Safle glo brig Ffos-y-Fran yn troi'n llyn 'peryglus a llygredig'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n byw ger glofa ddadleuol Ffos-y-Fran yn dweud bod ganddyn nhw "bryderon dybryd" ynglŷn â dŵr yn casglu ar y safle.
Yn ôl ebyst sydd wedi'u rhannu â'r BBC mae Cyngor Merthyr Tudful bellach yn disgwyl i gynllun newydd ar gyfer adfer y safle eang gynnwys ardal o ddŵr.
Pryder ymgyrchwyr yw y bydd hyn yn golygu creu llyn "peryglus" a "llygredig" yn y gymuned.
Dywedodd perchnogion y lofa - Merthyr (South Wales) Limited - bod lefelau dŵr yn cael eu monitro'n gyson wrth iddyn nhw ddiweddaru eu cynlluniau ar gyfer adfer y safle.
Yn ôl Cyngor Merthyr Tudful, nid yw lefelau'r dŵr yn cael eu hystyried yn destun pryder.
'Sioc llwyr'
Mae Chris ac Alyson Austin yn byw gyferbyn â'r lofa ac yn dweud i drigolion lleol deimlo "sioc llwyr" wrth weld delweddau wedi'u ffilmio o'r awyr yn dangos sut mae dŵr wedi bod yn casglu yn y pwll yn ystod y misoedd diwethaf.
"Mae'n llenwi yn gyflym iawn yn dilyn y tywydd y'n ni wedi bod yn ei gael, a fydd hi ddim yn hir tan ein bod ni heibio'r pwynt lle mae modd gwneud unrhywbeth am y peth," meddai Mr Austin, 68.
Dywedodd Mrs Austin, 60 bod y gwaith cloddio glo brig wedi'i "orfodi" ar y gymuned leol fel ffordd o dalu i adfer tir adfeiliedig.
"Ond ry'n ni nawr mewn sefyllfa sy'n llawer mwy peryglus na'r roedd erioed o'r blaen," meddai.
"Heb sôn am ydy'r safle'n medru dal y dŵr, neu a allai tocsinau ddiferu allan, os yw plentyn yn cwympo i mewn yno fyddan nhw byth yn medru dod allan."
Fe anfonodd y cwpl ebost at Gyngor Merthyr Tudful, gyda swyddog yn ateb gan ddweud bod y cyngor yn ymwybodol o'r sefyllfa.
Dywedodd fod y cyngor ar ddeall nad oedd gan y cwmni sy'n gyfrifol am y safle gynlluniau i "ailgyflwyno pympiau i dynnu'r dŵr o'r gwagle lle fuodd 'na gloddio".
Mae disgwyl cynllun adfer newydd ar gyfer y safle i gael ei gyflwyno yn nhymor yr hydref 2024, meddai'r ebost.
Byddai'r cynllun hwn yn "debygol o gynnwys cadw'r ardal o ddŵr o fewn i'r gwagle" gyda'r tir o'i amgylch yn cael ei "ailosod yn addas".
'Mae'n ofnadwy'
Dywedodd y cwpl eu bod wedi'u synnu gan yr ymateb a bod ganddyn nhw "bryderon dybryd".
"Mae'n ofnadwy - maen nhw just yn eistedd 'nôl ac yn gwylio'r cyfan yn datblygu," meddai Mr Austin.
"[Fyddwn ni'n cael ein gadael] â strwythur peryglus ar gyfer dyfodol Merthyr yno am byth."
Ffos-y-Fran oedd safle glo brig mwya'r DU, ond roedd yn cael ei adnabod yn swyddogol fel "cynllun adfer tir" gyda'r bwriad o droi'r safle yn dir gwyrdd er lles y gymuned.
Roedd tomenni gwastraff, i fod i gael eu gwthio yn ôl i'r gwagle mawr, sy'n 200m o ddyfnder mewn mannau.
Ond yn ddiweddar fe rybuddiodd Merthyr (South Wales) Limited bod diffyg cyllid wedi'i roi wrth gefn i gwblhau'r gwaith fel y dymunwyd yn wreiddiol, a bod angen newid y cynllun.
