Dedfrydu dyn am gam-drin ceffylau yn rhywiol

Corey Coleman yn gadael y llys ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael dedfryd o garchar wedi ei ohirio ar ôl cam-drin ceffylau yn rhywiol mewn stablau yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd Corey Coleman, 26 o Lanharan, ei ddal ar ôl iddo gael anaf ar y safle, ac fe wnaeth perchennog y stablau edrych ar luniau camerâu cylch cyfyng.
Dangosodd y lluniau Coleman yn ymosod ar ddau farch a chaseg ar dri achlysur gwahanol.
Clywodd Llys Ynadon Merthyr fod Coleman wedi derbyn bod ganddo "ddiddordeb afiach" mewn ceffylau, a'i fod yn teimlo "cywilydd" am ei weithredoedd.
'Pryfocio a chyffroi ceffyl'
Clywodd y llys fod Coleman, ar 27 Mehefin 2024, wedi' cael ei ddarganfod yn gorwedd ar y llawr yn Ynyscrug Livery ym Mhantybrad, Tonyrefail, wedi iddo gael "anafiadau difrifol", gan gynnwys i'w gefn.
Ond dywedodd Geraint Richards, erlynydd ar ran yr RSPCA, nad oedd yn hir cyn i Coleman fod "yn ôl yn y stablau" – lle'r oedd yn aml yn helpu, ond nid oedd yn berchen ar yr un o'r ceffylau.
Pan gafodd ei holi am ei anafiadau gan berchennog y stabl, Alex Hill, awgrymodd Coleman fod "un o'r ceffylau yn y buarth wedi ceisio mynd arno".
Fe wnaeth Mr Hill adolygu'r camerâu cylch cyfyng yn ddiweddarach, oedd yn dangos delweddau ar 15 Gorffennaf o Coleman yn "pryfocio a chyffroi" ceffyl.
Roedd mwy o luniau o 27 Mehefin a 29 Gorffennaf yn dangos digwyddiadau tebyg o geffylau yn "cael eu defnyddio", er bod y llys wedi nodi bod union natur y weithred yn fwy anodd i'w chadarnhau.

Caseg o'r enw Nala oedd un o'r ceffylau a gafodd eu cam-drin
Ychwanegodd Mr Richards fod y stablau lle ddigwyddodd y troseddau yn rhai "eithaf prysur yn gyffredinol", ac yn aml fod plant yn yr ardal tu allan.
Cafodd Coleman ei arestio ar 31 Gorffennaf, ac fe blediodd yn euog i bedwar cyhuddiad yn ymwneud â thri cheffyl yn ddiweddarach.
Roedd y cyhuddiadau yn cynnwys dau gyhuddiad o gam-drin ceffyl yn rhywiol, yn gorfforol ac/neu'n emosiynol, yn groes i'r Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Plediodd yn euog hefyd i ddau gyhuddiad arall o fethu ag amddiffyn anifeiliaid yr oedd yn gyfrifol amdanynt.
Dywedodd Mr Richards fod y cam-drin "yn debygol o fod wedi para am fisoedd lawer", er ei bod yn anodd asesu'r "straen meddyliol y mae anifail yn ei ddioddef o dan yr amgylchiadau hynny".
Fe wnaeth cyfreithiwr Coleman, Daniel Mags, gyfaddef ei fod yn "achos anarferol iawn", a bod ei gleient yn ei chael hi'n anodd trafod y digwyddiadau oherwydd ei fod yn teimlo "cywilydd".
'Diddordeb afiach'
Ychwanegodd Mr Mags fod Coleman eisoes wedi dioddef "elfen o karma ar unwaith" yn dilyn ei anafiadau.
Dywedodd fod Coleman yn derbyn bod ganddo "ddiddordeb afiach" mewn ceffylau, ond nad oedd "unrhyw awgrym ei fod yn ymestyn i rywogaethau eraill".
Roedd wedi bod yn rhan o drefnu digwyddiadau yn ymwneud â cheffylau yn y gorffennol, a dywedodd Mr Mags fod ei gleient bellach wedi "dinistrio unrhyw yrfa o'r fath yn y dyfodol", a'i fod yn derbyn cwnsela.
Ychwanegodd Mr Mags fod y ceffylau dan sylw wedi'u canfod yn "ffit ac iach ar ôl archwiliad".
Wrth ddedfrydu Coleman i wyth wythnos o garchar, wedi'i ohirio am 12 mis, dywedodd cadeirydd yr ynadon Jeffery Edwards ei fod wedi cyflawni "nifer o droseddau dros gyfnod hir o amser", ond bod "gobaith o adsefydlu".
Cafodd Coleman hefyd ei wahardd rhag bod yn berchen ar geffylau, eu cadw neu eu cludo, neu gymryd rhan yn eu cadw, am bum mlynedd, a gorchymyn i dalu cyfanswm costau o £474.