Mwy o domenni glo â'r potensial i beryglu diogelwch y cyhoedd ers 2022

Llithrodd 60,000 o dunelli o wastraff glo i lawr ochr y mynydd ym Mhendyrus wedi glaw trwm Storm Dennis ym mis Chwefror 2020Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llithrodd 60,000 o dunelli o wastraff glo i lawr ochr y mynydd ym Mhendyrus wedi glaw trwm Storm Dennis ym mis Chwefror 2020

  • Cyhoeddwyd

Mae sawl tomen lo bellach yn cael eu hystyried yn rhai a allai effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd yn dilyn ailasesiad yn y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae data Llywodraeth Cymru, yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth (FOI) gan Cymru Fyw, yn dangos fod 11 tomen wedi'u symud i gategorïau C a D - y rhai mwyaf difrifol - ers Tachwedd 2022.

Mae hynny yn bennaf oherwydd y cynnydd mewn glaw a thywydd garw.

Mae'r ffigyrau newydd yn poeni rhai pobl sy'n byw yn agos i domenni glo, gyda rhai'n dweud nad yw'r wybodaeth wedi'i rhannu'n ddigon da.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi mwy na £100m mewn diogelwch tomenni glo yn ddiweddar, a'u bod yn archwilio'r rhai sydd â'r risg uchaf yn rheolaidd, gan wneud gwiriadau ychwanegol yn ystod tywydd eithafol.

Pryder am 'Aberfan arall'

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod yn rhoi £25m i ddiogelu tomenni glo Cymru yn y gyllideb fis Hydref y llynedd.

Ond cafodd pryderon eu codi eto fis Tachwedd, wedi i law trwm yn ystod Storm Bert achosi tirlithriad yng Nghwmtyleri, Blaenau Gwent.

Roedd y tirlithriad wedi dod o domen lo uwchben yr ardal, a dywedodd un o'r trigolion bod y digwyddiad wedi gwneud iddi feddwl am drychineb Aberfan.

Cafodd 144 o bobl - gan gynnwys 116 o blant - eu lladd pan lithrodd tomen lo i lawr mynydd a chladdu ysgol gynradd y pentref yn 1966.

Ers Tachwedd 2022, mae 13 o domenni glo wedi'u huwchraddio i gategori mwy peryglus, gydag 11 yn symud i'r categorïau mwyaf difrifol - C a D.

Mae'r tomenni wedi'u rhannu i bum dosbarth gwahanol - R, A, B, C, a D.

Mae categori R yn cynnwys tomenni sydd wedi'u symud neu eu hadeiladu drostynt, tra bod tomenni categori D yn cael eu harchwilio o leiaf dwywaith y flwyddyn.

Dechreuodd Llywodraeth Cymru gadw cofnod fel rhan o'r ymateb i dirlithriad tomen lo Pendyrus ym mis Chwefror 2020.

Mae'n rhestru 360 o domenni fel rhai Categori C a D, neu rhai sydd "â'r potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd" ac angen eu harchwilio'n rheolaidd.

Mae 'na 2,573 o domenni glo yng Nghymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stuart Adams yn dweud ei fod wedi gweld newidiadau yn y tomenni yn ardal Caerffili

Mae Stuart Adams yn byw yng Nghaerffili, ac yn gyfarwydd iawn gyda'r tomenni glo yn ei ardal leol fel cerddwr brwd.

Mae'n dweud iddo sylwi ar newidiadau fel "sianeli sy'n cario dŵr yn mynd yn fwy", yn enwedig ar ôl glaw trwm.

"Gallwch chi weld yr erydiad," meddai.

Roedd ei ddiweddar dad-yng-nghyfraith yn un o'r dynion tân cyntaf i ymateb i drychineb Aberfan, ac mae'n dweud bod y digwyddiad "yn gynhenid yn atgofion pobl".

Mae'r drafodaeth am gyflwr tomenni glo Cymru heddiw yn sicr o godi pryder am "Aberfan arall", meddai.

Mae pedair tomen lo categori C a D yn ardal Gwaelod-y-garth ar gyrion Caerdydd, gan gynnwys un domen symudodd o gategori B i gategori C yn ddiweddar.

