Cyngor yn gwrthod ateb cwestiynau ASau am Ffos-y-Fran
- Cyhoeddwyd
Fydd ymchwiliad gan aelodau'r Senedd i bryderon am adfer safle glo brig mwya'r DU, Ffos-y-Fran, ddim yn clywed gan y datblygwr na'r cyngor lleol.
Fe wrthododd Cyngor Merthyr Tudful gais i ymddangos gerbron pwyllgor newid hinsawdd y Senedd, a dyw'r cwmni cloddio heb ateb.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Llyr Gruffydd AS ei bod hi'n sefyllfa "siomedig iawn", a bod yna "gwestiynau dilys" i'w hateb.
Mae'r cyngor wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, ac mewn datganiad dywedodd llefarydd mai nid nhw sy'n gyfrifol am y safle.
Dywedodd y cwmni sydd yn gyfrifol am y safle - Merthyr (South Wales) Ltd - eu bod nhw "wedi dod i gytundeb gyda chyngor Merthyr Tudful ar raglen gychwynnol ar gyfer y gwaith adfer".
- Cyhoeddwyd9 Ebrill
- Cyhoeddwyd15 Awst 2023
- Cyhoeddwyd16 Awst 2023
Mae trigolion lleol wedi codi pryderon yn ddiweddar ynglŷn â dŵr yn cronni ar safle Ffos-y-Fran, gan ofni na fydd yr ardal yn cael ei hadfer yn llawn.
Roedd y lofa anferth, gafodd ganiatâd gan Lywodraeth Cymru yn 2005, yn cael ei hadnabod yn swyddogol fel "cynllun adfer tir".
Mae disgwyl i'r safle - sydd yr un maint â 400 cae pêl-droed - gael ei droi'n ôl i gaeau gwyrdd ar gyfer y gymuned, ar ôl i'r glo gael ei dynnu oddi yno.
Daeth y cloddio i stop ym mis Tachwedd 2023, dros flwyddyn ar ôl i'r caniatâd cynllunio ddod i ben, ac fe gafodd 115 o weithwyr eu diswyddo.
Roedd y cwmni sy'n gyfrifol am y safle - Merthyr (South Wales) Ltd - wedi rhybuddio am "gyllid annigonol" i gwblhau'r cynllun adfer gwreiddiol, gan ddweud eu bod angen amser i ddatblygu cynllun newydd.
Mae £15m wedi'i dalu i mewn i gyfrif banc yn nwylo'r cyngor sydd i'w ddefnyddio petai'r cwmni yn mynd i'r wal - ond mae amcangyfrif y gallai'r gwaith trwsio gostio rhwng £120 a £175m.
'Anghwrtais'
Fe wnaeth pwyllgor newid hinsawdd y Senedd wahodd y cwmni, y cyngor lleol, yr Awdurdod Glo ac ymgyrchwyr amgylcheddol i fod yn rhan o "ymchwiliad byr".
Yn eu llythyr yn ymateb, fe ddywedodd Cyngor Merthyr Tudful bod gallu eu swyddogion i ddarparu tystiolaeth yn "gyfyngedig".
Roedd staff oedd wedi delio â'r ceisiadau cynllunio gwreiddiol, a'r trefniadau cyfreithiol ac ariannol wedi hen adael yr awdurdod, meddai'r llythyr.
"Yn hynny o beth, mae'r wybodaeth gefndirol, y cyd-destun a chymhlethdodau'r datblygiadau wedi'u cyfyngu i'r wybodaeth sydd wedi'i chasglu yn gymharol ddiweddar gan y swyddogion rheiny sydd wrthi'n negydu ar ran yr awdurdod (ar hyn o bryd)."
Er eu bod yn goruchwylio glofa brig fwya'r DU, mae'r cyngor hefyd yn egluro nad oes ganddyn nhw yr un swyddog arbenigol ar faterion cynllunio yn ymwneud â mwynau fel glo.
Yn hytrach, maen nhw'n dibynnu ar gytundeb gyda chyngor Sir Gaerfyrddin "i ddarparu gwaith mwynau, gan gynnwys ceisiadau cynllunio".
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cytuno i wahoddiad y pwyllgor i gymryd rhan yn yr ymchwiliad ac fe fyddan nhw'n ymddangos mewn sesiwn arall ym mis Mai, lle bydd aelodau hefyd yn clywed gan drigolion lleol.
"Mae'n rhyfedd bod Sir Gaerfyrddin yn dweud y gallan nhw ddod i roi tystiolaeth ond dyw Merthyr ddim yn medru," meddai Llyr Gruffydd.
"Maen nhw'n dweud wrthon ni bod y swyddogion oedd ynghlwm â'r cais yma ar y cychwyn wedi gadael - wel i fi mae hynny'n canu clychau.
"Mae 'na gwestiynau sydd angen eu gofyn."
Ychwanegodd ei bod hi'n "siom fawr" hefyd nad oedd y cwmni wedi ymateb i'r gwahoddiad o gwbl - gan ddweud bod hynny'n "anghwrtais".
"Nid yn unig y'n ni fel pwyllgor eisiau adnabod lle ma'r arian wedi mynd ddyle fod ar gael i dalu am y gwaith adfer yma. Ond pam fod y fath sefyllfa wedi cael ei ganiatáu i ddigwydd o gwbl?"
Mae llythyr cyngor Merthyr Tudful hefyd yn sôn ychydig ynglŷn â'r addasiadau i'r cynllun adfer y mae'r cwmni cloddio wrthi'n eu hystyried.
Byddai'r gost fwyaf yn dod o symud y tomenni gwastraff mawr sydd wedi pentyrru ar hyd y blynyddoedd yn ôl i'r gwagle.
"Gellid lleihau'r costau rheiny i ryw raddau drwy lenwi'r gwagle yn rhannol, ail-siapio'r tomenni ac mi allai gynnwys cadw rhan o'r gwagle fel nodwedd dŵr."
'Dyletswydd hanesyddol'
Bydd yr Awdurdod Glo yn ymddangos o flaen y pwyllgor ddydd Mercher, a grwpiau amgylcheddol Coal Action Network (CAN), Cyfeillion y Ddaear, Gwrthryfel Difodiant a Climate Cymru hefyd yn cymryd rhan.
Yn eu papur nhw mae CAN yn dadlau bod gan Lywodraeth Cymru "ddyletswydd hanesyddol" i gamu i'r adwy a chymryd rheolaeth dros y safle.
"Ar ôl gwneud hynny, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddelifro ar y cynllun adfer gwreiddiol a addawyd i drigolion Merthyr Tudful.
"Byddai unrhywbeth llai yn golygu bradychu cymuned sydd wedi dioddef 16 blynedd o lygredd aer a sŵn o'r lofa."
Bydd gwaith y pwyllgor ar y pwnc yn arwain yn y pendraw at adroddiad gydag argymhellion i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau cyhoeddus eraill.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn monitro sefyllfa Ffos-y-Fran yn ofalus.
"Ry'n ni wedi bod yn glir mai diogelu'r safle yw ein prif amcan a'n bod ni'n disgwyl gweld adferiad lawn yn unol â'r caniatâd cynllunio."
Mewn datganiad i BBC Cymru dywedodd Cyngor Merthyr Tudful: "Mae Cynllunio Mwynau yn faes arbenigol a nifer bychan o awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â swyddogion perthnasol.
"Mae gan Gyngor Sir Gaerfyrddin 'dîm mwynau' sydd â staff sy'n arbenigo ac wedi eu hyfforddi yn y maes.
"Nid Cyngor Merthyr Tudful yw'r 'corff atebol' ar gyfer Ffos-y-Fran. Merthyr (South Wales) Ltd sy'n gyfrifol am y gwaith ar y safle."
Dywedodd Merthyr (South Wales) Ltd bod "trafodaethau'n cael eu cynnal a bod lefelau dŵr yn cael eu monitro'n gyson wrth iddyn nhw ddiweddaru eu cynlluniau ar gyfer adfer y safle".
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod "wedi dod i gytundeb gyda Chyngor Merthyr Tudful ar raglen gychwynnol ar gyfer y gwaith adfer".