Nodi dyddiad gwrandawiad estraddodi dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yng Nghymru

Llun artist o Daniel Andreas San DiegoFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o Daniel Andreas San Diego yn ystod ymddangos llys blaenorol drwy gyswllt fideo o'r carchar

  • Cyhoeddwyd

Wrth i ddyn gafodd ei ddarganfod gan yr FBI yn nyffryn Conwy aros i glywed a fydd yn cael ei anfon i America i wynebu achos llys, mae cyn-swyddogion o'r asiantaeth wedi dweud eu bod wedi "colli cyfle" i'w ddal dros 20 mlynedd yn ôl.

Cafodd Daniel Andreas San Diego, 47 oed, ei arestio yn ei gartref anghysbell ger Maenan y llynedd.

Mae'n cael ei amau gan yr awdurdodau yn yr Unol Daleithiau o osod bomiau yn Califfornia yn 2003.

Bydd y gwrandawiad llys i ystyried a fydd yn cael ei estraddodi i'r Unol Daleithiau'n dechrau yn Llundain ddydd Llun.

Yn haf 2003, fe ffrwydrodd dyfeisiau y tu allan i fusnesau mewn dinasoedd yn Califfornia.

Fis yn ddiweddarach roedd swyddogion yr FBI yn dilyn Mr San Diego ger ei gartref yn y dalaith ac ar fin ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiadau, ond maen nhw'n dweud i'w penaethiaid oedi yn y gobaith o gael rhagor o wybodaeth.

Ddiwrnod yn ddiweddarach, ar ôl ei erlid gyda cheir a hofrennydd am 65 milltir, fe ddiflannodd Mr San Diego.

Ymhen blwyddyn roedd o ar yr un rhestr FBI ag Osama bin Laden - o derfysgwyr honedig mwyaf y byd - a gwobr o chwarter miliwn o ddoleri amdano.

Ond ni chafodd ei weld am 21 mlynedd tan iddo gael ei hebrwng o'i gartref ym Maenan fis Tachwedd y llynedd.

Ty MaenanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Prynodd Daniel Andreas San Diego y tŷ ym mis Awst 2023

Mewn cyfweliadau â BBC Cymru mae'r cyn-swyddogion wedi sôn am eu rhwystredigaeth o fethu dal dyn oedd yn cael ei ystyried gan yr FBI yn 'arfog a pheryglus'.

Fe dreuliodd y cyn-asiant David Smith wythnos y tu allan i gartref Mr San Diego, cyn iddo ddiflannu.

"Doedd dim allan o'r cyffredin amdano" meddai Mr Smith.

"Roedd o'n ddyn cymharol ifanc a normal, doedd dim i awgrymu ei fod yn ymddwyn yn rhyfedd neu'n edrych yn dreisgar. Chawson ni ddim awgrym ei fod o'n ymwybodol ohonom ni."

Daniel Andreas San DiegoFfynhonnell y llun, FBI
Disgrifiad o’r llun,

Mae camau wedi dechrau i estraddodi Daniel Andreas San Diego yn ôl i'r Unol Daleithiau

Y diwrnod wedyn fe ddiflannodd Mr San Diego gan yrru i'r de o'i gartref yn Sebastopol, Sonoma County a dod i stop yng nghanol San Francisco.

"O'r funud y daeth o'i dŷ roedd o'n ymddwyn yn wyllt", cofia Mr Smith, fu'n cuddio tu allan i'r cartref y noson gynt.

"Fe newidiodd ei batrwm gyrru, lle'r oedd o'n mynd, roedd o'n ymddwyn yn afreolus - sy'n nodweddiadol o rywun sy'n ceisio osgoi cael ei wylio."

Poster o restr Most Wanted yr FBIFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd San Diego, dde uchaf, yn ymddangos ar restr Most Wanted yr FBI oedd yn cynnwys Osama Bin Laden - cyn-arweinydd al-Qaeda

Fe adawodd Mr San Diego ei gar â'r injan yn dal i redeg mewn parth bws ger gorsaf trên tanddaearol - a diflannu.

Pan agorodd swyddogion gist cefn y cerbyd, fe ddaethon nhw o hyd i ffatri fechan i wneud bomiau.

"Roedd y tîm yn meddwl ei fod o'n defnyddio tŷ i wneud y ffrwydron," cofia Clyde Foreman.

"Pan adawodd o'r car, fe sylweddom ni bod ei labordy bomiau yn y gist gefn."

"Petaem ni'n gwybod hynny, mi fuasem ni wedi ei arestio dyddiau'n gynharach." ychwanegodd Mr Foreman.

"Roedd yn sicr yn gyfle gafodd ei golli."

Disgrifiad,

Dyma un o'r ffrwydradau yn San Francisco y mae Daniel Andreas San Diego yn cael ei amau o fod yn gysylltiedig â nhw

Yn ôl y swyddogion roedd eu penaethiaid yn oedi cyn arestio Mr San Diego gan eu bod yn gobeithio y byddai'n eu harwain at bobl eraill oedd yn cael eu hamau o fod â rhan yn y ffrwydron.

Er iddyn nhw gadw golwg ar ei deulu a ffrindiau am flynyddoedd wedi ei ddiflaniad, doedd dim arwydd o Mr San Diego.

Roedden swyddogion yn credu ei fod wedi dianc i Dde America.

Ond fis Tachwedd y llynedd, cyhoeddodd yr FBI bod y dyn 47 oed - oedd yn defnyddio'r enw 'Danny Webb' - wedi ei arestio yn ardal wledig Maenan yn nyffryn Conwy ar ôl iddo brynu tŷ yno am £425,000.

"Dwi'n credu ei fod o wedi cael help" meddai Mr Foreman, "Doedd o ddim yn ysbïwr neu swyddog cudd-wybodaeth. Roedd rhaid iddo fo gael cefnogaeth."

Doedd yr FBI ddim am wneud sylw am gyfleoedd posib i ddal Mr San Diego.

Adeg ei arestio yng Nghymru'r llynedd fe ddywedodd yr asiantaeth bod yr achos yn dangos "waeth ba mor hir yr aros, bydd yr FBI yn dod o hyd i chi ac yn eich dwyn i gyfrif".

Mae disgwyl i wrandawiad estraddodi Daniel Andreas San Diego bara pum niwrnod, ble bydd Llys Ynadon Westminster yn penderfynu a fydd yn cael ei anfon yn ôl i'r Unol Daleithiau.

Mae tîm cyfreithiol Mr San Diego wedi cael cais i ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig