Lluniau 'Steddfod Cylch Arfon

- Cyhoeddwyd
Mae arwyddion cynta'r gwanwyn ym mhobman – blodau yn blaguro, ŵyn yn prancio a phlant yn dechrau heidio i Eisteddfodau Cylch yr Urdd.
Er bod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddiwedd Mai yn denu sylw'r cyfryngau, mae'r Cylch yr un mor bwysig. Dyma sylfaen y pyramid lle gall unrhyw aelod, aelwyd neu ysgol gael bod yn rhan o'r cystadlu gyda'r rhai buddugol yn mynd yn eu blaenau i'r rhanbarth ac yna'r genedlaethol
Cymru Fyw fu draw i Eisteddfod Cylch Arfon yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, dros y penwythnos.

Cyn naw y bore mae'r unawdwyr ifanc - a'u rhieni - yn dechrau cyrraedd ystafelloedd gerdd Ysgol Brynrefail am un o'r rhagbrofion

Y rhagbrawf - a Christian yn gwneud rhywbeth mae miloedd o blant Cymru wedi gwneud dros y degawdau wrth berfformio o flaen beirniad

Bydd pob cystadleuydd yn cael beirniadaeth - yn y gystadleuaeth yma, unawd blwyddyn 2 ac iau, gan Iwan Wyn Williams


Hir yw pob ymaros... disgwyl eu tro i fynd i'r rhagbrawf llefaru

Draw yn y neuadd mae'r rhagbrofion Cerdd Dant yn cael eu cynnal ar y prif lwyfan

Rhai o bobl pwysicaf pob Eisteddfod Cylch - yr aelodau Merched y Wawr sy'n gwneud paneidiau a brechdanau drwy'r dydd

Ac mae'r cantîn yn le pwysig i blant gael adennill egni...

... a llosgi egni...

... ymlacio...

... a chymdeithasu, fel Anna, Rhudd a Cadi yma

Lleoliad pwysig arall - bwrdd canlyniadau'r rhagbrofion, sy'n cyhoeddi pwy sydd wedi cael eu gosod yn y tri uchaf ac yn mynd ymlaen i gystadlu ar lwyfan yr eisteddfod

Ac yn wahanol i'r rhagbrofion, mae 'na gynulleidfa fawr erbyn y prynhawn


Ymarfer olaf cyn mynd ar y llwyfan i barti canu Ysgol Dolbadarn...

... a'u cynulleidfa


Disgwyl gefn llwyfan cyn cystadlu gyda'r parti canu

A phob arweinydd yn ceisio cael y perfformiad gorau gan y plant
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd3 Chwefror