Heddlu'n ymchwilio ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ar draeth

Traeth Bae RhosiliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu bod y person wedi marw yn y fan a'r lle

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ar draeth ym Mhenrhyn Gŵyr.

Dywedodd Heddlu De Cymru iddyn nhw gael eu galw i Draeth Bae Rhosili ychydig cyn 11:45 ddydd Sadwrn.

Cadarnhawyd bod y person wedi marw yn y fan a'r lle.

Dywedodd y llu nad yw'r person wedi'i adnabod yn ffurfiol eto a bod ymchwiliadau'n parhau.

Pynciau cysylltiedig