Cyhuddo bachgen 16 oed wedi achos o drywanu ym Mhowys

Lon Parker, Y DrenewyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad i Lôn Parker yn Y Drenewydd nos Wener

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 16 oed wedi ei gyhuddo o dri chyhuddiad yn dilyn achos o drywanu ym Mhowys.

Mae wedi'i gyhuddo o glwyfo bwriadol, o fod ag arf miniog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, ac achosi niwed corfforol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn ardal Lôn Parker yn Y Drenewydd am 20:25 nos Wener.

Cafodd dyn 18 oed ei gludo i'r ysbyty gydag anaf i'w fraich ond nid yw'r anafiadau yn rhai all beryglu bywyd.

Mae'r bachgen 16 oed wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Y Trallwng ddydd Llun.

Pynciau cysylltiedig