Gwrandawiad estraddodi dyn oedd ar ffo rhag yr FBI wedi dechrau

Tŷ Daniel Andreas San Diego
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daniel Andreas San Diego ar ffo rhag yr FBI am dros 20 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn oedd ar ffo rhag yr FBI am dros 20 mlynedd cyn iddo gael ei ganfod yng Nghymru wedi ymddangos mewn gwrandawiad estraddodi.

Roedd Daniel Andreas San Diego wedi bod ar restr 'Most Wanted' yr FBI yn yr Unol Daleithiau yn dilyn ffrwydradau yn ardal San Francisco, California yn 2003.

Cafodd ei arestio yn ei gartref anghysbell ger Maenan yn Nyffryn Conwy ym mis Tachwedd y llynedd.

Fe fydd y gwrandawiad yn Llys Ynadon Westminster yn penderfynu a fydd Mr San Diego yn cael ei anfon i America i wynebu achos llys.

Tŷ MaenanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Prynodd Daniel Andreas San Diego dŷ yn Nyffryn Conwy ym mis Awst y llynedd

Clywodd y llys fod car Mr San Diego wedi cael ei archwilio yn dilyn dau achos o fomio yn yr Unol Daleithiau ym mis Awst a Medi 2003.

Roedd dau fom wedi ffrwydro tua awr ar wahân ar 28 Awst ar gampws cwmni biotechnoleg yn Emeryville.

Fe wnaeth bom arall oedd yn cynnwys hoelion ffrwydro ar safle cwmni cynhyrchion maeth yn Pleasanton ar 26 Medi.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiadau.

Clywodd y llys fod warden traffig wedi stopio Mr San Diego, awr cyn y ffrwydrad yn Pleasanton.

Ar 8 Hydref cafodd tŷ Mr San Diego ei archwilio, lle cafodd cylchgronau a phamffledi oedd yn awgrymu diddordeb mewn hawliau anifeiliaid eu darganfod.

Ddiwrnod yn ddiweddarach, fe wnaeth swyddogion ganfod sawl cynhwysyn ar gyfer creu ffrwydron yn ei gar, gan gynnwys aseton, peipiau a gwifrau copr.

Roedd olion ei fysedd hefyd wedi eu darganfod ar rai eitemau yn y car, gan gynnwys yr aseton.

Llun artist o Daniel Andreas San DiegoFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o Daniel Andreas San Diego yn ystod ymddangos llys blaenorol

Wedi iddo ddiflannu, roedd Mr San Diego wedi ei gynnwys ar restr Most Wanted yr FBI, oedd yn cynnwys Osama Bin Laden - cyn-arweinydd al-Qaeda

Dywedodd yr erlynydd, Joel Smith KC y byddai Mr San Diego yn wynebu cyhuddiadau o achosi difrod a dinistr gyda ffrwydron, cario gwn heb ei gofrestru a defnyddio neu gario ffrwydron, pe bai yn cael ei estraddodi.

Yn ôl David Patton, arbenigwr ar gyfraith troseddol yr Unol Daleithiau, gallai elfennau o'r cyhuddiadau hynny fynd yn groes i gyfansoddiad y wlad, a bod peryg iddo gael ei erlyn fwy nag unwaith am yr un drosedd.

Dywedodd Mark Summers KC ar ran yr amddiffyniad, fod cyhuddo Mr San Diego "o fod a bom yn ei feddiant gyda'r bwriad o fomio" yn enghraifft o hynny.

Yn y gwrandawiad ddydd Llun dim ond siarad er mwyn cadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni wnaeth Mr San Diego.

Mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig