Symud eiddo mewn bag bin yn 'diraddio' plant mewn gofal

ElliottFfynhonnell y llun, Elliott
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Elliott sawl peth "oedd yn golygu llawer i fi" tra'r oedd yn y system ofal

  • Cyhoeddwyd

Mae plant mewn gofal sydd wedi gorfod symud eu heiddo mewn bagiau sbwriel yn disgrifio'r profiad fel "diraddiol".

Mae BBC Cymru wedi siarad â sawl person ifanc sydd wedi bod mewn gofal, a oedd wedi gorfod symud eu heiddo o un lleoliad i'r llall mewn bagiau sbwriel.

O ganlyniad, aeth eu heiddo ar goll ar sawl achlysur.

Pan gafodd Elliott ei roi mewn gofal yn 12 oed, roedd yn rhaid iddo gario ei bethau mewn bagiau sbwriel.

Pan gyrhaeddodd ei leoliad newydd, dywedwyd wrtho fod mwclis arbennig a roddwyd iddo gan ei nain, wedi mynd ar goll ar y ffordd.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y dylai pob awdurdod lleol "drin eiddo plant a phobl ifanc sydd mewn gofal gyda'r parch mwyaf".

Trawma ychwanegol

Dywedodd Elliott, sydd bellach yn 15 oed, fod symud ei eiddo mewn bag sbwriel wedi achosi trawma ychwanegol i'r profiad o ddod i mewn i'r system ofal.

"Roedd y mwclis a gollais pan es i i'r lleoliad cyntaf yn golygu llawer i fi achos nid oedd fy nain yn gwybod pryd y bydd hi'n gweld fi nesaf," meddai.

"Roedd e fod i fod yn anrheg pen-blwydd pryd byddai'n troi 18 oed, felly wnaeth nain gwario llawer o arian arno, ac roedd ganddo lawer o werth sentimental."

Aeth eitemau oedd yn rhoi cysur iddo, fel tedis a blancedi, ar goll pan symudodd Elliott rhwng lleoliadau.

Dywedodd: "Mae cael y darnau hynny o gartref, mae'n golygu llawer i ni. Gall olygu'r gwahaniaeth rhwng cael profiad da neu drwg yn y lleoliad newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl person fu mewn gofal wedi disgrifio'r profiad o golli eitemau pwysig wrth orfod eu cario o le i le mewn bagiau sbwriel

Mewn achos arall, torrodd y bag sbwriel a oedd yn cynnwys eiddo Elliott wrth iddo symud i rywle gwahanol.

"Ces i afael yn y bag i gymryd allan o'r car a rhwygodd y gwaelod a disgynnodd fy nillad i gyd allan ar ganol y ffordd," meddai.

"Mae'n ddad-ddyneiddiol a diraddiol. Pe bai eich plentyn yn symud allan, fyddech chi ddim yn gwneud iddyn nhw symud gyda bagiau sbwriel du.

"Byddech chi'n cymryd amser o'ch diwrnod i gael bagiau duffle neu gêsys a blychau hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Aeth unig luniau Jo-Anne o'i brawd a'i chwiorydd ar goll wrth symud i leoliad newydd

Dywedodd Jo-anne, sydd bellach yn 22 oed, bob tro y byddai'n symud lleoliad fel plentyn mewn gofal, y byddai'n gwneud hynny gyda bagiau sbwriel du.

Ond mae yna un digwyddiad nad yw hi erioed wedi'i anghofio.

Rhoddwyd eiddo Jo-Anne mewn bag sbwriel tra'n symud, ac aeth ar goll.

"Roedd yna luniau o fy mrawd a chwiorydd. Wnaethon ni gael eu gwahanu cyn gynted ag aethon ni i mewn i ofal," meddai.

Y lluniau hynny oedd yr unig beth oedd gan Jo-Anne ar ôl o'i theulu.

Fe wnaeth hi hefyd golli ei blanced babi yn ystod yr un digwyddiad.

"Mae hynny'n rhywbeth o gartref, mae hynny'n rhywbeth oedd yn golygu rhywbeth i fi, ond doedden nhw ddim yn gallu gofalu amdano ddigon i fi ei gadw."

Mae Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) bellach yn cynnal ymgyrch, o'r enw 'My Things Matter'.

Maen nhw'n galw ar awdurdodau lleol i addo peidio byth â gofyn i berson ifanc symud ei eiddo mewn bag sbwriel na thaflu eiddo person ifanc heb ei ganiatâd.

Nid dyma'r tro cyntaf i ymgyrchwyr godi'r mater, ond maen nhw'n dweud bod arferion fel hyn yn dal i fod yn gyffredin.

Roedd Helen Mary Jones - llefarydd ar ran elusen arall yn y sector, Voices from Care Cymru - yn rhan o ymgyrch debyg ddegawd yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Mater bach, medd Helen Mary Jones, fyddai sicrhau cês dillad i bob plentyn mewn gofal

"Mae'n siom fawr i ffeindio mas bod dros deg mlynedd wedi mynd heibio a mae plant dal yn yr un sefyllfa," meddai.

"Ni gyd yn gwybod bod cynghorau sir o dan bwysau ariannol, ond dydy suitcase bach ddim yn costio llawer o arian.

"Ni'n gwybod bod cwmniau yn bodlon helpu, felly ni'n galw ar bob cyngor sir i gysylltu trwyddo ni a wedyn gyda'r cwmniau sy'n bodlon helpu.

"Plant ni yw rhain. 'Dan ni fel cymuned wedi penderfynu bod angen cymryd y plant yma oddi wrth eu teuluoedd i sicrhau bywyd gwell a saff iddyn nhw, a ma' rhywbeth bach fel darparu suitcase i bob plentyn ddim yn lot i ofyn."

Dylid trin eiddo 'gyda'r parch mwyaf'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y dylid awdurdodau lleol trin eiddo plant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal "gyda'r parch mwyaf."

Ychwanegodd: "Mae ein Siarter Rhianta Corfforaethol yn nodi egwyddorion cyffredin y dylai pob cyrff cyhoeddus eu dilyn wrth ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc mewn gofal.

"Mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes yn prynu bagiau addas ar gyfer eiddo plant a phobl ifanc yn ystod cyfnodau o drawsnewid, ac er ein bod yn deall y bu adegau pan nad yw'r rhain wedi'u defnyddio - yn bennaf yn ystod argyfyngau - rydym yn disgwyl i bob awdurdod lleol i gynllunio'n well ac i ddefnyddio bagiau addas bob amser."