Sioe Llanddarog: Arestio person ar amheuaeth o ddwyn

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae person wedi cael ei arestio yn dilyn adroddiadau o anghysonderau ariannol yn ymwneud â Chymdeithas Sioe Amaethyddol Llanddarog yn Sir Gâr.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y person wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddwyn, a'i fod wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mewn datganiad ar wefan y sioe, mae’r gymdeithas amaethyddol yn dweud bod is-bwyllgor wedi cynnal ymchwiliad yn ymwneud â rheolaeth ariannol y gymdeithas.

Ychwanegodd fod y Comisiwn Elusennau a Heddlu Dyfed-Powys bellach yn delio gyda’r mater.

Cafodd y sioe ei chynnal fel yr arfer ym mis Mehefin ac mae'r datganiad yn dweud bod swyddogion wedi gweithio i sicrhau bod y sioe yn ddigwyddiad llwyddiannus i'r gymuned gyfan.

Ers y datganiad, mae ysgrifennydd ariannol newydd wedi cael ei benodi.