeth gan elusennau.
Ar ôl treulio pum mlynedd gyntaf ei fywyd i mewn ac allan o'r ysbyty, cafodd Jasper Hodgson ddiagnosis o Syndrom Delta PI3K APDS ym mis Awst 2023.
Y gred yw mai Jasper yw'r unig blentyn yng Nghymru sydd ag APDS - diffyg difrifol ar y system imiwnedd.
Dywed Sophie Hodgson-Smith, 32, fod rhai elusennau wedi gwrthod rhoi cymorth i'r teulu, er gwaetha'r ffaith iddyn nhw orfod symud o'u cartref yn Abertawe i Newcastle am chwe mis wrth i Jasper dderbyn trawsblaniad mêr esgyrn.
Mae hi'n galw am well cefnogaeth i'r rheiny sydd â chyflyrau gwaed, ac mae'n awyddus i gael gwared ar y syniadau anghywir ynghylch rhoi bôn-gelloedd (stem-cells).
Diffyg cymorth gan elusenau
Bu'n rhaid i'r teulu ail-leoli i'r Royal Victoria Infirmary yn Newcastle yng ngogledd Lloegr er mwyn i Jasper dderbyn gofal arbenigol wrth dderbyn trawsblaniad bôn-gelloedd, a gafodd ei roi iddo gan ei dad, Matt.
Tra bod hynny'n digwydd, maen nhw wedi gorfod parhau i dalu eu biliau morgais am eu tŷ yn y Mwmblws, lle mae mam Sophie wedi symud i fyw erbyn hyn.
Dywed Sophie fod y sefyllfa wedi achosi straen, wedi iddi orfod gadael ei swydd, tra bod ei gŵr wedi gallu cymryd amser i ffwrdd o'i waith i gefnogi Jasper.
Dywedodd bod diffyg ymwybyddiaeth o afiechydon y gwaed wedi golygu nad ydyn nhw wedi derbyn yr un cymorth ariannol gan elusennau ag y mae teuluoedd plant sydd ag afiechydon mwy cyfarwydd, fel canser.
"Mae canser y gwaed ac afiechydon canser yn aml yn golygu dilyn triniaeth debyg, gan gynnwys canfod rhoddwr, derbyn trallwysiadau (transfusions), a derbyn y trawsblaniad," meddai Sophie.
![Jasper yn yr ysbyty](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/6fd6/live/3335be10-e54c-11ef-a319-fb4e7360c4ec.jpg)
Cafodd Jasper Hodgson ddiagnosis o Syndrom Delta PI3K APDS ym mis Awst 2023
Mae Jasper wedi derbyn sawl trallwysiad gan roddwyr bôn-gelloedd ar hyd y blynyddoedd, yn ogystal â sawl rownd o gemotherapi er mwyn paratoi ei gorff ar gyfer y trawsblaniad.
Dywedodd Sophie bod y teulu wedi derbyn cymorth gan elusen The Masonic Hall, a roddodd lety iddyn nhw.
Maen nhw hefyd wedi derbyn talebau bwyd gan elusen Morgan's Army, ond dywedon nhw mai cleifion â chanser sy'n derbyn cymorth ganddyn nhw fel arfer.
Dywedodd Sophie bod yr un peth yn wir o fewn wardiau ysbyty, gyda phlant ag afiechydon gwaed ddim yn cael eu cofrestru ar gynllun The Beads of Courage - sy'n helpu plant i gadw cofnod o'u taith drwy'r driniaeth.
"Ni ddylai unrhyw blentyn gael eu trin yn waeth oherwydd y label sydd ar eu cyflwr," meddai.
"Mae afiechydon gwaed yn beryg bywyd hefyd, ac mae angen bod yr un mor gadarn, ond eto mae'r plant yna a'u teuluoedd yn cael eu gadael ar ôl."
![Jasper yn yr ysbyty](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1248/cpsprodpb/d43c/live/40dbda40-e54c-11ef-bd1b-d536627785f2.jpg)
Dywedodd Sophie, mam Jasper, bod ei system imiwnedd gwael wedi ei normaleiddio, er ei bod yn gwybod yn ei greddf fod rhywbeth o'i le
Jasper yw'r unig blentyn yng Nghymru ag APDS, ac mae Sophie yn dweud eu bod wedi gorfod cael "blynyddoedd o ymweliadau â'r ysbyty, camddiagnosis, a'i orfod gweld yn dioddef heb atebion" cyn cael diagnosis cywir.
Dywedodd fod Jasper yn aml wedi cael diagnosis ar gam o haint yn y frest, ond roedd ei fam yn gwybod yn ei greddf fod rhywbeth mwy o'i le.
Mae BBC Cymru hefyd wedi rhoi sylw i stori Dolcie-Mae, sydd hefyd wedi cael diagnosis o afiechyd gwaed prin yn dri mis oed [Erthygl Saesneg].
Mae ei theulu wedi gwneud ple am roddion bôn-gelloedd i geisio achub ei bywyd.
Dywed Sophie fod pobl yn aml yn tybio nad ydyn nhw'n gallu ymuno â'r gofrestr i roi bôn-gelloedd, gyda chofrestr Anthony Noan ar agor i bobl 16-30 oed yn unig.
Ond mae 'na gofrestrau eraill ar gael.
Mae cofrestr DKMS yn derbyn rhoddion gan bobl hyd at 40 oed, tra bod Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru yn derbyn pobl hyd at 55 oed.
Dywedodd Sophie bod cymaint o gyfleoedd i bobl achub bywydau, ond bod nifer o bobl ddim yn ymwybodol o'u bodolaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
- Cyhoeddwyd27 Mai 2019