Rhyddhau menyw dan ymchwiliad wedi marwolaeth merch 4 oed

Arwydd Llangynnwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Langynnwr tua 18:00 ar 20 Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i farwolaeth merch bedair oed yn Sir Gaerfyrddin fis diwethaf.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i Langynnwr tua 18:00 ar 20 Chwefror gan y gwasanaeth ambiwlans.

Roedd y plentyn yn sâl iawn yno, ac fe gafodd ei chludo i'r ysbyty, lle bu farw ychydig yn ddiweddarach.

Cafodd dynes 41 oed ei harestio y diwrnod canlynol ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd yn dilyn marwolaeth y plentyn.

Dywedodd yr heddlu ddydd Mawrth fod y ddynes bellach wedi cael ei rhyddhau tra bo'r heddlu'n ymchwilio ymhellach i'r mater.

Pynciau cysylltiedig