Cyhoeddi £34m i wella diogelwch 130 o dipiau glo yng Nghymru

Llithrodd 60,000 o dunelli o wastraff glo i lawr ochr y mynydd ym Mhendyrus wedi glaw trwm Storm Dennis ym mis Chwefror 2020
Disgrifiad o’r llun,

Llithrodd 60,000 o dunelli o wastraff glo i lawr ochr y mynydd ym Mhendyrus wedi glaw trwm Storm Dennis ym mis Chwefror 2020

  • Cyhoeddwyd

Bydd bron i £34m tuag at ddiogelu tipiau glo yn helpu i warchod trigolion rhag tirlithriadau yn y dyfodol, meddai Llywodraeth Cymru.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae sawl tirlithriad wedi digwydd ar hen safleoedd glo, gan gynnwys ym Mhendyrus, Rhondda Cynon Taf yn 2020, a Chwmtyleri ym Mlaenau Gwent wedi Storm Bert yn 2024.

Ond mae rhai o'r trigolion a welodd ddifrod i'w tai y llynedd yn teimlo fel eu bod wedi eu hanghofio, gydag un yn dweud bod yr arian yn dod yn rhy hwyr wedi chwe mis anodd i bobl yr ardal.

Bydd yr arian yn gweld gwaith diogelwch yn digwydd ar 130 safle ar draws 10 awdurdod lleol - gyda Rhondda Cynon Taf, sydd wedi'i glustnodi fel y sir gyda'r risg uchaf, yn derbyn £11.5m.

Ym mis Ionawr, dywedodd Llywodraeth Cymru y gallai fod angen hyd at £600m i sicrhau diogelwch 2,000 o hen domenni glo.

Disgrifiad,

Bu'n rhaid i bobl symud o’u cartrefi wedi'r tirlithriad yn ardal Cwmtyleri fis Tachwedd 2024

"Mae e'n rhy hwyr i ni," meddai un o drigolion Cwmtyleri, Russell Martin, gafodd ddifrod i'w gartref wedi i fwd o'r tirlithriad gyrraedd ei stryd.

"Dylai hyn fod wedi cael ei wneud amser maith yn ôl."

Russell Martin
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Russell Martin y byddai'n gadael ardal Cwmtyleri petai'n iau

"Mae'n dair, pedair blynedd nawr, lle roedden ni'n gwybod y gallai hyn ddigwydd.

"Nid just hynny, ond mae tai yn dirywio nawr hefyd."

Mae'n dweud bod bagiau tywod nawr yn rhan o fywyd pob dydd ei gymdogion, yn enwedig pan mae'r tywydd yn wael.

"Tasen i ddim yr oedran yma bydden i ddim yn aros. 'Dyn ni ddim yn symud nawr, yn 72 a 71 oed."

Mae Dianne Morgan yn byw ar y rhiw ble llifodd gwastraff y tip glo i lawr, ac yn cofio gweld "llanast llwyr" wrth i "ddwy goeden, cerrig anferth a slyri" redeg lawr y stryd wrth ei hymyl.

"Does gyda ni ddim tŷ cyngor lle allwn ni just ddweud 'symudwch ni, dwi ddim eisiau byw yma, dwi eisiau gadael," meddai.

Dianne Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dianne Morgan ei bod wedi codi pryderon am y sefyllfa droeon o'r blaen

"Ni wedi rhoi lot o arian mewn i'r tŷ yma, ni dal yn, ac yn gweithio'n galed. Mae e mor drist. Pam ddylen ni fyw dan y cysgod yma?"

Mae'n dweud ei bod hi wedi anfon lluniau at yr awdurdodau yn y gorffennol yn dangos dŵr yn rhedeg lawr y stryd yn dilyn stormydd, gan ychwanegu: "Mae e fel bod ni ddim yn bodoli."

Croeso llugoer mae hi'n ei roi i'r newyddion am ragor o arian, gan ddweud bod angen i'r awdurdodau "gael eu blaenoriaethau yn gywir".

Daniel Minty
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen rhagor o wybodaeth am sut fydd yr arian yn cael ei wario, meddai Daniel Minty

Mae Daniel Minty, sy'n gweithio i fenter gymunedol yng Nghwmtyleri, yn falch o glywed y cyhoeddiad ond yn teimlo bod trigolion lleol dal yn chwilio am fwy o atebion.

