Pencampwriaethau Rasio Ffordd yn hwb i economi Ceredigion

Cyclists Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 10 crys pencampwr cenedlaethol yn y fantol dros dri diwrnod o rasio

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Bencampwriaethau Rasio Ffordd Genedlaethol Lloyds British Cycling 2025 gael effaith gadarnhaol ar economi Ceredigion tra'n cynyddu'r diddordeb mewn seiclo, yn ôl busnesau a phobl leol y sir.

Bydd seiclwyr elitaidd o Gymru ynghyd â rhai o enwau mawr seiclo ffyrdd ym Mhrydain yn rhan o'r cystadlu.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 26-29 Mehefin o amgylch ardaloedd Aberaeron ac Aberystwyth, gyda 10 crys pencampwr cenedlaethol i'w ennill.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gobeithio y bydd cynnal y digwyddiad hwn yn "ysbrydoli beicwyr ifanc a fydd yn gallu gweld eu harwyr ar waith".

MAP o'r ras profion amser Ffynhonnell y llun, BRITISH CYCLING
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rasys profion amser yn dechrau am 09:00 ac yn gorffen am 17:00

Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda'r ras yn erbyn y cloc am 09:00 fore Iau 26 Mehefin ym mhentref Ffos-y-ffin.

Yma bydd y merched elît, merched dan 23 a'r categori dynion dan 23 yn seiclo un lap a thri chwarter i gyrraedd pellter o 27km, tra bydd y dynion elît yn seiclo dwy lap a thri chwarter i gyrraedd pellter o 41km.

Bydd y llwybr, sydd wedi ei ddisgrifio gan British Cycling fel un "heriol", yn teithio drwy Giliau Aeron a Llanerchaeron cyn gorffen ar Heol Llyswen yn Aberaeron.

Donna Regan, Manager of the Castle Hotel sitting outside the hotel in Aberaeron.
Disgrifiad o’r llun,

Donna Regan yw rheolwr Gwesty'r Castell, Aberaeron

Yn ôl rheolwr Gwesty'r Castell yn y dref, Donna Regan, 39, mae'n "gyffrous" bod y digwyddiad yn dod i'r ardal.

Dywedodd bod y gwesty "yn llawn" drwy gydol yr wythnos.

"Gobeithio bod y bobl sy'n dod i aros yn dod i supporto'r bobl sy'n seiclo.

"Mae hwnna'n dod â lot o fusnes i ni nawr gyda'r gwesty a phopeth."

Ychwanegodd: "Mae e'n neis bod e'n dod i Aberaeron.

"Fi'n gwybod mae e'n mynd ymlaen i Aberystwyth wedyn, ond mae'n neis bod y seiclo'n dechrau yn yr ardal hyn, bod e'n dechrau yn Ffos-y-ffin a bod e'n mynd rownd Aberaeron a'r rhewlydd sy'n dod mewn tuag at Aberaeron."

Arwydd y digwyddiad yn nodi y bydd na oedi
Disgrifiad o’r llun,

Bydd oedi posib ar hyd rhai ffyrdd yn y sir

Bydd nifer o'r prif ffyrdd o amgylch Aberaeron ac Aberystwyth ar gau am gyfnodau penodol yn ystod y tri diwrnod o rasio.

Bydd y ras gylchdaith yn cael ei chynnal ddydd Gwener 27 Mehefin a'r ras ffordd ddydd Sul 29 Mehefin, y ddau yn Aberystwyth a'r cyffiniau.

Mae disgwyl i'r beicwyr gyrraedd cyflymder o 50mya mewn ambell fan yn ystod y ras.

Ymysg rhai o'r beicwyr o Gymru sydd wedi cofrestru i gystadlu mae Owain Doull, y chwiorydd Zoe Backstedt ac Elynor Backsted, Elinor Barker a Megan Barker.

Yn ôl British Cycling, er ei fod wedi cofrestru, ni fydd y pencampwr cenedlaethol ac Olympaidd ar ddau achlysur ac enillydd Tour de France 2018, Geraint Thomas yn cystadlu bellach.

Tregaron Cycling Club Members
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd, Arwel a Gwion yn teimlo'n "lwcus iawn" i gael gweld y digwyddiad

Bydd aelodau Clwb Seiclo Caron ymysg y dorf fydd yn gwylio'r digwyddiad.

"Mae'n bleser i watcho nhw" meddai Dafydd Richards, 51.

"Maen nhw tipyn gwell na beth ydyn ni. Ma' pa mor fast maen nhw'n mynd yn anhygoel rili," meddai.

Ychwanegodd Arwel Jones, 27: "Fi'n meddwl bod e'n beth gwych i'r gymuned leol hefyd.

"Mae e'n mynd i ddod â lot o arian a phobl mewn i'r ardal".

Yn ôl Gwion James, 50, gall y digwyddiad annog eraill i feithrin diddordeb mewn seiclo.

"Yn sgil gemau Olympaidd Llundain 2012 dechreuodd y clwb yma, blwyddyn ar ôl hynny.

"Ni'n mynd o nerth i nerth a bydd digwyddiadau fel hyn yn Aberaeron ac Aberystwyth dros y penwythnos yn creu diddordeb gyda seiclwyr o bob oedran ac yna'n dod i seiclo gyda chlybiau."

Dwynwen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dwynwen Davies newydd ymuno â chlwb seiclo i fenywod yn Aberystwyth

Gyda chroeso i gefnogwyr wylio ar unrhyw un o'r llwybrau, mae busnesau lleol yn rhagweld penwythnos prysur.

"Ni 'di cael lot o bobl yn enquireo am bike hires dros y weekend," meddai Dwynwen Davies, 23, o siop feics Beiciau Afan, Aberystwyth.

"Fi'n credu bod nhw eisiau joino mewn gyda'r buzz a beicio rownd a gwylio'r bobl ar wahanol parts o'r routes.

"Ni'n cynnig stondin lawr ar y prom dydd Sadwrn ac mae gyda ni mecanic yn mynd lawr hefyd i fixo beics a helpu pobl lleol i ddysgu mwy am bethau beicio."

'Ysbrydoli beicwyr ifanc'

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, aelod cabinet dros yr economi ac adfywio, Cyngor Sir Ceredigion: "Rydym wrth ein boddau y bydd Ceredigion yn cynnal y Pencampwriaethau Beicio Cenedlaethol eleni.

"Bydd yn gyfle i ni arddangos Ceredigion fel lle gwych i feicwyr ac ar gyfer twristiaeth, lle byddwch yn profi golygfeydd gwych – ein harfordir, cefn gwlad a'r mynyddoedd.

"Mae gan Geredigion hanes balch o ran cynhyrchu beicwyr elitaidd gan gynnwys Josh Tarling, Stevie Williams a Gruff Lewis ac rydym yn gobeithio y bydd cynnal y digwyddiad hwn yn ysbrydoli beicwyr ifanc a fydd yn gallu gweld eu harwyr ar waith.

"Bydd cynnal y digwyddiad hwn yn darparu buddion economaidd sylweddol i'r Sir ac edrychwn ymlaen at groesawu'r Pencampwriaethau i Geredigion."