'Cau hosbis lle bu Dad yn newyddion trist'

Y diweddar Barchedig Jim Clarke a'i ddau ŵyr Elis a Nedw
- Cyhoeddwyd
Roedd y gofal diwedd oes a gafodd y diweddar Barchedig Jim Clarke yn Hosbis Dewi Sant yng Nghaergybi llynedd yn hynod o werthfawr, medd ei deulu.
Ond ddechrau'r wythnos fe gyhoeddodd elusen Hosbis Dewi Sant y bydd yn cau dros dro o fis Hydref 2025 ymlaen.
Hon oedd yr hosbis gyntaf i gael ei lleoli ar Ynys Môn ac mae'n cynnwys pedwar gwely.
"Roedd Dad yno fis Hydref diwethaf a chyn hynny doedd gen i ddim syniad pa waith oeddan nhw'n 'neud yna," meddai ei fab, Gwion Clarke.
"Dwi wedi bod mewn nifer o ysbytai ond mae'r gofal clinigol sydd ar gael mewn hosbis yn wahanol - 'dach chi'n cael cymaint o gymorth ychwanegol a gofal lot mwy bugeiliol.
"Mae clywed bod yr hosbis yng Nghaergybi yn cau am y tro yn newyddion trist iawn - na'th o roi gymaint o sefydlogrwydd mewn cyfnod mor anodd."
Mab Jim Clarke, Gwion, yn siarad ar Dros Frecwast am ei siom o glywed y newyddion am gau'r hosbis
Ym mis Ebrill 2025 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid gwerth £5.5m, yn ychwanegol at y £3m yng nghyllideb 2025 i 2026, i 12 hosbis y GIG.
Mae'r rhai sy'n rhedeg hosbisau yn dweud eu bod yn anodd i'w cynnal a'u bod yn ddibynnol i raddau helaeth ar roddion ariannol gan y cyhoedd.

Fe gafodd y diweddar Jim Clarke ofal arbennig yn hosbis Caergybi, medd ei deulu
Ddydd Llun mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Elusen Dewi Sant: "Gwnaed y penderfyniad strategol anodd hwn oherwydd nifer o ffactorau, yn ystod cyfnod heriol i'r sectorau elusennol a gofal yn y DU.
"Mae'r cyfuniad o gostau rhedeg cynyddol ac incwm is wedi ei gwneud yn anhyfyw yn economaidd i barhau i weithredu'r tri safle hosbis — er gwaethaf yr ymdrechion gorau i liniaru'r ffactorau hyn."

Yr olygfa a anfonodd Jim Clarke i'w fab Gwion tra yn yr hosbis yng Nghaergybi
Wrth gyhoeddi bod hosbis Caergybi yn cau am y tro dywed yr elusen y bydd y gwasanaethau yn eu safleoedd yn Llandudno a Bangor yn parhau ac ar gael i bawb sy'n cael gofal yng Nghaergybi ar hyn o bryd.
I Gwion Clarke mae Cymreictod hosbis Caergybi yn ychwanegu at y profiad arbennig mewn cyfnod anodd.
"Rwy'n derbyn nad yw'r lleoliadau eraill yn bell iawn i ffwrdd - yr hyn oedd yn arbennig am Gaergybi oedd bod y gwasanaethau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a dwi methu pwysleisio ddigon pwysigrwydd hynna," meddai.
"I bobl sy'n bur wael mae cael y gallu i fynegi sut 'dach chi'n teimlo yn eich iaith gyntaf mor bwysig.
"Fel claf roedd fy nhad yn medru mynegi yr hyn roedd o'n ei deimlo yn haws."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2024