Canolfan gofal lliniarol 'amhrisiadwy' yn Sir Benfro i gau

Tŷ Shalom
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Tŷ Shalom fel hosbis ym mis Tachwedd 2007

  • Cyhoeddwyd

Bydd canolfan gofal lliniarol yn Sir Benfro yn cau ddiwedd y mis oherwydd pwysau ariannol "difrifol".

Mae hosbis Tŷ Shalom yn Nhyddewi yn darparu gofal i bobl â chanser a chyflyrau eraill sy'n cyfyngu ar fywyd.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd yr hosbis fod "diffyg cyllid cynaliadwy" wedi golygu nad oedd "unrhyw ddewis arall" ond cau.

Dywedodd un fenyw leol fod y ganolfan wedi "helpu gymaint" ar ei mam tuag at ddiwedd ei bywyd, a bod elusennau fel hyn yn "amhrisiadwy".

'Torri fy nghalon'

Mae Emma Sutton, 46, yn byw yn Nhyddewi ac roedd Tŷ Shalom yn gymorth mawr i'w mam ar ddiwedd ei bywyd.

"Ro'n i'n gwybod fod Shalom mewn trafferthion, fel mae cymaint o elusennau gwych eraill yn Sir Benfro a thu hwnt," meddai.

"Ond pan glywais i'r wythnos hon ei bod yn gorfod cau, fe dorrodd fy nghalon.

"Bu farw fy mam yn 2008 - roedd hi'n 58 oed. Fe wnaeth Shalom ei helpu gymaint tuag at y diwedd.

"Bydden nhw'n ei phigo hi fyny a mynd â hi adref ar ôl treulio amser yno'n paentio, sgwrsio a bod mewn lle diogel a hapus, wedi ei hamgylchynu gan bobl anhygoel.

"Fe wnaethom ni ofyn am roddion i Shalom ar ôl iddi farw - i ddangos ein diolchgarwch, ac fel teulu fe fyddwn ni o hyd yn ddiolchgar eu bod nhw yno i Mam yn ei chyfnod tywyllaf.

"Mae elusennau fel hyn yn amhrisiadwy ac ni allwn eu hanwybyddu pan maen nhw'n gweithio mor galed i gadw fynd a chadw i gefnogi pobl sydd ei angen."

Mae hosbis Tŷ Shalom yn Nhyddewi yn darparu gofal i bobl â chanser a chyflyrau eraill sy'n cyfyngu ar fywyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae hosbis Tŷ Shalom yn Nhyddewi yn darparu gofal i bobl â chanser a chyflyrau eraill sy'n cyfyngu ar fywyd

Cafodd yr elusen ei sefydlu yn 1997, gyda dynes o'r enw Elizabeth de Guise yn rhoi ei thŷ ar Heol Non fel rhodd iddyn nhw, i'w ddefnyddio fel hosbis.

Wedi degawd o godi arian, cafodd y tŷ ei addasu yn unol ag argymhellion ar gyfer hosbis.

Agorodd Tŷ Shalom fel hosbis ym mis Tachwedd 2007, gan ddarparu cymorth lliniarol i gleifion a'u perthnasau ar draws Sir Benfro am bron i 18 mlynedd.

Dros y blynyddoedd mae'r cymorth yno wedi cynnwys gofal cleifion mewnol, gofal seibiant a gofal dydd.

Ond fe arweiniodd cyfyngiadau ariannol at ganolbwyntio ar ofal dydd, "i gefnogi cymaint o gleifion â phosib".

Ers i Feddygfa Tyddewi gau ym mis Hydref 2024, mae rhai ystafelloedd yn Nhŷ Shalom wedi cael eu defnyddio i redeg meddygfa gangen.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod "mewn trafodaethau gweithredol gyda'r elusen ynghylch dyfodol y feddygfa gangen i Meddygfa'r Penrhyn".

'Pwysau ariannol difrifol'

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, cyhoeddodd yr hosbis eu bod yn cau eu drysau ddiwedd Hydref eleni.

