Siân Reese-Williams: Pum mlynedd o gasineb yn dal i gael effaith

Sian Reese WilliamsFfynhonnell y llun, Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae "pobl yn anghofio bod ti’n berson weithiau", meddai'r actores, Siân Reese-Williams

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-actor ar opera sebon Emmerdale, Siân Reese-Williams, yn dweud iddi gael amser caled yn ei chyfnod ar y gyfres oherwydd yr holl sylw roedd hi’n ei gael gan y cyhoedd.

Mae’n dweud bod gwylwyr yn gwneud sylwadau personol pan roedden nhw yn ei gweld hi, a bod hyn wedi effeithio ar ei hyder.

Bu’n trafod ei phrofiad o actio ar Emmerdale yn ystod sgwrs ar raglen Taith Bywyd ar S4C.

Fe ymunodd Siân ag Emmerdale yn 2008 a bu’n chwarae cymeriad Gennie Walker am dros 700 o benodau.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siân yn trafod ei phrofiad o actio ar Emmerdale yn ystod sgwrs ar raglen Taith Bywyd ar S4C

Er i Siân ddweud fod ei chyfnod ar Emmerdale yn un "arbennig", roedd delio gyda’r sylw yn anodd, meddai.

Dywedodd Siân: “Nes i ffeindio hwnna yn eithaf anodd, roedd e’n struggle i fi.

"Pan wyt ti mewn opera sebon, mae ryw fath o ownership, achos mae pobl yn gweld ti pob nos.

“Ti yn eu hystafell fyw nhw pob nos, ac mae pobl yn anghofio bod ti’n berson weithiau, ac mae’r pethau mae pobl yn teimlo maen nhw’n gallu gweud wrtha ti bach yn rhy bersonol...

"Ac mae lot o bobl ddim yn neis iawn, ddim yn garedig, ac mae hwnna yn gallu bod yn tricky.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Siân yn chwarae rhan DCI Cadi John yn y ddrama Craith, gyda Siôn Alun Davies

“Roedd y pethau roedd pobl yn dweud amdani fel ‘unlucky in love’, ‘ugly duckling’...

"Pan wyt ti’n clywed hwnna pob dydd am bum mlynedd, i fi, gath hwnna effaith ar hyder fi am sbel a gymerodd e eitha’ lot o amser i dynnu’n hunan mas o hwnna.

"A dal nawr, weithiau mae’r llais negyddol yn pen fi, fi’n gw'bod bod e’n dod o’r cyfnod yna.”

Ar y rhaglen mae Siân yn cwrdd ag un o sêr mwyaf Emmerdale ar y pryd, Sammy Winward, oedd yn actio’r rhan Katie Sugden am 14 mlynedd, a ddaeth yn ffrind agos hefyd.

Yn 2018, cafodd Siân ei chastio fel y brif ran yn y ddrama Craith gan wneud tair cyfres i S4C a fersiwn Saesneg o’r enw Hidden i’r BBC.

Cafodd y gyfres hefyd ei darlledu ar draws y byd.