Mae Ena Lloyd wedi byw yn yr ardal ers bron i 25 mlynedd, er mwyn cael mynd allan i gerdded bob dydd yn syth o ddrws ffrynt y tŷ.

Dywedodd wrth Cymru Fyw bod y newidiadau yn y domen lo yn ei phoeni, a'i bod hi'n teimlo fod "dyletswydd" ar yr awdurdodau perthnasol i rannu gwybodaeth am unrhyw newid yng nghyflwr y tomenni.

"Dwi'n cerdded yn yr ardal yna sawl gwaith yr wythnos, ac os nad ydyn ni fel cyhoedd yn gwybod am y wybodaeth, mae'n hala i fi feddwl – dydi'r awdurdod ddim yn gwneud gwaith nhw'n iawn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ena Lloyd ei fod yn "poeni fi tipyn bach bod y wybodaeth ddim wedi cael ei rhannu"

Mae Ena Lloyd hefyd yn rhan o grŵp Nature by the Taff, ac mae'n dweud nad oes digon o ymwybyddiaeth o'r wybodaeth ddiweddaraf.

"Mae'r bobl sy'n rhan o'r grŵp, maen nhw'n dueddol o wybod beth sy'n digwydd yn yr amgylchedd yn lleol [ond] s'neb wedi siarad amdano'r ffaith bod yna newidiadau wedi bod yn y domen [yng Ngwaelod-y-garth], a bysen nhw y teip o berson byse'n gwybod, felly ma' hwnna'n poeni fi tipyn bach, bod y wybodaeth ddim wedi cael ei rhannu."

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Dr Rhian Meara ddim yn credu bod rhaid i bobl "boeni o ddydd i ddydd"

Mae Dr Rhian Meara yn ddaearegwr ac Uwch-ddarlithydd Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

Eglurodd fod tomenni glo wedi'u creu gan lwyth o "ddarnau mân iawn" sydd "ddim wedi cael eu gludo at ei gilydd", a bod glaw trwm yn cludo'r darnau mân ac yn gwneud y domen yn fwy ansefydlog.

Nododd fod mwy o law a stormydd yn debygol oherwydd newid hinsawdd.

Ond doedd hi ddim yn meddwl fod rhaid i bobl "boeni o ddydd i ddydd" gan y byddai yna fwy o waith monitro yn digwydd.

"Mae yn bryderus i weld nifer o tips yn cael eu hail-gategoreiddio falle i edrych yn waeth," meddai.

"Ond ar y llaw arall, wrth bod nhw'n mynd i'r categories uwch yma, maen nhw'n cael eu monitro'n fwy agos, maen nhw'n cael eu dilyn, a maen nhw'n cael eu blaenoriaethu."

Disgrifiad,

Bu'n rhaid i bobl symud o’u cartrefi wedi'r tirlithriad yn ardal Cwmtyleri fis Tachwedd 2024

Mae lleoliad y tomenni glo yng Nghymru yn weddol unigryw, yn ôl Dr Ben Curtis, hanesydd ar y diwydiant glo ym Mhrifysgol Abertawe.

"Yma yn y de... mae'r topograffi yn llawn cymoedd, doedd dim lot o lefydd addas i roi'r gwastraff glo, felly beth oedden nhw'n 'neud oedd rhoi'r gwastraff ar y bryniau.

"Maen nhw'n symbol weledol o'r ffaith fod y diwydiant glo wedi ffurfio'r cymoedd - ond maen nhw'n dal i ddangos yr effaith efallai eithaf negyddol o'r diwydiant ar yr amgylchedd a'r tirlun."

Ychwanegodd fod "clirio [y tomenni] yn mynd i fod yn broses hir a phroses ddrud," ond fod y "pris o ddim delio gyda'r sefyllfa mewn ffordd gynhwysfawr yn mynd i gael y potensial i fod yn lot yn gwaeth na hynny".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carmen Smith yn dweud fod sicrhau diogelwch y tomenni glo yng Nghymru yn un o'i blaenoriaethau fel aelod o Dŷ'r Arglwyddi

Ers cael ei hethol yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, mae Carmen Smith wedi bod yn feirniadol o ymateb llywodraethau Cymru a'r DU i adferiad y tomenni.

