A allai AI ennill y Gadair?
- Cyhoeddwyd
A fyddai’n bosib i beiriant greu cerdd sy’n ddigon da i ennill un o brif wobrau barddol yr Eisteddfod Genedlaethol?
Dyna un o’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn y rhaglen AI: Y Gwalch neu'r Gwych ar Radio Cymru sy’n edrych ar le AI - deallusrwydd artiffisial - yn ein diwylliant, a’i effaith ar y Gymraeg a'n byd celfyddydol.
Cafodd y cwestiwn ei drafod mewn sesiwn ar faes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn gynharach eleni sy’n amserol iawn wedi i’r Brifwyl wahardd y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn ei chystadlaethau llenyddol yn 2025.
Sut mae plismona’r rheol?
Mae rheol newydd cystadlaethau llenyddol y Brifwyl yn dweud na chaniateir “meddalwedd sydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i greu neu gynorthwyo yn y broses o greu cyfansoddiadau”.
Mae’r rheol yn eglur felly – dim defnyddio AI i’ch helpu i greu’r gwaith.
Ond sut mae'n mynd i weithio’n ymarferol?
“Be' sy' falle’n anoddach gwneud ydi plismona y defnydd o’r rheol ac adnabod adegau pan fo rywun wedi defnyddio AI i ysgrifennu cerdd,” meddai Gruff Prys, pennaeth Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr sy’n cyfrannu at wella safon y Gymraeg ar apiau AI fel Chat GPT.
“Beth sy’n digwydd erbyn hyn ydi bod modd i bobl ddefnyddio AI nid i sgwennu rhywbeth yn ei gyfanrwydd ond fel arf i’w helpu nhw pan maen nhw’n styc efo llinell benodol.”
Mae’r Gadair yn cael ei rhoi yn yr Eisteddfod i fardd am gyfres o gerddi wedi eu sgrifennu mewn cynghanedd, sef patrwm o odli a chyfateb llythrennau a phwyslais mewn llinellau o farddoniaeth.
“Mae set o reolau gan y gynghanedd,” meddai’r bardd a’r beirniad Eurig Salisbury ar y rhaglen.
“Yn hwyr neu’n hwyrach ma’ ryw beiriant yn mynd i ddysgu sut i 'neud e, siŵr o fod. Os oes digon o eirfa a mae’r dechnoleg yn gwybod sut i ddefnyddio rheolau gramadegol yr iaith a’r gynghanedd, siawns gen i y bydd modd cael peiriant i greu cerdd gynganeddol.”
Ond mae’n gobeithio y bydd ffordd i stopio cerdd gan beiriant rhag cael ei chadeirio wedi ei dyfeisio cyn hynny.
Yn ôl y prifardd cadeiriol, Aneirin Karadog, mae’n rhywbeth mae o a’i gyd-feirdd yn pryderu amdano.
“Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw’r posibiliadau chwaith; y pethau da a’r pethau gwael,” meddai.
“Y cwestiwn sydd gyda fi yw: ydyn ni fel pobl eisiau bod yn creu achos ni sydd yn gweld y byd drwy lygaid pobl? Mae angen cadw’r elfen sanctaidd yna o weld y byd drwy lygaid sydd mewn pen o gig a gwaed, nid drwy lygaid digidol,” meddai.
Yr Odliadur
Fe allech ddadlau bod beirdd eisoes yn defnyddio cymorth i farddoni, drwy ddefnyddio’r Odliadur er enghraifft, llyfr sy’n cynnig rhestrau o’r holl odlau posibl ar gyfer geiriau i helpu beirdd ddod o hyd i’r odl berffaith.
Mae bob amser yn ei boced i’w helpu pan fydd angen creu englyn ar frys meddai Eurig Salisbury. Ond dydi o ddim yn ei weld fel twyllo.
“Ti’n defnyddio’r pethe ma i greu yn y pen draw a fi’n gobeithio bydd posib defnyddio’r dechnoleg yma i wneud rhywbeth fel’na hefyd. Bod e wrth dy benelin di, bod e ’na wrth dy ymyl di i helpu pan mae angen. Y nod fyse peidio mynd yn ddibynnol arno fe.”
Mae Aneirin Karadog yn rhannu cyfrinach arall sy’n helpu cynganeddwyr: mae modd chwilio am eiriau â chytseiniaid arbennig i ateb eich cynghanedd ar wefan Geiriadur Prifysgol Cymru drwy ddefnyddio asterisk lle dylai llafariad fod wrth chwilio.
“Ond y dychymyg yw’r peth pwysig,” meddai. “Os wyt ti’n cael AI i ddechrau meddwl am strwythur a chynllun a neges greiddiol dy gerdd, mae hwnna’n rhy bell.”
Beth fyddai’r pwynt?
Y cwestiwn mae Aneirin Karadog yn ei ofyn ydi a fyddai rhywun eisiau defnyddio deallusrwydd artiffisial i ennill cadair gyda cherdd nad ydyn nhw wedi ei hysgrifennu?
“Os wyt ti wir yn gwybod nad ti sydd wedi ei sgrifennu fe, beth yw’r pwynt? Mae’r wobr yn hyfryd ond ti moyn dweud rhywbeth sy’n siarad â chynulleidfa.”
A gyda chymaint o geisiadau gan gymdeithas yn dod i fardd, buan iawn byddai’r ‘twyll’ yn cael ei ddarganfod, meddai.
‘Llygad’ yr artist
Mae rôl y person yn dal yn ganolog meddai Clare Tanner, arbenigwr mewn technoleg realiti estynedig sy’n gweithio gydag elfennau gweledol AI fel mewn lluniau a fideo.
Hyd yn oed pan mae technoleg wedi cyrraedd lefel uchel o ddeallusrwydd a gallu, mae angen yr artist neu’r bardd dynol i wneud i bethau weithio.
“Mae lot o bobl yn meddwl, ‘O mae AI yn mynd i gymryd ein jobsys ni’. Ond i ddweud y gwir, os wyt ti’n creu celf yn barod ti’n mynd i fod yn well am greu rhywbeth efo’r AI na rywun sydd ddim yn gwneud celf.
“Achos rwyt ti hefyd efo llygad i’r peth a mae’n mynd i fod yn well i ti ddefnyddio’r AI achos ti’n gwybod sut i wneud y job yn barod. So mae o fel tool sydd yn dy helpu di.”
‘Dim angen ofni’r dechnoleg’
“Mae’n well gen i feddwl am y dechnoleg yma fel cyfle, fel rhywbeth positif,” meddai Eurig Salisbury.
“Ar y cyfan, na, dwi ddim yn teimlo ei fod e’n fygythiad enfawr, ar hyn o bryd o leiaf.
“Gyda phob math o dechnoleg newydd ar hyd y canrifoedd mae pobl wedi ofni’r dechnoleg yna a wedi darogan gwae.
“Ond y realiti yn y pen draw yw bod pobl yn defnyddio fe ac yn llwyddo i’w ddefnyddio mewn ffyrdd sy’n ddefnyddiol a dyna ni, mae’r perygl yna yn lleihau.”
Fe wnaeth cynhyrchwyr y rhaglen ofyn i beiriant Chat GPT greu llinellau o gynghanedd ar gyfer y rhaglen a gweld a fydden nhw’n plesio bardd fel Aneirin Karadog.
Gall y gwrandawyr benderfynu dros eu hunain pa mor lwyddiannus ydyn nhw fel barddoniaeth, ond o safbwynt y gynghanedd, dydy’r dechnoleg ddim wedi ei deall hi o bell ffordd, meddai’r prifardd... dim eto beth bynnag!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd31 Awst 2023
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018