Etholiad cyffredinol: Beth yw'r farn ar y ffin?

Lowri Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lowri Roberts a'i theulu yn byw yng Nghroesoswallt

  • Cyhoeddwyd

Wedi wythnos arall o ymgyrchu, un peth sy’n amlwg yw bod apathi gwleidyddol a diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddion yn broblem enfawr i ymgeiswyr.

Mewn sawl pegwn o Gymru yr un neges sydd gan etholwyr, ac wrth groesi’r ffin i Groesoswallt yn Sir Amwythig, roedd y farn yn debyg yno hefyd.

Ar ddiwrnod marchnad, mae’r dref yn hwb i gymunedau ar naill ochr y ffin a’r Gymraeg i’w chlywed ar y stryd fawr a’r etholiad yn bwnc llosg.

Gydag wythnos i fynd tan fydd etholwyr yn bwrw pleidlais, roedd sawl un fu’n siarad â rhaglen Newyddion S4C yn teimlo’n ddigon llwm am y cyfnod sydd i ddod.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Wrth grwydro’r stryd, dyma siarad efo Donna Ellis a fu’n sôn am rhai o’r heriau yn yr ardal.

“Mae prisiau wedi mynd uchel ac mae gennym ni foodbanks yn Y Trallwng,” meddai.

“Maen nhw’n brysur ac mae’n broblem enfawr."

Wrth drafod yr etholiad mae hi’n dweud ei bod yn gwybod sut y bydd hi’n pleidleisio ond bod hynny wedi newid o'i gymharu â’r tro diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Wrth drafod heriau'r ardal, dywedodd Donna Ellis fod "prisiau wedi mynd uchel"

Ers degawdau, mae tref Croesoswallt yn etholaeth Gogledd Sir Amwythig wedi bod yn gadarnle i’r Ceidwadwyr.

Ond ar ôl i’r cyn-Aelod Seneddol, Owen Patterson gamu o’i rôl yn 2021 ar ôl torri rheolau taliadau, mae’r ardal bellach yn cael ei chynrychioli gan y Democratiaid Rhyddfrydol.

Wrth siarad â sawl un ar hyd strydoedd y dref, mae’r helynt betio, gyda sawl ymgeisydd a gwleidyddion o wahanol bleidiau yn destun ymchwiliad, yn corddi’r dyfroedd.

Mae’n arwain at nifer yn codi pryderon am ymddiriedaeth mewn gwleidyddion a’r etholiad ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

Lowri Roberts, perchennog siop Cwlwm yng Nghroesoswallt

Yn ôl Lowri Roberts, sy’n berchen ar siop yn y dre', "mae’r safonau dyle fod mewn gwleidyddiaeth wedi eu hanghofio”.

“Os ‘dach chi’n cael y fraint o gynrychioli pobl, dylech chi fod yn meddwl am rhywbeth ehangach na flutter bach.”

Ond tu hwnt i hynny, mae’r etholiad yma yn un lle mae costau byw yn bwnc canolog.

“Mae 'na lai o bres gan bobl - 'dan ni’n gweld hynny yn y siop,” meddai Lowri.

“Maen nhw’n meddwl yn fwy gofalus cyn prynu rhywbeth.”

Disgrifiad o’r llun,

Cylch Meithrin Croesoswallt

Un sy’n byw ac yn gweithio’n lleol ydy Sian Vaughan Jones.

Wrth gerdded ar hyd y stryd fawr mae hi’n esbonio bod y siopau i gyd yn llawn ond bod nifer bellach yn siopau elusen a bod pethau wedi dirywio.

Mae’r economi leol yn bwnc llosg hefyd yn y dref ond mae hi, fel sawl un arall, eisiau trafod helynt ymgeiswyr.

“Y broblem fwyaf ydy fod pobl yn cael trafferth ymddiried mewn gwleidyddion.

"Mae 'na gymaint o addewidion a 'di pobl ddim yn gweld nhw’n cael eu cyflawni."

Mae 'na wahaniaethau dybryd o ran gwleidyddiaeth ar naill ochr i Glawdd Offa ond mae'r difaterwch gwleidyddol a’r diffyg brwdfrydedd yn amlwg wedi llwyddo i gyrraedd y ddwy ochr o'r ffin.