"Fel mae nifer yn ymwybodol, fel nifer o elusennau bach ar draws y DU, mae Tŷ Shalom wedi bod dan bwysau ariannol difrifol ers amser hir," meddai.

"Fe wnaeth ein hymgyrch 'Achub Tŷ Shalom' dderbyn ymateb rhyfeddol gan y gymuned a noddwyr eraill, wnaeth ein galluogi i barhau i gynnig ein gofal am lawer hirach nag y gallem fod wedi ei ddychmygu.

"Er hyn, rydym yn awr wedi gorfod cymryd y penderfyniad anodd a thrist iawn i gau ein drysau."

Diolchodd yr hosbis i bobl Tyddewi a chymuned ehangach Sir Benfro yn ogystal â'u staff clinigol, gwirfoddolwyr a'u tîm gweinyddu am eu hymroddiad a'u cefnogaeth.

Bydd siopau elusen Tŷ Shalom yn y sir hefyd yn cau ddiwedd Hydref.

Ychwanegodd yr hosbis: "Er mai dyma ddiwedd Tŷ Shalom, fe fyddwn ni o hyd yn falch o'r hyn sydd wedi cael ei gyflawni yma a'r gwahaniaeth mae wedi ei wneud i gymaint o fywydau."

Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r newyddion yn ergyd fawr i'r gymuned leol," medd Paul Davies

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies, ei fod yn "flin iawn gen i glywed y newyddion hyn".

"Fe wnaeth Tŷ Shalom helpu gymaint o bobl dros y blynyddoedd ac mae'n drist iawn i glywed ei fod yn cau ei drysau," meddai.

"Cefais y pleser o ymweld â Thŷ Shalom fy hun ar sawl achlysur ac roeddwn i o hyd yn llawn edmygedd gydag ymroddiad y tîm yno.

"Mae'r newyddion yn ergyd fawr i'r gymuned lleol, a fydd wrth reswm yn drist a'n pendroni pam na wnaed mwy o ymdrech gan lywodraethau i gefnogi'r elusen."

Esgob Tyddewi, Dorrien Davies
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Esgob Tyddewi, Dorrien Davies, roedd effaith y ganolfan ar fywydau pobl yn fawr

Dywedodd Esgob Tyddewi, y gwir barchedig Dorrien Davies, ei fod yn "ddiwrnod ofnadwy" i'r ardal.

"Dwi'n teimlo'n ofnadwy dros y bobl sy'n mynd i gael eu heffeithio oherwydd cau Shalom ac hefyd rwy'n teimlo tristwch bod yr holl waith rhoiodd cynifer o bobl mewn i grynhoi elw, i sicrhau bod hwn ar gael i bobl gyda chancr yn arbennig, bod nhw'n gweld bod y drysau'n cau."

Ychwanegodd: "Yn ôl nawddsant Cymru, Dewi Sant, 'Gwnewch y pethau bychain'. Rhywbeth bach oedd hwn ond o'dd e'n cael effaith fawr ar fywydau bobl."

Dywedodd Jill Paterson o Fwrdd Iechyd Hywel Dda: "Mae'n ddrwg gennym glywed y bydd Elusen Tŷ Shalom yn cau ac yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae'r Elusen wedi'i wneud i'r gymuned leol dros y blynyddoedd.

"Ein blaenoriaeth nawr yw sicrhau parhad gofal i gleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa'r Penrhyn.

"Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r elusen, ein partneriaid a'n rhanddeiliaid i archwilio darpariaeth y gwasanaethau pwysig hyn yn lleol yn y dyfodol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod y rôl allweddol sydd gan hosbisau yn cefnogi pobl ar ddiwedd eu bywydau".

"Rydyn ni wedi cynyddu'n sylweddol y buddsoddiad mewn gwasanaethau hosbis yn ystod tymor y Senedd hon, gan roi £5.2m yn ychwanegol pob blwyddyn, a £9.5m mewn grantiau costau byw i helpu hosbisau barhau i ddarparu eu gwasanaethau allweddol," medd llefarydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.