Ym mis Tachwedd 2023 fe gollodd 115 o bobl eu gwaith ar y safle wrth i'r cwmni roi stop ar y cloddio, dros flwyddyn ar ôl i'w caniatâd cynllunio ddod i ben.
Roedd prif weithredwr Awdurdod Glo y DU, Lisa Pinney, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ar y pryd yn beirniadu'r modd yr oedd y cyngor lleol yn delio â'r sefyllfa.
Cafodd y llythyr ei rannu â'r BBC ar ôl i ymgyrchwyr y Coal Action Network gael gafael arno drwy'r ddeddf rhyddid gwybodaeth.
Fe rybuddiodd Ms Pinney yn Hydref 2023 nad oedd 'na "gynllun cadarn yn ei le ar gyfer cau'r safle" nac "unrhyw ddealltwriaeth o sut fyddai lefelau dŵr sy'n cynyddu yn cael eu rheoli".
Dywedodd Delyth Jewell, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru ar gyfer Dwyrain De Cymru, bod y sefyllfa yn Ffos-y-Fran yn "cael ei ganiatáu i waethygu drwy'r amser".
"Mae pob awdurdod cyhoeddus fel petaen nhw'n troi cefn ar hyn," meddai.
"Mae angen i ni gael arolwg o'r safle yma ar frys. Mae angen i ni gael y pympiau yna'n gweithio eto ac mae'n rhaid i ni sicrhau bod e'n cael ei adfer yn iawn fel yr addawyd i drigolion Merthyr Tudful yn 2007."
Mae Ms Jewell, llefarydd y blaid ar newid hinsawdd, wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddyn nhw ymyrryd.
"Os oes rhaid mae angen i ni gael rhyw fath o compulsory purchase o'r tir," meddai.
'Lefelau'n cael eu monitro'
Yn ôl llefarydd ar ran Merthyr (South Wales) Limited mae lefelau dŵr wedi cael eu monitro yn rheolaidd ers i'r gwaith cloddio ddod i ben ym mis Tachwedd, "dan gyfarwyddyd hydrogeolegydd ymgynghorol".
"Yn dilyn un o'r gaeafau mwyaf gwlyb ar gofnod mae lefelau dŵr tir wedi sefydlogi i tua'r un lefelau a fonitrwyd cyn dechrau'r gwaith cloddio," meddai.
Maen nhw ar hyn o bryd "tua 200 troedfedd" yn is na lefel isaf naturiol y tir ar y safle, ychwanegodd.
"Bydd lefelau dŵr yn cael eu monitro drwy'r broses adfer er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod oddi mewn i ffiniau lefelau fyddai'n bodoli'n naturiol," esboniodd y datganiad.
Dywedodd yr Awdurdod Glo fod rheoli gwaith adfer a diogelwch y lofa yn "fater i'r tirfeddiannwr a'r awdurdod lleol" ond y byddai'n parhau i gynnig cyngor yn ôl yr angen.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cadw llygad agos ar sefyllfa Ffos-y-Fran ac mai eu blaenoriaeth yw "diogelwch y gymuned leol".
"Ry'n ni wedi bod yn glir mai gwarchod y safle yw ein prif nod a'n bod ni'n disgwyl gweld y lle'n cael ei adfer yn llawn yn unol â'r caniatâd cynllunio," meddai.
'Ddim yn destun pryder'
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Merthyr Tudful eu bod yn "parhau i weithio gyda Merthyr (South Wales) Limited i gytuno ar waith adfer dros dro cyn cyflwyno strategaeth adfer ddiwygiedig yn y dyfodol".
"Mae Merthyr (South Wales) Limited yn monitro lefelau’r dŵr yn barhaus - lefelau sy'n gostwng - ac ar hyn o bryd nid yw’r lefelau’n cael eu hystyried yn destun pryder.
"Nid yw'n ofynnol i'r cyngor wneud unrhyw waith arolygu tra bod y safle'n weithredol at ddibenion adfer."
Mwy ar y stori hyn
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd14 Medi 2023
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024