Trigolion 'ar ein pen ein hunain' ar ôl canslo mesurau atal llifogydd

Bu'n rhaid i Rebecca Chadwick nofio allan o'i chartref adeg Storm Dennis
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion yn Rhondda Cynon Taf yn dweud eu bod yn teimlo "ar ein pen ein hunain" ar ôl i gynlluniau atal llifogydd gael eu gwrthod.
Fe lifodd dŵr i 16 o gartrefi yn Clydach Terrace yn Ynys-y-bwl ger Pontypridd adeg Storm Dennis ym mis Chwefror 2020.
Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal asesiad o gynlluniau posib, gan gynnwys codi wal uwch rhwng yr afon a'r tai, neu brynu'r tai sydd dan fwya' o beryg a'u dymchwel.
Ond daeth i'r casgliad nad oedd y naill gynllun na'r llall yn "agos at fod yn economaidd hyfyw".

Llifodd dŵr o Nant Clydach i 16 o gartrefi yn Chwefror 2020
Un o'r trigolion gafodd eu heffeithio gan y llifogydd oedd Rebecca Chadwick, sydd wedi byw yn Clydach Terrace ers chwarter canrif.
Mae'n disgrifio'r dinistr wrth i ddŵr o Nant Clydach lifo mewn i'w chartref.
"O'dd e lan hyd at y chweched staer ar y grisiau. O'dd rhaid i fi nofio mas o'r tŷ a chael fy achub gan gwch, ac o'dd e jyst yn uffernol."
Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae ei chartref wedi'i drwsio, ond mae hi a gweddill y trigolion yn flin gyda chyhoeddiad Cyfoeth Naturiol Cymru yr wythnos hon
"Maen nhw'n cerdded i ffwrdd mewn ffordd - maen nhw'n dweud bo' nhw ddim yn cerdded i ffwrdd, bo' nhw wedi bod yn gefnogol ohonon ni fel cymuned," meddai Ms Chadwick.
"Ond os chi'n darllen [yr adroddiad] does dim ar gael i Clydach Terrace - 'da ni ar ben ein hun."

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal asesiad o gynlluniau posib, gan gynnwys codi wal uwch rhwng yr afon a'r tai
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod "wedi ymroi o hyd i weithio gyda'r gymuned ac awdurdodau lleol i archwilio beth arall y gellir ei wneud i reoli'r perygl a chefnogi trigolion".
Yn ôl Rebecca Chadwick, mae hi a thrigolion y stryd wedi cael llond bol.
"Dwi eisiau teimlo'n saff yn fy nhŷ.
"Dwi wedi byw yma nawr am 25 mlynedd, dyna lle nes i fagu fy mab, mae lot o atgofion fan hyn.
"Mae'r gymuned yn lyfli, ry'n ni gyd yn edrych ar ôl ein gilydd, mae'n lle hyfryd, mae'r olygfa yn lyfli tu fas, ond dyw e ddim yn ddiogel.
"Pan wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi'r adroddiad wnaethon nhw ysgrifennu arno fe 'Clydach Terrace is a risk to life' a phob amser mae e'n bwrw glaw dyna beth sydd yn digwydd.
"Mae'r dŵr yn dod dros y wal yn gyflym gyflym iawn, felly mae ganddon ni bum munud o rybudd falle, a wedyn mae'r dŵr yn dechrau dod mewn i'r tai yn syth."

Trigolion Clydach Terrace yn clirio ar ôl Storm Dennis yn 2020
Yn ôl Elliot Wigfall o Gyngor Cymuned Ynys-y-bwl a Choed-y-cwm, mae'r trigolion yn haeddu atebion.
"O'dd e'n siomedig i ni fel cyngor ac i'r gymuned.
"Mae pawb yn teimlo jyst fel bo'r bobl sy'n gallu gwneud rhywbeth wedi cerdded i ffwrdd, a does dim opsiynau ar ôl.
"Ni'n aros i weld os mae Cyngor RCT yn gallu gwneud rhywbeth."

Yn ôl Elliot Wigfall o'r cyngor cymuned, mae pobl yn teimlo fel bod "dim opsiynau ar ôl"
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud y byddan nhw'n cwrdd â'r trigolion yr wythnos nesa' i drafod y ffordd ymlaen.
Dywedodd llefarydd bod y cyngor yn "parhau i ystyried pob opsiwn ar gyfer Clydach Terrace".
"Does dim byd yn cael ei ddiystyru, gan gynnwys prynu'r tai lle bo angen, ac fe fyddwn ni'n ymgynghori â'r trigolion ar bob dewis posib, i sicrhau ein bod yn gwrando ar eu dymuniadau."

Mae bagiau tywod yn parhau y tu allan i gartrefi yn Clydach Terrace
Dywedodd pennaeth gweithrediadau canol de Cymru ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, David Letellier, eu bod yn "gwybod bod perygl llifogydd yn effeithio'n fawr iawn ar fywydau a lles pobl, ac rydym yn deall y bydd hyn yn newyddion siomedig i'r trigolion".
"Roedd hwn yn asesiad trylwyr o'r hyn sy'n bosibl yn Ynys-y-bwl, ac er na allwn fwrw ymlaen â chynllun sylweddol ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn troi ein cefnau ar Ynys-y-bwl."
'Byth yn cysgu pan mae'n bwrw glaw'
Cafodd Rebecca Chadwick ei geni a'i magu yn y pentre', ac mae hi wrth ei bodd yn byw yn Clydach Terrace.
Ond mae'n cydnabod y gallai hi a chymdogion eraill gael eu perswadio i symud pe bai cynnig yn dod, ar ôl y profiadau gawson nhw adeg Storm Dennis.
"Dwi'n gwybod pan ni'n dod at fis Hydref a mis Tachwedd dy'n ni ddim yn mynd i gysgu - 'da ni byth yn cysgu unrhyw bryd mae'n bwrw glaw.
"'Da ni ar ddihun trwy'r nos a wedyn mae disgwyl i ni fynd i'r gwaith yn y bore - 'da ni methu byw fel hyn.
"Dy'n ni ddim yn byw - 'da ni jyst yn bodoli ar hyn o bryd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd17 Mai 2022
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020