Cydnabyddiaeth genedlaethol i ardd goffa Senghennydd

Gill Jones yng ngardd goffa Senghennydd
Disgrifiad o’r llun,

Gill Jones o Grŵp Treftadaeth Cwm Aber yng ngardd goffa Senghennydd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r ardd goffa ar safle'r drychineb waethaf yn hanes y diwydiant glo ym Mhrydain, yn cael ei chydnabod yn swyddogol gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd yr ardd yn Senghennydd, Sir Caerffili, ei hagor yn 2013 i nodi canmlwyddiant y danchwa ym mhwll glo'r Universal, lle cafodd 440 o bobl eu lladd.

Mae'r safle bellach yn cael ei adnabod fel Gardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru.

Yn ogystal â chofio'r danchwa ym mhwll glo'r Universal, Senghennydd ar 14 Hydref 1913, mae'r ardd yn anrhydeddu'r rhai fu farw mewn trychinebau glofaol ledled Cymru.

Mae'r ardd wedi cael ei hychwanegu at y gofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd dros 400 o bobl eu lladd yn y drychineb yn 1913

Mae'r cyhoeddiad wedi'i groesawu gan wirfoddolwyr lleol yng Ngrŵp Treftadaeth Cwm Aber.

"Rydym mor falch bod ein Gardd Goffa wych bellach yn 'Ardd Goffa Genedlaethol Trychinebau Glofaol Cymru' ac wedi cael ei hychwanegu at y gofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru," meddai Gill Jones o'r grŵp

"I ymroddiad a gwaith caled ein gwirfoddolwyr, sy'n treulio oriau lawer ym mhob tywydd i'w chynnal at y safonau uchel sy'n ofynnol ar gyfer anrhydedd o'r fath, y mae'r diolch."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gill Jones yn falch o'r gydnabyddiaeth i'r ardd, ac o waith caled gwirfoddolwyr

Mae noddwr Grŵp Treftadaeth Cwm Aber, y darlledwr Roy Noble, yn gobeithio bydd statws newydd yr ardd goffa yn codi ymwybyddiaeth o'r safle.

"Mae'r gair cenedlaethol yn bwysig yn fan hyn - bydd e'n codi'r hanes i bawb sydd efallai ddim yn gwybod llawer amdano fe.

"Mae lot o Gymry sydd ddim yn gwybod llawer amdano fe."

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Y darlledwr Roy Noble (chwith) yw noddwr Grŵp Treftadaeth Cwm Aber

Yn ôl Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden mae’n “safle cyhoeddus pwysig ar gyfer coffáu a chofio ac mae iddo rôl bwysig i gysylltu pobl â'r gorffennol”.

Ychwanegodd ei bod yn “falch iawn ein bod wedi gallu rhoi'r gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu" i'r ardd.

Pynciau cysylltiedig