Wrth siarad gyda Cymru Fyw, dywedodd y Farwnes Smith o Lanfaes y dylai Llywodraeth Cymru ailedrych ar yr arian sy'n cael ei roi i ddiogelu'r tomenni yn sgil symud rhai i gategorïau mwy difrifol.

Mae hi hefyd yn dadlau fod angen rhannu mwy o wybodaeth gyda'r cyhoedd.

"Mae'r ymdrechion gan Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r mapiau o le mae'r tomenni glo yn gam bwysig," meddai, "ond mae'n rhaid i gymunedau gael eu hargyhoeddi fod y tomenni glo yn cael eu monitro yn aml."

Ychwanegodd fod Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) y llywodraeth yn "gynnydd da", ond yn dod yn rhy hwyr.

"Beth sy'n siomedig yw bod yr awdurdod y mae'r bil hwn yn bwriadu ei greu ddim yn ei le tan fis Ebrill 2027, a dyma'r awdurdod y maen nhw'n bwriadu ei ddefnyddio i lunio'r cynlluniau adfer, felly rwy'n ofni na welwn adferiad tan 2028 o leiaf.

"Mae cymaint all newid cyn hynny."

Dadansoddiad

Dechreuodd y dasg o lunio cofrestr o domenni glo Cymru ac asesu eu cyflwr wedi'r tirlithriad brawychus ym Mhendyrus bum mlynedd yn ôl.

Mae'n anodd credu efallai cyn lleied oedd yn hysbys am sefyllfa nifer ohonyn nhw cyn hynny.

Erbyn Tachwedd 2022, mae Llywodraeth Cymru'n dweud i'w cofnodion gyrraedd "lefel resymol o gyflawnrwydd".

Mae'r data ddaeth i law BBC Cymru Fyw yn dangos newidiadau i statws sawl tomen ers hynny, wrth i'r gyfundrefn newydd ar gyfer archwilio tipiau barhau.

Cyn y Nadolig, fe ddechreuodd taith deddfwriaeth drwy'r Senedd, fydd - o'i phasio - yn arwain at greu corff cyhoeddus i oruchwylio'r gwaith allweddol yma o gadw golwg ar domenni glo.

Bydd y ffordd mae tipiau yn cael eu categoreiddio yn newid hefyd, gan symud o lythrennau i rifau.

Enghraifft arall - medd y llywodraeth - o'r modd y maen nhw wedi ceisio gwneud hi'n hawdd i bobl ddeall mwy am statws tomenni yn eu hardal nhw, gyda mapiau a manylion eisoes ar gael ar-lein., dolen allanol

Ond - fel y mae'r stori hon ac eraill yn ei ddangos - mewn cymunedau ar draws Cymru, mae 'na bobl sy'n dal yn effro i'r bygythiad posib ar eu stepen drws, gan deimlo bod angen i'r awdurdodau wneud mwy i gyfathrebu yn lleol.

Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym am sicrhau bod ein cymunedau sy'n byw ger tomenni glo yn ddiogel, nawr ac yn y dyfodol, a dyna pam rydym wedi buddsoddi mwy na £100m mewn diogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon.

"Rydym hefyd wedi cyflwyno deddfwriaeth fodern – y gyntaf o'i math yn y DU – i atal tomenni glo a thomenni nad ydynt yn rhai glo rhag bod yn fygythiad i fywyd dynol.

"Mae'r tomenni glo sydd â'r risg uchaf (categori C a D) yn cael eu harchwilio'n rheolaidd gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid ledled Cymru i archwilio safleoedd, gan gynnwys gwiriadau ychwanegol yn ystod digwyddiadau tywydd eithafol."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio: "Rydym yn parhau i ddarparu cymorth, arbenigedd a chyngor i Lywodraeth Cymru, sy'n arwain y rhaglen tasglu diogelwch tomenni glo yng Nghymru, ac i bartneriaid eraill yn ôl yr angen.

"Rydym yn cynnal rhaglen arolygu ar ran Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill, gan ddarparu argymhellion ar gyfer gofynion cynnal a chadw.

"Rydym hefyd yn parhau i reoli'n uniongyrchol y 26 tomen lo y mae'r Awdurdod yn berchen arnyn nhw yng Nghymru, ac yn darparu gwasanaethau rheoli i dirfeddianwyr eraill fel y bo angen."

Pynciau cysylltiedig