'Perygl' i ddŵr yfed miloedd gan gynllun pont newydd

Still hen bont Llannerch
Disgrifiad o’r llun,

Syrthiodd Pont Llannerch, rhwng pentrefi Tremeirchion a Threfnant, yn ystod Storm Christoph ym mis Ionawr 2021

  • Cyhoeddwyd

Fe allai cynlluniau ar gyfer pont ffordd newydd yng ngogledd Cymru achosi risg i iechyd y cyhoedd, yn ôl adroddiad i gynghorwyr.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i godi pont yn lle hen Bont Llannerch, a gwympodd i mewn i Afon Clwyd yn ystod Storm Christoph yn 2021.

Ond mae'r adroddiad yn rhybuddio bod Dŵr Cymru yn credu y gallai'r cynlluniau presennol achosi risg uchel i gyflenwad yfed 85,000 o gartrefi.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dweud nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud am y camau nesaf.

Roedd Pont Llannerch yn gyswllt hanfodol i bentrefwyr Tremeirchion a Threfnant sydd wedi bod yn ymgyrchu am bont newydd ers pedair blynedd.

Mae dyluniad manwl gwerth £1.5m wedi'i gwblhau gan ddod â "heriau sylweddol" i'r amlwg am sylfeini'r bont.

Yn ôl yr adroddiad, mae'r lleoliad uwchben dyfrhaen dŵr croyw ac mae gan Dŵr Cymru gyfleuster tynnu dŵr croyw wrth ymyl y safle.

Byddai'r cynlluniau presennol yn golygu drilio i mewn i'r tywodfaen uwchben y ddyfrhaen a allai, yn ôl Dŵr Cymru, halogi'r cyflenwad dŵr.

"Yn anffodus, ni fu modd canfod datrysiad dylunio a fyddai'n diddymu'r risg i'r asedau hyn," medd yr adroddiad.

"Am y rhesymau hyn, mae Dŵr Cymru wedi asesu bod adeiladu'r bont yn weithgaredd risg uchel."

Llun Kathleen Easton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kathleen Easton yn dweud bod colli'r bont wedi newid ei bywyd

Mae yswirwyr wedi dweud wrth y cyngor y buasai codi'r bont gwerth hyd at £10m gan wybod y risgiau yn golygu eu bod yn annhebygol o gael eu hyswirio pe bai'r dŵr yn cael ei halogi.

Ers colli'r bont yn 2021 mae trigolion wedi gorfod teithio saith milltir ychwanegol rhwng y ddau bentref.

Mae hynny wedi golygu newid mawr i'r bensiynwraig Kathleen Easton sy'n byw yn Nhremeirchion.

"'Dwi ddim yn mynd allan lot rŵan am ei bod hi'n cymryd mwy o amser, mae'n costio mwy am betrol a phethau fel yne. Rhaid mynd trwy Lanelwy, neu lawr y ffordd am Ddinbych," meddai.

"O'n i'n cael sgwrs a phaned efo ffrindiau. Mae hwnne i gyd wedi mynd rŵan.

"Oherwydd Covid a'r ffaith bod y bont wedi mynd, mae bywyd chi'n newid i gyd a ti'n well i aros adre."

Effaith ar fusnesau

Roedd Jane Marsh yn arfer rhedeg caban te bychan yn Nhremeirchion ond fe gaeodd, meddai hi, oherwydd cwymp mewn nifer cwsmeriaid yn dilyn dymchwel Pont Llannerch.

Mae hi bellach yn rhedeg tafarn gymunedol y pentref ers iddi ailagor dwy flynedd yn ôl ac mae'n dweud bod y busnes hwnnw hefyd ar ei golled heb y bont.

"Mae'n anodd iawn yn yr industry yma oherwydd does dim llawer o arian gan bobl yn eu pocedi," meddai.

"Ac mae'n anoddach achos 'den ni ddim yn gallu croesawu pobl sy'n dod o Drefnant a phentrefi pellach."

Llun Jane Marsh
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jane Marsh, mae tafarn gymunedol y Salusbury Arms yn Nhremeirchion ar ei cholled heb gysylltiad rhwydd i Drefnant a Dinbych

Yn ôl Ms Marsh, mae cynnwys yr adroddiad ddydd Iau yn newyddion drwg.

"Dwi'n siŵr mae'n gymhleth iawn i adeiladu pont bwysig iawn fel 'na ond mae'n bwysig ar gyfer yr economi yn lleol," ychwanegodd.

"Mae pobl eisiau mynd i'r gwaith, mae busnesau bach yn stryglo.

"Mae'n broblem fawr felly mae'r bont yn gwneud popeth yn waeth."

'Goblygiadau pellgyrhaeddol'

Yn ôl Dŵr Cymru, maen nhw wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych.

"Mae'r cynlluniau presennol wedi eu hasesu i fod yn weithgaredd risg uchel a allai effeithio ar y cyflenwad o ddŵr yfed i 85,000 o gartrefi," medd Dŵr Cymru.

"Gallai unrhyw waith drilio yn agos i'n gorsaf codi dŵr fygwth halogi'r cyflenwad ac achosi risg iechyd cyhoeddus gyda goblygiadau pellgyrhaeddol."

Mae cynghorwyr lleol yn mynnu bod rhaid medru croesi yn y man dan sylw, ac mae nhw eisiau i'r peiriannwyr a'r dylunwyr edrych eto ar y cylluniau neu godi pont dros dro.

Dywed Cyngor Sir Ddinbych bod cam dylunio manwl wedi'u gwblhau i sefydlu'r "opsiwn mwyaf hyfyw ar gyfer ailosod y bont".

"Mae'r cam wedi nodi rhai heriau a risgiau a fydd yn cael eu trafod yn y Pwyllgor Craffu.

"Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynglŷn â'r camau nesaf ar gyfer y prosiect hwn."

Bydd gofyn i gynghorwyr yn y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ddydd Iau roi adborth i'r Tîm Prosiect a Chabinet am y camau nesaf.

Pynciau cysylltiedig