"Sa i'n siŵr os mae'n ddigon, ond fi'n gobeithio os yw'r llywodraeth yn sylweddoli bod e ddim, y bydd mwy o arian yn y dyfodol," meddai.

"Sut mae'r cyngor yn bwriadu gwneud pethau [gyda'r arian]? Beth yw'r camau nesaf?

"Dyna beth mae pobl yn yr ardal eisiau gwybod."

360 o dipiau'n peri risg

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies fod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn "ddigynsail", ochr yn ochr â'r £25m gafodd ei addo gan Lywodraeth y DU ym mis Hydref.

Mae'r pryderon yn deillio o ganlyniad i'r tomenni glo sy'n frith ar hyd Cymru, yn enwedig cymoedd y de, yn dilyn cau'r pyllau.

Daeth hynny i'r amlwg yn 2020, yn dilyn tirlithriad ger Pendyrus pan lithrodd 60,000 tunnell o wastraff glo i mewn i afon gyfagos.

Gwaith sydd wedi cael ei wneud eisoes i ddiogelu Afon Afan, wedi i’r domen lo ar un ochr iddo erydu gan achosi i wastraff lygru’r afon - bydd rhannau eraill o’r afon yn cael ei hatgyfnerthu gyda’r cyllid diweddaraf
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith eisoes wedi ei wneud i ddiogelu Afon Afan, wedi i'r domen lo ar un ochr erydu a llygru'r afon - bydd rhannau eraill o'r afon nawr yn cael eu hatgyfnerthu

Arweiniodd hyn at lansio Tasglu Diogelwch Tipiau Glo rhwng llywodraethau Cymru a'r DU.

Cafodd 2,573 o hen dipiau glo eu nodi, gyda 360 yn cael eu gweld fel rhai oedd â'r "potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd" ac felly angen eu harchwilio'n gyson.

Daeth adolygiad gan Lywodraeth Cymru i'r casgliad nad oedd y deddfau presennol ar ddiogelwch tipiau – gafodd eu llunio yn dilyn trychineb Aberfan yn 1966 – yn cynnig "fframwaith reoli effeithiol" bellach gan eu bod yn dyddio yn ôl at gyfnod pan oedd y pyllau glo dal ar agor.

I ble mae'r arian yn mynd?

Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer uchaf o domenni risg uchel Categori D yng Nghymru.

Bydd yr awdurdod lleol hwnnw yn derbyn £11.5m, tra bod Castell-nedd Port Talbot yn cael £6.3m, Merthyr Tudful £4.2m, Caerffili £2.8m, Blaenau Gwent £2m, Torfaen £2m, a Phen-y-bont ar Ogwr yn cael £1.8m.

Fe fydd Wrecsam yn derbyn £823,000, tra bod Caerdydd yn cael £110,000 a Sir Fynwy yn cael £16,000.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan y cynghorau sir a Chyfoeth Naturiol Cymru, fydd yn derbyn £2.3m.

Huw Irranca-Davies, Mark Drakeford a Steve Hunt yn siarad efo gweithwyr ar safle Glofa Dyffryn Rhondda, Castell-nedd Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Bu Huw Irranca-Davies, Mark Drakeford a Steve Hunt yn siarad gyda gweithwyr ar safle Glofa Dyffryn Rhondda, Castell-nedd Port Talbot

"Mae'r tomenni hyn yn symbol gweladwy o'r ffordd y gwnaeth cloddio am lo siapio'r cymoedd," meddai arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Steve Hunt.

"Ond flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, mae'r tomenni'n dal i achosi problemau sy'n ymwneud â diogelwch a llygredd y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw ar frys."

Dywedodd Mr Irranca-Davies, sydd hefyd yn gyfrifol am newid hinsawdd, ei fod yn gobeithio y bydd Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) gafodd ei gyflwyno yn y Senedd ym mis Rhagfyr yn cynnig sicrwydd pellach.

"Os caiff ei phasio, bydd y ddeddfwriaeth arloesol hon yn sefydlu corff cyhoeddus pwrpasol i ddiogelu rhag bygythiadau gan domenni ansefydlog," meddai.

"Byddai'r awdurdod newydd yn cymryd cyfrifoldeb llawn dros asesu, cofrestru, monitro a rheoli'r safleoedd hyn ledled Cymru, gan helpu rhoi tawelwch meddwl i gymunedau cyfagos."

Pynciau cysylltiedig